Mae Cronfa Bangor, sy'n cynnwys rhoddion oddi wrth gyn-fyfyrwyr ac yn cael ei rheoli gan y Swyddfa Datblygu a Chysylltiadau Cyn-fyfyrwyr, wedi cefnogi Canolfan Bedwyr, Canolfan Gwasanaethau, Technoleg ac Ymchwil Cymraeg Prifysgol Bangor i gynhyrchu cyfres o bodlediadau. Mae cyn-fyfyrwyr Prifysgol Bango yn rhannu sut y bu i astudio'r Gymraeg ym Mangor ddylanwadu ar eu gyrfaoedd. Mae hynny’n cynnwys cyfleoedd proffesiynol a datblygu arbenigedd, ac mae'r cyn-fyfyrwyr yn rhoi cipolwg gwerthfawr inni ar rôl y Gymraeg yn eu bywydau proffesiynol.
Cafodd pennod gyntaf y podlediad newydd - Bangor be wedyn? (Bangor – what’s next) – ei lansio. Dros bum podlediad, bydd cyn-fyfyrwyr yn rhannu sut maen nhw wedi elwa o astudio pwnc neu fodiwl drwy gyfrwng y Gymraeg yn y Brifysgol, ac yn eu gyrfaoedd. Huw Gwynn, Swyddog Hyrwyddo Addysg Uwch yn y Gymraeg yng Nghanolfan Bedwyr sy’n cyflwyno. Dyma bodlediad Cymraeg sy’n anelu at ysbrydoli myfyrwyr chweched dosbarth a’r brifysgol trwy rannu profiadau cyn-fyfyrwyr, gan dynnu sylw at fanteision astudio cyrsiau a modiwlau trwy gyfrwng y Gymraeg.
Yn ystod y gyfres, bydd Huw yn sgwrsio â gwesteion adnabyddus Cymraeg ac yn gofyn am y gwahanol ffyrdd y mae'r iaith wedi eu helpu ar ôl iddynt gwblhau eu haddysg. Ymhlith y cyfranwyr mae Sioned Dafydd, aelod o’r band Cymraeg Fleur De Lys, Huw Harvey, a’r chwaraewr rygbi Teleri Davies.
Fel rhan o’r cyffro, bu’r cyn-fyfyriwr a galwr Telethon Cronfa Bangor, Liam Evans — sydd bellach yn newyddiadurwr ac yn gyflwynydd pêl-droed gyda’r BBC, yn rhannu ei brofiadau.
Doedd fy Nghymraeg i ddim ar ei gorau cyn i mi ddod i’r Brifysgol, ond mi roddodd astudio drwy’r Gymraeg y seilwaith cadarn yna i fi benderfynu mynd ymlaen i swyddi, yn hyderus i siarad yr iaith.
Mae ‘na alw am sgiliau Cymraeg. Dwi’n darlledu’n ddwyieithog y rhan fwyaf o’r amser. Ond faswn i byth wedi cael y cyfle hwnnw heblaw fy mod i’n siarad Cymraeg. Faswn i byth wedi cael fy nhroed i mewn gyda’r BBC heb fy mod i’n ddwyieithog.
Dwi wir wedi mwynhau sgwrsio gyda gwesteion hynod ddifyr ac amrywiol dros yr wythnosau diwethaf a dod i wybod sut mae'r Gymraeg wedi eu helpu nhw yn eu gyrfaoedd. O wybod sut mae'r Gymraeg wedi cyfrannu at siapio gyrfaoedd llewyrchus, y gobaith ydi y bydd hynny yn ysbrydoli myfyrwyr a darpar-fyfyrwyr i barhau i astudio trwy gyfrwng y Gymraeg. Hoffwn fynegi fy niolch i Gronfa Bangor y Brifysgol am ariannu datblygu'r podlediad ac i Aled Jones, o gwmni Y Pod am gynhyrchu'r penodau.