Mae llawer o fyfyrwyr yn sicrhau lle i astudio ym Mhrifysgol Bangor drwy'r broses Glirio bob blwyddyn. Dyma rai o brofiadau ein myfyrwyr o fynd drwy'r broses Glirio a dewis Bangor fel eu lle i astudio.
Llwyddiant Clirio: Dafydd Thomas
[Disgrifiad Gweledol] Dafydd yn eistedd yn wynebu’r camera, ei ben yng nghanol y ffrâm. Cefndir gwyn blaen, siwmper lwyd syml.
[Disgrifiad Gweledol] Golygfa awyr dros y Fenai, y dŵr yn las llachar, gyda Phont Porthaethwy yn y cefndir. Yn y blaen, mae Prif Adeilad y Celfyddydau’n sefyll.
[0.00] Dwi’n fyfyriwr trydydd flwyddyn yn Brifysgol Bangor.
[0.05] Cwpwl o wythnosau cyn Diwrnod Canlyniadau, doeddwn i ddim yn siŵr am fy opsiwn cyntaf, felly dechreuais edrych ar brifysgolion eraill – a dyna sut benes i lan ym Mangor drwy’r system Clirio.
[Disgrifiad Gweledol] Golygfa o sgrin gliniadur gyda gwybodaeth y broses Glirio. Llaw yn ymddangos yn y ffrâm, yn sgrolio’n bwyllog drwy'r tudalen.
[Disgrifiad Gweledol] Cynghorydd ar linell gymorth Glirio yn siarad ar y ffôn gyda darpar fyfyriwr ar ddiwrnod canlyniadau. Posteri Clirio’n llenwi’r cefndir.
[0.14] Ar ôl y Diwrnod Canlyniadau, fel ddes i lan i Fangor am ddiwrnod agored, ag wrth edrych rownd y llety, mi oeddwn i reit impressed – a’r ffaith bod y llety yn warantedig, mi wnaeth hyn dynnu’r stress i ffwrdd o’r broses Glirio.
[Disgrifiad Gweledol] Myfyriwr yn dal arwydd coch yn darllen “Hall Tours 3 Teithiau Neuaddau” o flaen bws ar Ddiwrnod Agored, gan groesawu ymwelwyr gyda gwên.
[Disgrifiad Gweledol] Criw o bobl yn cerdded gyda’i gilydd ar hyd llwybr ym Mhentref Ffriddoedd, yn cerdded o’r bws tuag at un o’r neuaddau.
[Disgrifiad Gweledol] Golygfa drwy ffenest – teulu’n crwydro drwy’r pentref ar Ddiwrnod Agored.
[Disgrifiad Gweledol] Grŵp o fyfyrwyr yn eistedd o gwmpas bwrdd cegin mewn fflat yn Ffriddoedd – un yn gweithio, eraill yn chwerthin a sgwrsio. Yn y cefndir, mae myfyriwr yn coginio.
[Disgrifiad Gweledol] Tri myfyriwr yn cerdded ar hyd llwybr ym Mhentref Ffriddoedd, dau arall yn eistedd ar fainc gerllaw, yn sgwrsio’n hamddenol.
[0.27] Wrth edrych o gwmpas y Brifysgol, roeddwn i’n hoff iawn o’r cyfleusterau, yn enwedig y labordai a’r cwch ymchwil ym Mhorthaethwy.
[Disgrifiad Gweledol] Myfyriwr gyda gwallt pinc llachar, mewn côt labordy, yn edrych drwy ficrosgop mewn labordy modern y Brifysgol.
[Disgrifiad Gweledol] Nifer o fyfyrwyr yn brysur mewn sesiwn labordy, pob un wrth ei waith. Darlithydd yn rhoi cyfarwyddyd gofalus i un myfyriwr.
[Disgrifiad Gweledol] Golygfa awyr o’r llong ymchwil ar lan y Fenai, gyda Phentref Porthaethwy yn y cefndir.
[0.35] Roeddwn hefyd yn hoff iawn o Pontio, gyda’r ardaloedd astudio, y caffi a’r sinema i gyd o dan un tô.
[Disgrifiad Gweledol] Myfyrwyr yn pwyso yn erbyn wal Pontio, tra bod eraill yn y cefndir yn ymlacio ac yn ciwio yn y caffi.
[Disgrifiad Gweledol] Myfyriwr yn eistedd yn dawel yn ardal astudio Pontio, pen yn isel dros waith, yn canolbwyntio.
[Disgrifiad Gweledol] Dau fyfyriwr yn sgwrsio yn gaffi Pontio, coffi mewn cwpan 'take away' y gellir ei ailddefnyddio – wedi’i frandio gyda logo’r Brifysgol.
[Disgrifiad Gweledol] Dafydd yn eistedd yn wynebu’r camera unwaith eto – y cefndir gwyn a’r siwmper lwyd yn aros yn gyson drwy gydol y fideo.
[0.41] Roedd cael lefel uchel o addysgu yn bwysig i mi – a dwi ‘di ffeindio hyn ym Mangor.
[Disgrifiad Gweledol] Darlithfa lawn – darlithydd yn siarad o flaen y dosbarth, ystafell yn llawn egni ac awydd dysgu.
[Disgrifiad Gweledol] Dafydd yn dychwelyd i’r ffrâm - y cefndir gwyn a’r siwmper lwyd yn aros yn gyson drwy gydol y fideo.
[0.45] Rhai o fy hoff bethau am Fangor ydi’r awyr agored – yn enwedig mynyddoedd Eryri a thraethau Ynys Môn. Dwi’n hefyd hoffi gwario amser efo ffrindiau, a mae’r cyfleoedd chwaraeon yma wedi bod yn wych.
[Disgrifiad Gweledol] Dŵr yn llifo dros gerrig yng nghanol awyr agored Eryri – golygfa sy’n tynnu anadl rhywun.
[Disgrifiad Gweledol] Clip o Lyn Idwal yn Cwm Idwal – lliwiau oren yr hydref i’w weld yn y dirwedd.
[Disgrifiad Gweledol] Tri myfyriwr yn sefyll ar lan y llyn, yn syllu dros y dŵr – yn ymwybodol o harddwch y lle.
[Disgrifiad Gweledol] Myfyriwr yn cerdded ar draws traeth ar Ynys Môn gyda crys-T melyn, sbectol haul sy’n adlewyrchu'r môr a’r tywod.
[Disgrifiad Gweledol] Golygfa o’r awyr dros Lyn Padarn yn Llanberis – criw o fyfyrwyr Bangor yn padlfyrddio’n hamddenol. Yn y pellter, mae Castell Dolbadarn a throed yr Wyddfa’n cwblhau’r olygfa.
[Disgrifiad Gweledol] Myfyriwr yn chwarae lacrosse ac yn rhedeg tua’r camera, ei ffon lacrosse yn gadarn yn ei law, y bêl yn glir i’w gweld.
[Disgrifiad Gweledol] Dau fyfyriwr yn gwneud ‘fistbump’ wrth gymryd rhan mewn gweithgaredd dringo dan do mewn adeilad wal ddringo leol yn llawn egni a sialens.
[0.56] Yn fy marn i, y peth pwysic allwch chi wneud yn ystod y cyfnod Glirio ydi dod i weld y Brifysgol, cael teimlad o’r lle, a cherdded rownd Fangor a gwneud y gorau o’r Diwrnod Agored.
[Disgrifiad Gweledol] Dafydd yn dychwelyd i’r ffrâm unwaith eto – y cefndir yn wyn a’r siwmper yn llwyd.
[Disgrifiad Gweledol] Myfyriwr yn cerdded i fyny Ffordd y Coleg, heibio’r adeilad Cerddoriaeth. Brics coch y wal a blodau cynnar yn dechrau blodeuo ar y coed gerllaw yn ychwanegu cynhesrwydd i’r shot.
[Disgrifiad Gweledol] Golygfa o ongl arall – mae’r un myfyriwr bellach wedi ymuno â dau arall, yn parhau i gerdded gyda’i gilydd i fyny’r stryd.
[Disgrifiad Gweledol] Dafydd yn eistedd, unwaith eto, yn cloi’r fideo yn y ffordd y dechreuodd.
[1.07] Roedd mynd drwy’r system Glirio yn hawdd iawn.
[Disgrifiad Gweledol] Logo Prifysgol Bangor yn ymddangos ar ôl ddwy streipen goch felyn a gwyn groesi’r sgrin.
Llwyddiant Clirio: Victoria D'Ambrogio
[0:00] [DISGRIFIAD GWELEDOL] Victoria yn eistedd wrth bwrdd yn siarad ac gwenu.
[0:05] [DISGRIFIAD GWELEDOL] Victoria yn eistedd ar soffa melyn mewn ystafell gyda posteri ar y wal.
[0:05] Helo, fy enw i yw Victoria, rydw i yn fy 4edd blwyddyn. Rwy’n dod o er Lerpwl ac yn astudio’r Gyfraith gydag Eidaleg.
[0:12] [DISGRIFIAD GWELEDOL] Stiwdant yn eistedd ar wal gyda laptop a coffi wrth y mor.
[0:12] Yn anffodus ges i ddim y canlyniadau yr oeddwn yn eu disgwyl ar y diwrnod, ond fe weithiodd popeth allan yn iawn.
[0:21] [DISGRIFIAD GWELEDOL] Victoria yn eistedd ar soffa melyn mewn ystafell gyda posteri ar y wal.
[0:21] Roeddwn i'n gwybod fy mod yn bendant eisiau astudio'r Gyfraith gydag Eidaleg
[0:24] [DISGRIFIAD GWELEDOL] Stiwdant yn y ffug lys wedi gwisgo mewn gwisg cwrt.
[0:24] felly'r peth cyntaf wnes i oedd edrych ar brifysgolion eraill oedd yn caniatáu'r Gyfraith gydag Eidaleg ac roedd Bangor yn un o'r llefydd yma.
[0:30] [DISGRIFIAD GWELEDOL] Victoria yn eistedd ar soffa melyn mewn ystafell gyda posteri ar y wal.
[0:33] [DISGRIFIAD GWELEDOL] Clip awyrol o'r Fenai ac Pont Menai.
[0:35] Roedd mynd trwy'r system Glirio ym Mangor yn brofiad mor braf.
[0:38] [DISGRIFIAD GWELEDOL] Aeolod o staff ar y linell Glirio.
[0:41] Aeth yr holl bryder a oeddwn i'n ei deimlo i ffwrdd drwy'r system Glirio ym Mangor.
[0:42] [DISGRIFIAD GWELEDOL] Aeolod o staff ar y linell Glirio.
[0:47] [DISGRIFIAD GWELEDOL] Victoria yn eistedd ar soffa melyn mewn ystafell gyda posteri ar y wal.
[0:47] Siaradais â rhywun ar y ffôn ar y llinell gymorth.
[0:50] Ffoniais y rhif ar y wefan ac roedd yn gyflym iawn i gysylltu â nhw ac roedden nhw yn barod iawn i helpu.
[0:57] [DISGRIFIAD GWELEDOL] Grwp o fyfyrwyr yn eistedd ac yn siarad o fewn 'Barlows'.
[0:57] Doeddwn i ddim yn teimlo'n bryderus yn dod i Fangor fel myfyriwr Clirio, roeddwn i'n teimlo bod croeso mawr i mi
[1:01] [DISGRIFIAD GWELEDOL] Grwp o fyfyrwyr yn cerdded ty allan i lety stiwdant.
[1:02] Roeddwn i'n teimlo fy mod yn haeddu bod yno. Roedd pawb mor hyfryd a doedd ffitio i mewn ddim yn broblem.
[1:06] [DISGRIFIAD GWELEDOL] Grwp o fyfyrwyr yn eistedd ac yn trafod mewn ystafell o fewn yr Undeb Fyfyrwyr.
[1:10] [DISGRIFIAD GWELEDOL] Victoria yn eistedd ar soffa melyn mewn ystafell gyda posteri ar y wal.
[1:10] Mae mor braf bod ym myd natur yn hytrach na dinas fawr, a all fod yn frawychus iawn am eich tro cyntaf oddi cartref.
[1:19] [DISGRIFIAD GWELEDOL] Myfyrwyr yn eistedd ar soffa lledar brown yn edrych ar ffon symudol, yn trafod ac chwerthin.
[1:19] Mae gennych chi gymuned gefnogol iawn o'ch cwmpas. Mae'r athrawon yn hynod gefnogol.
[1:23] [DISGRIFIAD GWELEDOL] Myfyrwyr yn eistedd mewn darlith.
[1:25] [DISGRIFIAD GWELEDOL] Grwp o fyfyrwyr yn sefyll ar y teras wrth ymyl y prif adeilad yn siarad ac yn chwerthin.
[1:25] Rydych chi'n gwneud ffrindiau anhygoel trwy'r cymdeithasau. Mae cymaint o gymdeithasau i ymuno â nhw
[1:28] [DISGRIFIAD GWELEDOL] Grwp o fyfyrwyr yn trafod wrth fynediad yr Undeb Fyfyrwyr.
[1:30] Ac felly gallwch chi bob amser wneud ffrindiau mor hawdd a byddwch bob amser yn cael amser gwych.
[1:34] [DISGRIFIAD GWELEDOL] Victoria yn eistedd ar soffa melyn mewn ystafell gyda posteri ar y wal.
[1:34] Rydw i wedi ymuno â dipyn o gymdeithasau yn fy amser ym Mangor, gan gynnwys dawns, athletau, trampolinio
[1:38] [DISGRIFIAD GWELEDOL] Myfyrwyr mewn stiwdio yn dawnsio.
[1:41] [DISGRIFIAD GWELEDOL] Clip awyrol o drac rhedeg Treborth, y Fenai ac Pont Menai.
[1:43] dim ond ychydig i ddewis ohonynt, ond mae cymaint mwy ac maen nhw i gyd yn anhygoel.
[1:44] [DISGRIFIAD GWELEDOL] Grwp o fyfyrwyr yn trampolinio mewn gamffa.
[1:47] [DISGRIFIAD GWELEDOL] Victoria yn eistedd ar soffa melyn mewn ystafell gyda posteri ar y wal.
[1:47] Bangor oedd y dewis iawn i mi yn bendant.
[1:50] Mae popeth yn digwydd am reswm ac yn amlwg ni ches i fy newis cyntaf o brifysgol
[1:56] Ond dwi ddim yn difaru fy newis o gwbl. Rwy'n teimlo mor hapus, ac rwyf wedi cael yr amser gorau.
[1:58] [DISGRIFIAD GWELEDOL] Grwp o fyfyrwyr yn trafod ac yn bwyta pitsa.
[2:02] [DISGRIFIAD GWELEDOL] Victoria yn eistedd ar soffa melyn mewn ystafell gyda posteri ar y wal.
[2:02] Ni ddylai unrhyw un sy'n aros am eu canlyniadau ac yn poeni am fynd trwy'r broses glirio boeni o gwbl.
[2:08] Mae'n rhywbeth hollol allan o'ch dwylo. Dydych chi ddim yn gwybod beth sy'n mynd i ddigwydd ar y diwrnod
[2:12] Ond gallaf eich sicrhau, petaech yn mynd drwy’r system Glirio a’ch bod yn galw i fyny ym Mangor, y byddwch yn teimlo yn gartrefol ac mor hapus.

Proffil myfyriwr Erin Hughes: Astudiaethau Plentyndod ac Ieuenctid
Dyma brofiad Erin Hughes o Dregarth ger Bangor, a ddaeth i'r Brifysgol trwy'r broses Glirio.