Darganfod Diwylliant Tsieina – Gweithdai Amser Cinio Am Ddim!
Archwilio Celf Lacr Tsieineaidd: Creu Ffaniau Traddodiadol wedi’u Paentio â Llaw!
Ymunwch â ni am gyfres o weithdai creadigol a hamddenol amser cinio sy’n dathlu harddwch celfyddydau a chrefftau Tsieineaidd. Bob wythnos, cewch gyfle i archwilio sgil draddodiadol wahanol, dan arweiniad tiwtoriaid o Sefydliad Confucius Prifysgol Bangor.
Mynediad: Am ddim – nid oes angen cofrestru
Mynediad i bawb: Ar sail y cyntaf i’r felin
Mae’r gweithdy ymarferol hwn yn cyflwyno cyfranogwyr i dechneg lacr draddodiadol Tsieineaidd a ddefnyddir yn y celfyddydau addurnol. Gan ddefnyddio lacr naturiol a pigmentau mwynol, bydd cyfranogwyr yn creu patrymau llifeiriol ac yn trosglwyddo eu dyluniadau i ffan bambŵ neu sidan.
Yn y gweithdy hwn, byddwch yn:
- Dysgu am arwyddocâd diwylliannol ac artistig celf lacr yn Tsieina
- Arbrofi gyda lliw a phatrwm drwy dechneg dan arweiniad
- Creu ffan lacr unigryw i’w chadw
Darperir yr holl ddeunyddiau, ac nid oes angen unrhyw brofiad blaenorol.