Nyrs yn dal stethosgop

Baglor mewn Nyrsio (Dysgu o bell)

Baglor mewn Nyrsio (Dysgu o bell)

Dysgu o bell yw'r dewis delfrydol i'r rhai sydd angen hyblygrwydd yn eu hastudiaethau.

Mae hwn yn gyfle cyffrous i ddarpar fyfyrwyr nyrsio ddewis llwybr hyblyg i astudio, gan ddefnyddio technolegau arloesol i gysylltu â'r Brifysgol ac i ymarfer, ac a fydd yn cefnogi Byrddau Iechyd ledled Cymru i ddarparu'r gweithlu nyrsio sydd ei angen i ddiwallu anghenion y boblogaeth leol.

Ar hyn o bryd rydym yn cynnig graddau dysgu o bell israddedig mewn:

Dim angen talu ffioedd dysgu

Os ystyrir chi yn fyfyriwr cartref o’r Deyrnas Unedig mewn perthynas â ffioedd dysgu, a all ymrwymo i weithio yng Nghymru am ddwy flynedd ar ôl graddio, gallech gael eich ffioedd dysgu wedi eu talu'n llawn trwy Gynllun Bwrsariaethau GIG Cymru ynghyd â gwneud cais am gyfraniad bwrsariaeth o £1,000 tuag at gostau byw. Gallwch hefyd wneud cais am y fwrsariaeth yn seiliedig ar brawf modd sy'n ddibynnol ar incwm y cartref ac unrhyw gyllid arall. At hyn, mae meini prawf cymhwysedd ar gyfer cymorth gofal plant, lwfans dibynnydd a lwfans i rieni sy’n dysgu. Gallwch hefyd wneud cais am gyllid cynhaliaeth ar sail incwm ac am fenthyciad cyfradd llog isel gan Cyllid Myfyrwyr. Gan fod y cwrs hwn yn cael ei ariannu gan GIG Cymru, ni allwn dderbyn ceisiadau gan fyfyrwyr tramor. 

Mae manylion llawn ar gael ar dudalen gyllid y GIG.

 

Bwrsariaethau TG Myfyrwyr

Bydd Prifysgol Bangor mewn partneriaeth â HEIW yn sicrhau nad yw mynediad at dechnoleg yn rhwystr i ymgeiswyr â chymwysterau addas sydd eisiau gyrfa ym maes gofal iechyd. Dan y cynllun hwn mae ymgeiswyr ar y cwrs hwn yn gymwys i gael bwrsariaeth gwerth £400 (mae telerau ac amodau yn berthnasol) i fynd tuag at brynu cyfrifiadur os ydynt yn byw yn un o'r 20% o ardaloedd isaf (ardaloedd 1-382) ym Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru. Gallwch weld a yw eich cod post yn eich gwneud yn gymwys ar y dudalen hon ar wefan Llywodraeth Cymru. 

It looks like you’re visiting from outside the UK, would you like to be redirected to the international page?