Llong y Prince Madog allan ar y môr, gydag effaith hudolus

Buddion dwyieithrwydd arloesol

Effaith ein hymchwil

Mae ymchwil gan ein hadran Ieithyddiaeth, Iaith Saesneg a Dwyieithrwydd yn datgelu bod gan blant dwyieithog sgiliau meddwl mwy effeithlon.

Trwy gyflwyno dull newydd radical o faes economeg, roedd ymchwilwyr ym Mangor yn gallu mesur sgiliau meddwl plant yn fwy cywir a chynhwysfawr nag erioed o'r blaen, gan ddangos bod plant dwyieithog ar gyfartaledd 6.5% yn fwy effeithlon yn eu sgiliau meddwl na phlant uniaith. 

Mae'r dull newydd hwn yn ddatblygiad blaengar byd-eang ym maes astudiaethau dwyieithog.
 

Mae’r canlyniadau cadarnhaol hyn yn pwysleisio y gall dysgu dwy iaith neu fwy fod yn fwy buddiol nag a feddyliwyd eisoes i ddatblygiad plant. Mae hyn yn bwysig i ni yma yng Nghymru ac yn wir i gymunedau dwyieithog ledled y byd.

Dr Athanasia Papastergiou,  Prif Awdur, Darlithydd Dwyieithrwydd ym Mhrifysgol Bangor

Bydd y canlyniadau cadarnhaol hyn yn helpu i dawelu unrhyw ofnau posib sydd gan bobl ynghylch magu plant yn ddwyieithog, ac yn amlygu y gall dysgu dwy iaith fod o fudd i ddatblygiad plant.

Dr Eirini Sanoudaki,  Uwch Ddarlithydd, Ieithyddiaeth

It looks like you’re visiting from outside the UK, would you like to be redirected to the international page?