Gosodiad desg ddylunio

Dylunio Arloesi Cymhwysol

MAES PWNC ÔL-RADDEDIG TRWY DDYSGU

Darganfyddwch y cyrsiau o fewn Dylunio Arloesi Cymhwysol
Lluniadau dylunio cynnyrch ar y gweill i ddylunio cefnogaeth fraich fecanyddol

Pam Astudio Dylunio Arloesi Cymhwysol?

Gellir defnyddio meddylfryd dylunio i newid y byd. Mae'r cwrs Dylunio Arloesi Cymhwysol yn cynnig llwybr i unigolion sy'n dymuno arwain arloesedd trwy greadigrwydd a meddylfryd dylunio cymhwysol, mewn amrywiaeth o ddiwydiannau cysylltiedig. Mae'r cwrs wedi ei gynllunio i gynnig astudiaeth uwch mewn dylunio arloesi, a phwyslais ar ddefnyddio creadigrwydd ac offer arloesi, ynghyd â datblygu'r sgiliau sydd eu hangen arnoch i arwain, cydweithio a hwyluso mewn meysydd sydd angen arloesedd. 

Cyfleoedd Gyrfa mewn Dylunio Arloesi Cymhwysol

Bwriad Gradd Meistr mewn Dylunio Arloesi Cymhwysol yw gwella eich rhagolygon a'ch cyfleoedd am yrfa, gan gynnig yr hyblygrwydd i addasu'r cwrs i'r maes neu ddiwydiant sydd o ddiddordeb arbennig i chi.   Gall myfyrwyr ddewis astudio naill ai'n llawn amser neu'n rhan-amser, a all gynnwys astudio ochr yn ochr â chyflogaeth mewn swydd gysylltiedig.  Fel myfyriwr graddedig y cwrs Meistr byddwch yn gallu cyflawni rolau arwain, rheoli ac ymarfer mewn meysydd sy'n gysylltiedig â dylunio mewn amryw o ddiwydiannau, yn ogystal â dilyn llwybrau entrepreneuraidd.     

Gellir cyflogi graddedigion fel: 

  • Dylunwyr mewn asiantaethau 
  • Dylunwyr cynnyrch mewn cwmnïau ymgynghorol 
  • Arbenigwyr technegol mewn peirianneg a dylunio â chyfrifiadur 
  • Rheolwyr marchnata 
  • Rheolwyr datblygu busnes 
  • Arweinwyr datrysiadau arloesol 
  • Rheolwyr strategaethau 
  • Ymgynghorwyr annibynnol  
  • Perchnogion busnes hunangyflogedig 
  • Athrawon uwchradd. 

Ein Hymchwil o fewn Dylunio Arloesi Cymhwysol

Mae ein hymchwil yn rhan gyson o'n briffiau byw ac mae'r canlyniadau'n dod yn rhan annatod o brosesau datblygu cynnyrch ac arloesi newydd mewn cwmnïau. Bu'r profiadau cymhwysol yma a phrofiad o'r byd go iawn yn fodd i nifer o'n myfyrwyr gael eu henwi ar batentau gyda'n cwmnïau partner.  

Gweler ein fideo o astudiaethau achos.

Meysydd pwnc eraill sydd yn berthnasol

Efallai y bydd gennych ddiddordeb yn y meysydd pwnc yma hefyd.

Meysydd pwnc eraill sydd yn berthnasol

Efallai y bydd gennych ddiddordeb yn y meysydd pwnc yma hefyd.

It looks like you’re visiting from outside the UK, would you like to be redirected to the international page?