Llyfrgell y gyfraith

Y Gyfraith

Darganfyddwch ein Cyrsiau Ôl-raddedig Trwy Ddysgu

Dod o hyd i gwrs

Pam Astudio'r Gyfraith?

Mae ein graddau ôl-radd yn y gyfraith yn ceisio gwthio datblygiadau myfyrwyr ymhellach, gan eu galluogi i gymryd golwg agosach ar y gyfraith yn gyffredinol neu ddilyn arbenigedd penodol. Mae ein cyfres o raglenni hyfforddedig  wedi cael eu cynllunio’n ofalus i ymateb i’r datblygiadau diweddaraf yn y diwydiant cyfreithiol, a chynhyrchu graddedigion galluog, gwybodus.

I’ch helpu gyda’ch astudiaethau rydym yn darparu amrywiaeth o adnoddau dysgu a gefnogir gan staff profiadol. Byddwch yn elwa o'n Llyfrgell y Gyfraith helaeth, a gaiff ei goruchwylio gan Lyfrgellydd y Gyfraith penodedig sy'n rhoi cefnogaeth a chyngor arbenigol i fyfyrwyr. Yn ogystal ag adnoddau printiedig ac electronig sy'n adlewyrchu addysgu ac ymchwil cyfredol yn yr Ysgol, mae'r casgliadau'n cynnwys cyfeiriadau, statudau, adroddiadau'r gyfraith, cyfnodolion, llyfrau, pamffledi, cyhoeddiadau swyddogol, papurau newydd a chronfeydd data ar-lein. 

Cyfleoedd Gyrfa o fewn Y Gyfraith

Mae cymhwyster ôl-radd yn y Gyfraith yn rhoi cyfle i chi ehangu eich sylfaen wybodaeth a chynyddu eich cyflogadwyedd. Yn wir, mae galw cynyddol am ôl-raddedigion y Gyfraith mewn diwydiannau eraill o ganlyniad i'r sgiliau trosglwyddadwy y byddwch yn eu hennill trwy astudio ar gyfer gradd yn y gyfraith, fel dadansoddi, gwerthuso a rhesymu; ymchwil; cyfathrebu a chyflwyno; gwaith tîm; datrys problemau; ac, wrth gwrs, gwybodaeth drylwyr o systemau cyfreithiol ledled y byd.

Bydd gan raddedigion gyda graddau ôl-raddedig o Ysgol y Gyfraith Bangor ragolygon rhagorol i gael gwaith mewn amrywiaeth o swyddi mewn cwmnïau cyfreithiol, llywodraeth leol, y gwasanaeth sifil, diwydiant, rheolaeth, sefydliadau rhyngwladol a mwy. Mae llawer o raddedigion yn mynd ymlaen i gyfleoedd astudio ymchwil pellach. 

Ein Hymchwil o fewn Y Gyfraith

Yma yn Ysgol Y Gyfraith Bangor mae staff academaidd yn cymryd rhan amlwg mewn ymchwil. Mae llawer o staff yr Ysgol hefyd wedi gweithio o'r blaen fel gweithwyr proffesiynol ym maes y gyfraith mewn swyddi fel barnwyr, cyfreithwyr ac ynadon.  Golyga hyn bod y wybodaeth ddiweddaraf am eu meysydd pwnc ar flaenau bysedd y rhai sy'n addysgu.  Pam mae hyn yn bwysig? Mae'n ein galluogi i ddod ag addysgu'n fyw a rhoi'r wybodaeth a'r dulliau diweddaraf o feddwl yn y maes i chi yn y dosbarth.  

Ynghyd â'r cyfuniad cyfoethog hwn o gefndiroedd, mae ymchwil aelodau staff yn adlewyrchu diddordebau ac arbenigedd mewn meysydd sy'n cynnwys Cyfraith Hawliau Dynol, Cyfraith Ryngwladol, Cyfraith Cyllid Corfforaethol, Cyfraith Forwrol, Cyfraith Fasnachol, Cyfraith Droseddol, Cyfraith Cwmnïau, Cyfraith Weinyddol, Cyfraith Plant a Theuluoedd a Chyfraith Eiddo Deallusol.   

Meysydd pwnc eraill sydd yn berthnasol

Efallai y bydd gennych ddiddordeb yn y meysydd pwnc yma hefyd.

Meysydd pwnc eraill sydd yn berthnasol

Efallai y bydd gennych ddiddordeb yn y meysydd pwnc yma hefyd.

It looks like you’re visiting from outside the UK, would you like to be redirected to the international page?