Ynglŷn â’r Cwrs Yma
Mae'r radd hon wedi ei seilio ar ein ffocws cryf ar gyfuno gwaith ac ymarfer beirniadol/damcaniaethol a thynnu'r gwahanol elfennau at ei gilydd. Yn y semester cyntaf byddwch ym cymryd modiwlau ar greadigrwydd ac ymchwil ac ym maes theori cyfryngau, cyn dechrau ar y gwaith o gynhyrchu traethawd hir sylweddol ar sail ymarfer, dan oruchwyliaeth aelod staff arbenigol.
Bydd y traethawd hir yn cynnwys elfen adfyfyriol/feirniadol a phortffolio, a gellir ei seilio ar unrhyw un o’r disgyblaethau ymarferol a ddysgir, yn cynnwys ysgrifennu, ysgrifennu i’r sgrin, perfformio, cynhyrchu Ffônedu a radio, gwneud ffilmiau a rhaglenni dogfen, ysgrifennu a chynhyrchu i’r cyfryngau digidol a newyddiaduraeth. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn meddu ar radd gyntaf ragorol mewn disgyblaeth berthnasol neu brofiad ymarferol/diwydiannol cyfwerth, a’r gallu i weithio'n annibynnol i gwblhau project sylweddol.
Hyd y Cwrs
Blwyddyn llawn-amser neu ddwy flynedd rhan-amser.
Gofynion Mynediad
Gradd anrhydedd 2.i dda neu brofiad cyfatebol mewn diwydiant. Sgôr IELTS o 6.5 (dim cydran yn is 6.0), neu gyfwerth, os nad Saesneg neu Gymraeg yw eich iaith gyntaf.
Gyrfaoedd
Bydd yr MRes mewn Ymarfer Creadigol yn eich paratoi i ddiwallu'r angen, a nodir fwyfwy o fewn diwydiant, am ymarferwyr medrus sydd â phrofiad o ddatblygu projectau yn y sector creadigol.
Rydym yn ceisio rhoi myfyrwyr mewn cysylltiad â chyrff perthnasol yn y diwydiant a threfnu amrywiaeth o weithdai a chystadlaethau proffesiynol, e.e. trwy'r cynllun Menter trwy Ddylunio.
Mae cyn-raddedigion wedi sicrhau swyddi mewn amrywiaeth o ddiwydiannau creadigol (a chysylltiedig), gan gynnwys darlledu a gwneud ffilmiau, hysbysebu/cysylltiadau cyhoeddus, datblygu gemau a thwristiaeth.