Edrych ar athrawes mewn dosbarth

Addysgu

MAES PWNC ÔL-RADDEDIG TRWY DDYSGU

Darganfyddwch y cyrsiau o fewn Addysgu

1af

yn y DU am Werth Ychwanegol (Addysg)

Guardian Good University Guide 2023

Disgybl ysgol yn ysgrifennu mewn llyfr

Pam Astudio Addysgu?

Mae Cymru ar flaen y gad lle mae diwygio'r byd addysg yn y cwestiwn ac mae ein cyrsiau newydd wedi'u cynllunio gyda'r newidiadau holistig a phedagogaidd hynny mewn golwg, sy'n golygu y byddwch yn graddio gyda set o sgiliau dysgu a sylfaen wybodaeth hynod gyfoes, a byddwch yn  gyflogadwy iawn.

Fideo - Dysgu ym Mangor

Hyfforddi i fod athro cynradd yng Nghymru a thu hwnt.

Cyfleoedd Gyrfa mewn Addysgu

Bydd ein cyrsiau TAR Cynradd ac Uwchradd yn eich paratoi ar gyfer amrywiol rolau ym myd addysg, yn ogystal â datblygu sgiliau arwain hanfodol. Ar ôl cwblhau'r cwrs byddwch yn ennill Statws Athro Cymwysedig (QTS) a gydnabyddir ledled Cymru a Lloegr ac sy'n aml yn drosglwyddadwy ymhellach i ffwrdd ar gyfer mynediad i'r proffesiwn dysgu.

Fel myfyriwr graddedig addysg athrawon o Brifysgol Bangor byddwch yn graddio gyda dealltwriaeth fodern, drylwyr o ddysgu ac o arweinyddiaeth addysgol, a wnaiff eich gosod chi ar wahân i athrawon eraill sydd newydd gymhwyso ac a fydd yn llwyfan ragorol ichi ddatblygu eich gyrfa ddysgu mewn byr o dro.

Ein Hymchwil o fewn Addysgu

Yn yr Ysgol Gwyddorau Addysgol, cewch ddysgu am ganfyddiadau ymchwil diweddaraf eich maes a bydd cyfle i weithio gydag arbenigwyr ymchwil o fri rhyngwladol i gynllunio a gweithredu eich ymchwil eich hun. Fe'ch addysgir gan unigolion sy'n cael eu cydnabod yn rhyngwladol am eu harbenigedd ac sy'n cael eu gwahodd yn rheolaidd i siarad mewn amryw o ddigwyddiadau amlwg ledled y byd.

Mae tîm TAR addysg athrawon Bangor yn ymwneud ag ymchwil amrywiol sy'n cyfrannu at fodiwlau'r cwrs, gan gynnwys ymchwil o fri rhyngwladol ar ddwyieithrwydd ac amlieithrwydd, mentora, Anghenion Addysgol Arbennig ac arweinyddiaeth ysgol.

Meysydd pwnc eraill sydd yn berthnasol

Efallai y bydd gennych ddiddordeb yn y meysydd pwnc yma hefyd.

Meysydd pwnc eraill sydd yn berthnasol

Efallai y bydd gennych ddiddordeb yn y meysydd pwnc yma hefyd.

It looks like you’re visiting from outside the UK, would you like to be redirected to the international page?