Darganfod Diwylliant Tsieina – Gweithdai Amser Cinio Am Ddim!
Celf Rhwbio Tsieineaidd: Cadw Hanes drwy Grefft
Ymunwch â ni am gyfres o weithdai creadigol a hamddenol amser cinio sy’n dathlu harddwch celfyddydau a chrefftau Tsieineaidd. Bob wythnos, cewch gyfle i archwilio sgil draddodiadol wahanol, dan arweiniad tiwtoriaid o Sefydliad Confucius Prifysgol Bangor.
Mynediad: Am ddim – nid oes angen cofrestru
Mynediad i bawb: Ar sail y cyntaf i’r felin
Mae’r gweithdy hwn yn cyflwyno celf rhwbio Tsieineaidd, techneg draddodiadol a ddefnyddir i gadw arysgrifau cerfiedig a gweithiau celf.
Yn y gweithdy hwn, byddwch yn:
- Dysgu am bwysigrwydd hanesyddol celf rhwbio yn Tsieina
- Darganfod sut mae dyluniadau’n cael eu trosglwyddo o arwynebau cerfiedig i bapur
- Creu eich gwaith celf rhwbio eich hun gan ddefnyddio offer syml
- Mynd adref gyda darn gorffenedig