Llun agos o sgrin cyfrifiadur yn dangos cod

Microbeiriannu Laser a Labordy-ar-sglodyn Ôl-raddedig trwy Ymchwil - Mynediad: 2024

Manylion y Cwrs

  • Cymhwyster PhD
  • Hyd 2-3 blynedd
  • Modd Astudio

    Llawn amser

  • Lleoliad

    Bangor

Bwrdd cylched electronig

Darllen mwy: Peirianneg Electronig

Mae dyfodiad yr oes ddigidol yn gwneud electroneg a dyfeisiau electronig yn bwysicach nag erioed. Mae ein harbenigwyr o'r safon uchaf yn datgelu technolegau ac ymchwil arloesol i'n myfyrwyr. Ein huchelgais yw defnyddio micro a nanodechnoleg i fanteisio i'r eithaf ar ddeunyddiau a thechnegau newydd.

Modern interior server room data center

Darllen mwy: Gwyddor Data

Mae ein cyrsiau gwyddor data yn cyflwyno myfyrwyr i dechnegau cyfoes dan arweiniad ymchwil a fydd yn dod yn arwydd o'r 21ain ganrif. Mae ein hymchwil a rhyngweithio eraill â diwydiant yn sicrhau bod ein cyrsiau'n adlewyrchu'r datblygiadau diweddaraf. Mae'r staff yn ymarferwyr yn y maes sy'n gweithio ar brojectau ar y cyd ac yn gweithredu fel ymgynghorwyr i ddiwydiant.

Caenu nanodechnoleg ar gyfer gwydr

Darllen mwy: Nanodechnoleg

Mae nanodechnoleg a microgynhyrchu'n golygu gweithio ar raddfa fach iawn, o atomau unigol i adeileddau sy'n mesur dim mwy nag ambell ficrometr. Mae ein meysydd ymchwil yn ymdrin â phob agwedd ar nanodechnoleg, gan gynnwys dylunio, cynhyrchu a mesuriadau dyfeisiau. Mae'r adnoddau nanogynhyrchu sydd gennym yn yr ystafell lân ar gyfer nanogynhyrchu lled-ddargludyddion, ynghyd ag arbenigedd ein staff ym meysydd nanoffotoneg, nanoelectroneg a nanogynhyrchu'n cynnig cyfuniad unigryw o hyfforddiant theoretig ac ymarferol.

Tonnau môr gyda thyrbinau gwynt yn y cefndir

Darllen mwy: Ffiseg

Rydym wedi bod yn dysgu Ffiseg Eigion ers dros 50 mlynedd. Mae ein hymchwil yn seiliedig ar ddatblygu a chymhwyso technegau arsylwi a modelu rhifiadol o'r radd flaenaf. Nod ymchwil gyfredol yw gwella rhagfynegiadau'r hinsawdd a'r tywydd, gan ganolbwyntio'n arbennig ar swyddogaeth y llanw a'u hesblygiad yn ystod Hanes y Ddaear.

Tyrbin gwynt a ffotofoltaidd

Darllen mwy: Ynni Adnewyddadwy

Mae ein staff yn gweithio ar bob agwedd ar ymchwil ac addysgu adnewyddadwy ym maes ynni adnewyddadwy. Mae ein hymchwil ym maes cynhyrchu ynni solar a'r genhedlaeth nesaf o baneli solar yn arwain yn y maes ac mae'n thema sy'n rhedeg trwy ein holl addysgu ac ymchwil. Mae ein staff yn arwain y byd ym maes ymchwil ynni adnewyddadwy o'r môr, maent wedi ysgrifennu “y” gwerslyfr ar y pwnc, ac ar flaen y gad o ran datblygiadau masnachol ac ymchwil a datblygu yn y sector, gan arwain projectau ymchwil mawr a rhoi arweiniad yn llawer o'r cynadleddau pwysicaf yn y byd.

It looks like you’re visiting from outside the UK, would you like to be redirected to the international page?