Llun agos o sgrin cyfrifiadur yn dangos cod

Gwyddor Data

MAES PWNC ÔL-RADDEDIG TRWY DDYSGU

Darganfyddwch y cyrsiau o fewn Gwyddor Data

Pam Astudio Gwyddor Data?

Rydym yn gweld ein holl fyfyrwyr fel unigolion ac yn deall eich cryfderau. Mae drysau ein swyddfeydd yn agored bob amser, p'un a ydych eisiau trafod eich gwaith academaidd, ymchwilio i ddamcaniaethau neu gael sgwrs am fywyd.

Mae unrhyw un sy'n dewis astudio gyda ni yn cael help pob cam o'r ffordd a bydd yn graddio gyda chymhwyster y mae cyflogwyr yn ei hoffi yn ogystal ag atgofion a ffrindiau fydd yn para am oes.

Rydym yn gymuned fywiog gyda labordai â chyfarpar da, cyfrifiaduron wedi eu rhwydweithio gan ddefnyddio meddalwedd o safon diwydiant a'n llyfrgell ein hunain. Mae ein hymchwil a rhyngweithio eraill â diwydiant yn sicrhau bod ein cyrsiau'n adlewyrchu'r datblygiadau diweddaraf. Mae'r staff yn ymarferwyr yn y maes sy'n gweithio ar brojectau ar y cyd ac yn gweithredu fel ymgynghorwyr i ddiwydiant.

Mae llawer o'n graddau cyfrifiadureg wedi eu dilysu gan Gymdeithas Cyfrifiaduron Prydain sef y sefydliad siartredig ym maes technoleg gwybodaeth. 

Yn ddiweddar rydym wedi sefydlu labordy rhwydweithio mawr - a gynlluniwyd i roi'r cyfle i ddylunio a gweinyddu rhwydweithiau a chefnogi'r gwaith o gyflwyno modiwlau pensaernïaeth gyfrifiadurol.

Rydym yn defnyddio labordai cyfrifiadurol o'r radd flaenaf, cyfrifiaduron rhwydwaith a meddalwedd o safon diwydiant ym mhob cwrs.

Rydym yn rhoi pwyslais cryf ar agweddau galwedigaethol gan gynnwys cyflwyniadau llafar ac ysgrifenedig, sgiliau cyfathrebu a dealltwriaeth o arferion busnes.

Cyfleoedd Gyrfa o fewn Gwyddor Data

Mae ein graddedigion yn fedrus wrth ddefnyddio data er budd dealltwriaeth gan ddefnyddio dulliau ac algorithmau hynod gyfoes. Mae'r cyfuniad hwn yn caniatáu ichi fanteisio ar y ffin newydd o ddysgu peirianyddol a deallusrwydd artiffisial, gan eich gwneud yn addas i swyddi strategol mewn diwydiant a'r byd academaidd.

Ein Hymchwil o fewn Gwyddor Data

Mae ein harbenigeddau ymchwil yn cynnwys graffeg gyfrifiadurol, delweddu, canfod gwybodaeth a chyfathrebu. Caiff arbenigedd yn y meysydd hyn ei ymgorffori yn ein gweithgareddau dysgu, gan roi llwybr uniongyrchol i fyfyrwyr i'r ymchwil ddiweddaraf mewn Cyfrifiadureg.

Mae ein hymchwil wedi gwneud yn eithriadol o dda, ac mae tystiolaeth o hynny yn y Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil (REF) diweddaraf.

Trefnir ein gweithgareddau ymchwil mewn tri grŵp ymchwil, sy'n gorgyffwrdd i wneud y gorau o adnoddau a chyfleoedd i gydweithio.

Meysydd pwnc eraill sydd yn berthnasol

Efallai y bydd gennych ddiddordeb yn y meysydd pwnc yma hefyd.

Meysydd pwnc eraill sydd yn berthnasol

Efallai y bydd gennych ddiddordeb yn y meysydd pwnc yma hefyd.

It looks like you’re visiting from outside the UK, would you like to be redirected to the international page?