Lleoedd Clirio Ar Gyrsiau Cyfrifiadureg
Mae Cyfrifiadureg yn bwnc ardderchog i bobl greadigol sydd isio datrys problemau, arloesi a newid y byd. Os byddwch chi yn llwyddo i gael lle ar gwrs Cyfrifiadureg drwy Clirio yn 2026, wedi graddio, byddwch wedi eich arfogi gyda'r holl sgiliau datrys problemau ac ymarferol y bydd eu hangen arnoch i ragori mewn llawer o wahanol swyddi.
Darllenwch ymlaen i ddarganfod pam y dylech ddewis Cyfrifiadureg ym Mhrifysgol Bangor a dod i wybod mwy am eich opsiynau.
Bydd cyrsiau sydd ar gael drwy Clirio wedi’u nodi’n glir ar y wefan pan fydd Clirio yn agor yn swyddogol ym mis Gorffennaf. Gall argaeledd newid yn ystod y cyfnod Clirio.
Pam dewis gradd Cyfrifiadureg drwy Clirio ym Mhrifysgol Bangor?
- Byddwch yn astudio mewn amgylchedd gyfeillgar a chefnogol gyda thechnoleg o'r radd flaenaf - labordai â chyfarpar da, cyfrifiaduron wedi eu rhwydweithio yn ddefnyddio meddalwedd o safon diwydiant.
- Cewch eich dysgu gan arbenigwyr sydd yn ymwneud ag amrywiaeth o ymchwil ym maes cyfrifiadureg, ac yn gwneud defnydd o’r cyfleusterau rhagorol.
- Sicrwydd o lety i fyfyrwyr Clirio sy’n astudio yng nghampws Bangor.
- Mae awyrgylch gyfeillgar i'r ddinas a chewch gymdeithasu trwy gyfrwng y Gymraeg.
- Mae amgylchedd naturiol ein hardal gyfagos yn arbennig!
- Rydym yn rhoi blaenoriaeth i ofalu am a chefnogi ein myfyrwyr.
- Dewis eang o Glybiau a Chymdeithasau myfyrwyr.
Cofrestru Diddordeb Mewn Clirio 2026
Cyrsiau Cyfrifiadureg Prifysgol Bangor
Eich Camau Nesaf
Cwblhewch ein Ffurflen Clirio Arlein
Llenwch y ffurflen ar-lein i gofrestru eich diddordeb mewn Clirio neu i wneud cais drwy Clirio os oes gennych eich canlyniadau.
Cysylltwch â’r Llinell Gymorth Clirio
Cyn y diwrnod canlyniadau Lefel A ac yn ystod cyfnod canlyniadau Lefel A, cysylltwch â’r Llinell Gymorth Clirio ar 0800 085 1818.
Cysylltwch â ni drwy Sgwrs Fyw
Yn ystod cyfnod canlyniadau Lefel A, gallwch hefyd drafod eich opsiynau dros Sgwrs Fyw.