Darganfod Diwylliant Tsieineaidd – Gweithdai Cinio Am Ddim!
Gweithdy Tai Chi: Myfyrdod Symudol ar Gyfer y Corff a’r Meddwl
Mynediad: Am ddim – dim angen cofrestru
Mynediad: Ar sail y cyntaf i’r felinCymerwch saib ymlaciol amser cinio a mwynhewch gyfres o weithdai creadigol sy’n dathlu harddwch celf a chrefft Tsieina. Bob wythnos, byddwch yn archwilio sgil draddodiadol wahanol, dan arweiniad tiwtoriaid o Sefydliad Confucius Prifysgol Bangor.
Ymlaciwch cyn y gwyliau gyda sesiwn Tai Chi ysgafn wedi’i chynllunio i adfer cydbwysedd a thawelwch.
Yn y gweithdy hwn, byddwch yn:
Ddysgu’r technegau anadlu a symud sylfaenol o Tai Chi er mwyn ymlacio a chanolbwyntio’n fewnol.
Archwilio sut mae egwyddorion traddodiadol Tai Chi yn hybu cytgord corfforol ac eglurder meddwl.
Ymarfer cyfres fer o symudiadau Tai Chi y gallwch barhau â hi gartref.
Mae’r sesiwn hon yn cynnig gofod heddychlon i ail-lenwi egni ac i brofi llif myfyriol y gelfyddyd Tsieineaidd dragwyddol hon. Argymhellir dillad cyfforddus. Nid oes angen unrhyw brofiad blaenorol – dewch yn syml gyda meddwl agored ac ewyllys i symud gyda gras a rhwyddineb.