Llong y Prince Madog allan ar y môr, gydag effaith hudolus

Ysgogi perfformiad athletaidd

Effaith ein hymchwil

Mewn cydweithrediad ag UK Sport, mae ymchwilwyr ym Mangor yn ymgymryd ag ymchwil o'r radd flaenaf.  

Gan archwilio sut i adnabod perfformwyr chwaraeon hynod fedrus, trwy systemau datblygu talent arloesol, mae ymchwilwyr yn gofyn y cwestiwn: 'Beth sydd ei angen i athletwr ffynnu go iawn?'

Mae canfyddiadau o'r project ymchwil Pathway to Podium eisoes wedi'u gweithredu gan Swim England, GB Hockey, a British Canoeing.

Caiff canfyddiadau ymchwil o’r fath eu cynnwys yn ein gradd ar unwaith, weithiau cyn bod yr ymchwil honno ar gael yn eang yn y sector. Nid yw ein myfyrwyr ni yn yr un cae â myfyrwyr eraill a raddiodd mewn Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff gan eu bod yn mynd â'r dysgu hwn at ddarpar gyflogwyr.

Dr Gavin Lawrence,  Uwch Ddarlithydd mewn Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff

Mae arbenigedd academaidd Dr Gavin Lawrence, yr Athro Tim Woodman a’u tîm o fewn Gwyddorau Chwaraeon ac Ymarfer Corff ym Mhrifysgol Bangor, ynghyd ag arbenigedd cymhwysol staff UK Sport a’r EIS yn golygu bod gan ganfyddiadau’r prosiect hwn y potensial i siapio systemau datblygiad Chwaraeon y DU ar bob lefel.

Dr Ben Holliss (PhD),  Uwch Wyddonydd Llwybrau Perfformiad, EIS / UK Sport

It looks like you’re visiting from outside the UK, would you like to be redirected to the international page?