Graffeg Gwyddoniaeth

Nanodechnoleg

MAES PWNC ÔL-RADDEDIG TRWY DDYSGU

Darganfyddwch y cyrsiau o fewn Nanodechnoleg

Pam Astudio Nanodechnoleg?

  • Rydym yn un o'r ychydig iawn o brifysgolion yn y DU sy'n cynnig amser i ymarfer llunio dyfeisiau amser mewn amgylchedd ystafell lân ac amser i ddefnyddio offer micro-beiriannu laser.
  • Rydym wedi datblygu cwrs astudio sy'n cyflwyno dealltwriaeth fanwl o'r disgyblaethau hyn ac sydd hefyd yn cynnig cyfle i gael profiad ymarferol ym maes nanodechnoleg a microgynhyrchu, a ddarperir trwy gyfres o fodiwlau a phrojectau a ddewiswyd yn ofalus.
  • Mae ein rhaglenni gradd yn ymdrin â phob agwedd ar nanodechnoleg, gan gynnwys dylunio, cynhyrchu a mesur dyfeisiau. Mae ein hadnoddau nanogynhyrchu yn ein hystafell nanogynhyrchu lled-ddargludyddion lân, ynghyd ag arbenigedd cyfunol ein staff mewn nanoffotoneg, nanoelectroneg a nanogynhyrchu'n cynnig cyfuniad unigryw o hyfforddiant theoretig ac ymarferol i baratoi myfyrwyr at yrfa lwyddiannus yn y maes gwaith cyffrous hwn.
  • Mae gennym hanes hir o arbenigedd mewn peirianneg electronig ac rydym yn awr yn cynnig amrywiaeth arbennig o gyfoethog o fodiwlau.
  • Mae Peirianneg Electronig ym Mangor yn y 4ydd safle yn y DU am Gynnyrch Ymchwil.
  • Mae gennym ymchwil gref mewn optoelectroneg, cyfathrebu, systemau storio data, microelectroneg, bioelectroneg a gwyddor deunyddiau, systemau rheoli ac offeryniaeth.
  • Byddwch yn cael defnyddio cyfleusterau labordy o'r radd flaenaf. Yn ogystal â labordai dysgu mawr, gydag offer o safon uchel, mae gennym sawl labordy ymchwil hefyd.
  • Rydym yn gymuned fywiog gydag ystafelloedd cyfrifiaduron â chyfarpar da gyda meddalwedd o safon diwydiant a'n llyfrgell ein hunain.

Cewch eich dysgu gan staff sy'n beirianwyr electronig profiadol ac sy'n cynnal cysylltiadau â diwydiant i sicrhau bod cyrsiau'n adlewyrchu datblygiadau diweddar.

Cyfleoedd Gyrfa o fewn Nanodechnoleg

Mae nanodechnoleg a microgynhyrchu'n cynnig cyfuniad effeithiol o wyddor ffisegol, efelychiad mathemategol a phrofiad ymarferol mewn sgiliau microgynhyrchu a bydd yn eich paratoi at amrywiaeth eang o opsiynau gyrfaol, yn ogystal â chyfleoedd i astudio am ddoethuriaeth. Bydd cwmnïau sy'n gweithio ym maes electroneg cyflym, ffotoneg integredig a bio-beirianneg yn gofyn yn gyson am staff hyfforddedig ym maes  nanodechnoleg a microgynhyrchu. Bydd rhai graddedigion yn dylunio'r fersiwn ddiweddaraf o sglodion telathrebu, tra bydd eraill yn datblygu sglodion ffotonig newydd ar gyfer ceir LIDAR a cheir hunan-yrru. Mae'r maes biosynhwyro a bio-beirianneg, yn benodol, yn gyson angen arbenigedd sy'n rhychwantu'r meysydd a grybwyllir uchod.

Mae astudio nanodechnoleg yn gofyn am lawer iawn o offer ymchwil arbenigol, mae'r sgiliau hyn yn arbenigol iawn ac yn ddymunol iawn i gyflogwyr. Mae gennym hanes hir o arbenigedd electroneg a ffotoneg a'r isadeiledd, sy'n ein galluogi i gyflwyno graddau mor arbenigol.

Ein Hymchwil o fewn Nanodechnoleg

Mae ein hymchwil ym maes ffotoneg a chyfathrebu yn cynnwys dyfeisiau lled-ddargludyddion graddfa nanomedr a synwyryddion ar gyfer cymwysiadau biofeddygol, ymysg eraill. Rydym yn archwilio systemau cyfathrebu optegol ar raddfa fawr sy'n galluogi trosglwyddo data ar raddfa o 40 gigabeit yr eiliad. Rydym yn gwneud ymchwil mewn nifer o feysydd ymchwil ffotonig allweddol ac yn cydweithredu â phrifysgolion yn yr Almaen, Rwsia, yr UD, Fietnam a Tsieina.  

Mae'r gweithgareddau ymchwil cysylltiedig ym Mangor yn cynnwys nanoffotoneg, nanoelectroneg, nano-optomecaneg, MEMS (systemau microelectromecanyddol), nanogynhyrchu, microgynhyrchu laser, metadeunyddiau, synwyryddion ffibr optegol, graffen a deunyddiau 2D eraill, bioelectroneg, microhylifeg ac electroneg hyblyg.

Meysydd pwnc eraill sydd yn berthnasol

Efallai y bydd gennych ddiddordeb yn y meysydd pwnc yma hefyd.

Meysydd pwnc eraill sydd yn berthnasol

Efallai y bydd gennych ddiddordeb yn y meysydd pwnc yma hefyd.

It looks like you’re visiting from outside the UK, would you like to be redirected to the international page?