Logo 1884 ar gefndir gwyn

Tate and Lyle

Cydweithio â diwydiant

Lleihau gwastraff bwyd byd-eang

Ers 1989, bu Canolfan Biogyfansoddion Prifysgol Bangor yn troi planhigion yn gynnyrch, gan weithio gyda chwmnïau rhyngwladol mawr i ddatblygu technolegau bio-seiliedig sy'n lleihau'r effaith ar yr amgylchedd.  

Cenhadaeth ddiweddaraf y Ganolfan oedd arbed miliynau o dunelli o wastraff o’r diwydiant cynhyrchu bwyd. 

Mae ymchwil a wnaed yn golygu y gellir defnyddio gweddillion o gnydau a dyfir yn yr UE, gan gynnwys had rêp, tomatos ac olewydd, y mae llawer ohono ar hyn o bryd yn mynd i safleoedd tirlenwi neu'n cael ei adael i bydru yn y caeau, fel dewis arall seiliedig ar blanhigion yn lle protein anifeiliaid. 

Mae cydweithio ar broject ymchwil gwerth £3.95m gyda Tate & Lyle, a chewri bwyd eraill ledled Ewrop, bellach yn golygu y gellir defnyddio'r gwastraff hwn fel dewisiadau amgen seiliedig ar blanhigion yn lle protein anifeiliaid, sydd wedi ei ddefnyddio’n hanesyddol i dewychu ac ychwanegu gwead at gynhyrchion bwyd. 

Trwy’r gwaith yr ydym wedi’i wneud gyda Phrifysgol Bangor a phartneriaid y project Pro-Enrich, rydym yn cefnogi’r gwaith o wneud ein ffatri yn yr Wyddgrug yn safle lle nad aiff unrhyw wastraff i safleoedd tirlenwi, yn unol â’n diben o ‘Wella Bywydau i Genedlaethau’  trwy ofalu am ein planed

Will Balantyne,  Rheolwr Technegol Categori, Tate a Lyle

Mae’r cydweithio rhwng Y Ganolfan Biogyfansoddion a Tate & Lyle yn hynod bwysig wrth alluogi ymchwil arloesol sy'n bwysig yn fyd-eang i helpu canfod atebion i'r heriau cymdeithasol mwy sylweddol sy’n ein hwynebu, gan gynnwys cynhyrchu bwyd yn gynaliadwy.

Adam Charlton,  Uwch Gymrawd Ymchwil, Y Ganolfan Biogyfansoddion

It looks like you’re visiting from outside the UK, would you like to be redirected to the international page?