Ariannu eich cwrs gofal iechyd
Mae dau opsiwn cyllid ar gael ar hyn o bryd i fyfyrwyr sy'n cychwyn cwrs iechyd wedi'i gomisiynu ym Mhrifysgol Bangor: cyllid GIG Cymru ar gyfer y rhai sydd wedi ymrwymo i weithio yng Nghymru ar ôl cymhwyso (2 flynedd ar gyfer gradd) neu gyllid trwy'r system benthyciadau myfyrwyr.
Bwrsariaeth y GIG
Mae cyllid y GIG ar gael i fyfyrwyr sydd wedi ymrwymo i weithio yng Nghymru am y cyfnod y cytunwyd arno fel ymarferydd cofrestredig yn yr arbenigedd y gwnaethoch hyfforddi ynddo ac ac sy'n cofrestru ar Gynllun Cofrestr Addysg Cymru.
Gwasanaeth Grantiau Myfyrwyr GIG Cymru sy’n gweinyddu’r ymrwymiadau i weithio yng Nghymru ar ôl cymhwyso. Ar wefan y gwasanaeth, mae amodau a thelerau’r ymrwymo ynghyd â chwestiynau a ofynnir yn aml. Argymhellir y dylech chi ddarllen yr wybodaeth honno a chysylltu â Gwasanaeth Grantiau Myfyrwyr GIG Cymru ynglŷn ag unrhyw ymholiadau.
Cyllid MyfyrwyrOs ydych chi'n bwriadu peidio ag ymrwymo i weithio yng Nghymru am ddwy flynedd ar ôl cymhwyso, gallwch barhau i astudio cwrs gofal iechyd yng Nghymru a gwneud cais am gyllid ar gyfer ffioedd a chostau cynnal trwy Gyllid Myfyrwyr.
Bwrsariaeth y GIG
Mae cynllun bwrsariaeth GIG Cymru yn darparu help ar gyfer ffioedd a chostau byw.
Dim ond i fyfyrwyr mae’n eu hystyried yn rhai sy’n perthyn i’r Deyrnas Unedig y bydd y GIG yn rhoi cymorth ariannol ar gyfer costau byw.
Gwasanaeth Grantiau Myfyrwyr GIG Cymru sy’n gweinyddu’r ymrwymiadau i weithio yng Nghymru ar ôl ymgymhwyso. Ar wefan y gwasanaeth, mae amodau a thelerau’r ymrwymo ynghyd â chwestiynau a ofynnir yn aml. Argymhellir y dylech chi ddarllen yr wybodaeth honno a chysylltu â Gwasanaeth Grantiau Myfyrwyr GIG Cymru ynglŷn ag unrhyw ymholiadau.
Cyrsiau cymwys
Fel rheol, gall myfyrwyr ar y cyrsiau canlynol wneud cais am gyllid GIG Cymru os ydynt yn ymrwymo i weithio yng Nghymru ar ôl cofrestru yn eu harbenigedd, ar ôl cymhwyso:
- Radiograffeg Diagnostig (BSc)
- Nyrsio (BN)
- Bydwreigiaeth (BMid)
- Nyrsio (PGDip / MSc)
- Ffisiotherapi (MSc / PGDip)
- Astudiaethau Cynorthwyydd Meddygon (MSc)
Sut i wneud cais
Gallwch wneud cais ar wefan Gwasanaeth Grantiau Myfyrwyr GIG Cymru pan fyddwch wedi derbyn cynnig o le i astudio.
Bydd yr Ysgol yn hysbysu Gwasanaethau Grantiau Myfyrwyr GIG Cymru o'r ymgeiswyr hynny sydd wedi derbyn cynnig o le astudio. Yna gall ymgeiswyr wneud cais am arian y GIG trwy'r system ymgeisio ar-lein ar gyfer Gwasanaethau Grantiau Myfyrwyr GIG (Cymru).
Lle bynnag yr ydych yn y DU, rhaid i chi wneud cais trwy’r Gwasanaethau Grantiau Myfyrwyr GIG.
Fel rhan o'ch cais, rydych chi'n gwneud cais am gymorth ffioedd dysgu, sy'n darparu grant sy'n cwmpasu'r holl ffioedd ac sy'n cael ei asesu heb incwm ac yn helpu gyda chostau byw. Fe'ch cynghorir i ddarllen Cwestiynau Cyffredin a Thelerau ac Amodau Cynllun Bwrsariaeth GIG Cymru.
Gwasanaethau Grantiau Myfyrwyr sy’n gweithredu Cynlluniau Bwrsariaeth GIG Cymru, sy'n darparu cyllid i fyfyrwyr gofal iechyd ar gyrsiau a gomisiynwyd ac a ariannwyd gan GIG Cymru. Os ydych chi'n ystyried gyrfa broffesiynol ym maes gofal iechyd ac yr hoffech wybod mwy am y gefnogaeth ariannol y byddwch chi'n ei gael yn ystod eich hyfforddiant, yna cysylltwch â:
Ymholiadau Bwrsariaeth - Ffôn: 02920 905380
E-bost: abm.sas@wales.nhs.uk
Gwefan: https://pcgc.gig.cymru/ein-gwasanaethau/gwasanaethau-dyfarniadau-myfyrwyr/
Fideo - Cyllido Cwrs GIG
Cyllid Myfyrwyr
Os ydych chi'n bwriadu peidio ag ymrwymo ymlaen llaw i weithio yng Nghymru ar ôl cymhwyso, gallwch barhau i astudio cwrs gofal iechyd yng Nghymru a gwneud cais am gyllid trwy wasanaeth Cyllid Myfyrwyr. Os byddwch yn optio allan o gyllid y GIG, bydd angen i chi gofrestru eich penderfyniad gyda Gwasanaeth Dyfarniadau Myfyrwyr GIG Cymru cyn gwneud cais am Gyllid Myfyrwyr. Er nad ydych yn derbyn Cynllun Bwrsariaeth GIG Cymru, gallwch barhau i gael mynediad at system gymorth y GIG ar gyfer costau teithio a llety sy'n gysylltiedig â lleoliadau.
Sut i wneud cais
Gallwch wneud cais i Gyllid Myfyrwyr i ariannu eich ffioedd dysgu a helpu tuag at gostau byw yn seiliedig ar ble rydych chi fel arfer yn byw yn y DU cyn dechrau'r cwrs. Gwnewch gais ar-lein pan fyddwch wedi derbyn cynnig o le ar y cwrs: