Dewch yn Galwr Myfyrwyr
Cysylltwch â chyn-fyfyrwyr. Rhannwch eich taith fel myfyriwr ym Mhrifysgol Bangor. Datblygwch sgiliau trosglwyddadwy, enillwch brofiad proffesiynol, a gwnewch effaith ystyrlon yn eich prifysgol - a hynny i gyd wrth weithio ochr yn ochr â thîm cefnogol.
BETH FYDDWCH CHI'N EI WNEUD?
Fel un o’r rhai fydd yn codi arian i Gronfa Bangor, byddwch yn cysylltu â chyn-fyfyrwyr Prifysgol Bangor— graddedigion a gerddodd yr un llwybrau â chi ar un adeg. Drwy sgyrsiau dilys a chyfeillgar, byddwch yn:
o Eu hailgyflwyno nhw i fywyd ym Mhrifysgol Bangor heddiw, neu yn eu diweddaru nhw am hynny.
o Rhannu eich profiadau a straeon am y campws
o Gwrando wrth iddyn nhw fyfyrio ar eu hamser eu hunain yn y brifysgol a bywyd ar ôl Bangor
o Eu hannog i gefnogi prosiectau sy'n newid bywydau drwy Gronfa Bangor
o O ysgoloriaethau ac interniaethau i fwrsariaethau teithio byd-eang a mentrau sy'n dathlu iaith a diwylliant Cymru — byddwch yn helpu cyn-fyfyrwyr i weld y gwahaniaeth y gall eu rhodd ei wneud.
BETH YW'R MANTEISION I CHI?
o Enillwch £14.12 yr awr
o Meithrin sgiliau byd go iawn mewn cyfathrebu, adrodd straeon a pherswadio
o Derbyn hyfforddiant llawn a chefnogaeth un-i-un—does dim angen profiad
o Cael sgyrsiau ysbrydoledig gyda chyn-fyfyrwyr wrth iddyn nhw rannu straeon eu bywyd ar ôl gadael Bangor
o Mwynhewch sifftiau hyblyg wedi'u cynllunio o amgylch eich astudiaethau
o Derbyniwch eirda cryf i hybu’ch gyrfa yn y dyfodol
o Cyfle i gael eich cyflogi ar ymgyrchoedd yn y dyfodol wrth i chi ddatblygu gyda'r tîm
AI CHI YW'R HYN RYDYM NI'N CHWILIO AMDANO?
o Rydych chi’n fyfyriwr ail neu drydedd flwyddyn, ac yn gallu rhannu’ch profiad o fywyd prifysgol yn hyderus
o Rydych chi'n ddibynadwy, yn broffesiynol, ac yn brydlon bob amser
o Mae gennych chi lais clir a chyfeillgar ar y ffôn ac rydych chi'n mwynhau sgwrs dda
o Rydych chi'n gyfathrebwr naturiol—cynnes, eglur, deniadol, ac yn wrandäwr gwych
o Rydych chi'n mwynhau cysylltu â phobl a rhannu'r hyn sy'n gwneud Bangor yn arbennig
o Rydych chi'n hyblyg ac yn ymdopi â heriau newydd yn rhwydd
o Rydych chi'n siarad o’ch calon ac mae gennych chi ddiddordeb gwirioneddol ym mywyd myfyrwyr
o Rydych chi'n ymwneud â chlybiau, cymdeithasau, neu fywyd myfyrwyr ym Mangor—neu efallai eich bod yn teimlo’n angerddol am y gymuned (mae cymryd rhan yn fantais, ond nid yn hanfodol!)
o Mae sgiliau yn y Gymraeg neu ieithoedd eraill yn fantais—ond eich brwdfrydedd chi sy'n wirioneddol bwysig
YR HYN Y BYDD ANGEN I CHI YMRWYMO IDDO
Os cewch eich rhoi ar y rhestr fer, cewch eich gwahodd i gymryd rhan mewn galwad ffôn ffug fer. Yna gwahoddir y rhai addawol i gyfweliad yn rhan o'r broses ddethol derfynol.
Cyn i'r galwadau ddechrau, bydd sesiwn hyfforddi orfodol ddydd Mercher, 29 Hydref, 12:30 – 16:30, i sicrhau eich bod wedi paratoi'n llawn ac yn hyderus i ddechrau.
Mae'r ffonio yn dechrau ar ddydd Iau 30 Hydref 2025, a bydd yr ymgyrch yn parhau am 4 wythnos, gan orffen ar ddydd Iau 27 Tachwedd 2025.
Bydd angen i chi fod ar gael ar gyfer y cyfnodau ffonio canlynol:
🕕 Dydd Llun i ddydd Iau — 6pm i 9pm
🕓 Dydd Sul — 4pm i 7pm