Ynglŷn â’r Cwrs Yma
Mae’r cwrs gradd Meistr mewn Dwyieithrwydd hwn ym Mhrifysgol Bangor yn cynnig rhaglen gynhwysfawr, amrywiol a hyblyg o hyfforddiant mewn pynciau amlddisgyblaethol sy'n gysylltiedig ag astudio dwyieithrwydd ac amlieithrwydd, gan gynnwys materion yn ymwneud ag iaith, addysg a gwybyddiaeth. Mae'r radd hon a'i gwaith cwrs, ei hyfforddiant, ei hastudiaeth annibynnol a’i thraethawd hir yn rhoi'r offer a'r sgiliau damcaniaethol, dadansoddol a methodolegol angenrheidiol i wneud ymchwil uwch mewn maes yn ymwneud â dwyieithrwydd neu amlieithrwydd.
Rydym yn adran gyfeillgar ac agos-atoch gyda staff sy’n frwd dros drosglwyddo eu harbenigedd a’u gwybodaeth am y pwnc ac rydym yn ymrwymo i ddarparu profiad dysgu o’r ansawdd uchaf i’n myfyrwyr. Mae ein hymchwil yn llywio ein darpariaeth addysgu ar bob lefel, ac mae’r myfyrwyr yn elwa ar frwdfrydedd staff sydd ar flaen y gad ym maes ymchwil a datblygiadau academaidd. Mae ein staff wedi ymrwymo i ddarparu profiad rhagorol i fyfyrwyr gyda chefnogaeth gref bersonol i’r myfyrwyr trwy gydol eu hastudiaethau MA mewn astudiaethau Dwyieithrwydd.
Yn dilyn yr elfennau hyfforddedig bydd myfyrwyr y radd hon yn cwblhau project traethawd hir annibynnol lefel Meistr ar sail ymchwil. Mae staff yr adran yn cynnig goruchwyliaeth bersonol a chefnogaeth academaidd ragorol ar gyfer traethodau hir ar amrywiaeth eang o bynciau ym maes dwyieithrwydd ac amlieithrwydd gan ddefnyddio fframweithiau methodolegol cymhwysol, damcaniaethol, arbrofol, ethnograffig neu ar sail corpws. Mae’r rhain yn cynnwys ond ddim yn gyfyngedig i: seicoieithyddiaeth, caffael iaith mewn plant, caffael ail iaith, dwyieithrwydd ac amlieithrwydd, dadansoddi disgwrs gwybyddol, dadansoddi disgwrs beirniadol, dadansoddi amlfoddol, TEFL (dysgu Saesneg fel iaith dramor), caffael ail iaith (SLA) ac addysgu iaith, ieithyddiaeth corpws, iaith a chyfathrebu, ffoneteg a ffonoleg, morffogystrawen, semanteg a phragmateg, amrywio a newid iaith, iaith a chyfathrebu, anhwylderau iaith ac ieithyddiaeth Gymraeg.
Gall myfyrwyr ar ein cwrs MA Dwyieithrwydd ddefnyddio cyfleusterau dysgu o’r radd flaenaf sy’n cynnwys:
- Stiwdio sain/recordio a labordy lleferydd o safon broffesiynol (gydag offer recordio Yamaha, Alesis a RØDE)
- Labordy tracio llygaid (gyda thraciwr llygaid Tobii Pro X2-60)
- Labordy potensial digwyddiad-berthynol (ERP) (gyda pheiriant actiCHamp Plus ERP)
- A meddalwedd ac adnoddau ieithyddiaeth corpws pwrpasol.
Gall ein staff hefyd gynnig cefnogaeth yn y meysydd hyn y maent yn arbenigwyr ynddynt:
- Meddalwedd ystadegol megis: SPSS, R-Statistics ac Excel.
- Meddalwedd seicoleg arbrofol fel E-Prime, GORILLA Experiment Builder, Open Sesame a Webexp.
- Meddalwedd dadansoddi acwstig a seinegol fel: Audacity, Praat, a SIL Speech Analyzer
- Profion seicometrig / iaith safonol (e.e. EVT, BPVS, NARA, WISC, K-BIT, TROG, CELF)
- Amrywiaeth eang o feddalwedd corpws a choncordans arbenigol gan gynnwys CHILDES a CLAN
Ym Mangor byddwch yn rhan o gymuned ymchwil ôl-radd fywiog ac arloesol. Bydd cefnogaeth trwy wahanol ddigwyddiadau ar hyd y flwyddyn, gan gynnwys sgyrsiau unigol, seminarau a gweithdai anffurfiol a chynadleddau mawr. Mae llawer o'r rhain yn agored nid yn unig i staff academaidd, ond hefyd i fyfyrwyr ac i'r cyhoedd.
Hyd y Cwrs
Blwyddyn yn llawn-amser, 2-3 blynedd yn rhan-amser.
Cynnwys y Cwrs
Beth fyddwch chi’n ei astudio ar y cwrs yma?
Modiwlau Gorfodol
Dulliau ymchwil ym maes Iaith a Dwyieithrwydd - Yn y modiwl hwn bydd myfyrwyr yn dysgu am ystod o ddulliau ymchwil arbrofol a ddefnyddir ar hyn o bryd yn yr astudiaeth seicolegol o iaith a dwyieithrwydd (a samplu cwestiynau damcaniaethol cyfoes), gan ystyried cynllun arbrofol a chryfderau a gwendidau pob dull.
Dulliau Ymchwil Ieithyddiaeth - Mae’r modiwl hwn yn darparu’r sylfeini, yr hyfforddiant a’r offer angenrheidiol i gynllunio a chyflawni ymchwil ansoddol, meintiol, arbrofol neu ethnograffig mewn ieithyddiaeth, yn ogystal â’r hyfforddiant a’r profiad i ddatblygu, cynllunio a chyflawni project traethawd hir annibynnol ar lefel Meistr ar sail ymchwil, gan ddefnyddio confensiynau arferol llenyddiaeth ieithyddiaeth / ieithyddiaeth gymhwysol.
Traethawd Hir MA/MSc - Yn y modiwl hwn bydd myfyrwyr yn cwblhau darn o waith ymchwil bychan ond arwyddocaol unigol ar lefel uwch, ac yn ysgrifennu traethawd hir 15-20,000 o eiriau arno. Pennir aelod staff â diddordebau ymchwil sydd â'r cysylltiad gorau a/neu agosaf i'r testun yn oruchwyliwr ar y myfyriwr. Bydd y goruchwyliwr yn cynorthwyo'r myfyriwr i ganolbwyntio ar gwmpas, methodoleg a chynnwys eu traethawd hir, yn ogystal â chynnig cyngor trwy gydol y project. O dan gyfarwyddyd y goruchwyliwr, bydd y myfyrwyr yn canolbwyntio ar gwestiwn eu hymchwil ac yn ei fireinio, ynghyd ag archwilio deunyddiau darllen perthnasol, yn cynllunio'r project, penderfynu ar fethodoleg, ystyried yr angen am gymeradwyaeth foesegol a gweithredu'n unol â hynny, yn casglu a dadansoddi data (gan ddibynnu ar natur yr ymchwil) gan ddefnyddio fframwaith dadansoddol priodol, ac yn ysgrifennu traethawd hir am y project a fydd yn mynd i’r afael â'r cwestiwn ymchwil yng ngoleuni'r canfyddiadau.
Modiwlau Dewisol
Mae’r modiwlau’n amrywio o’r naill flwyddyn i’r llall, ac yn cynnwys:
- Iaith a Chyfathrebu
- Ieithyddiaeth Hanesyddol
- Seicoieithyddiaeth
- Newid Iaith
- Cysylltiad Iaith a Dwyieithrwydd
- Caffael Iaith Plant
- Anhwylderau Iaith a Dwyieithrwydd
- Dwyieithrwydd a Materion Caffael
- Gwyddor Lleferydd
- Ffonoleg a Chaffael Dwyieithog
- Dysgu Siarad Ail Iaith
- Ieithyddiaeth Gymraeg
- Dadansoddi Disgwrs Gwybyddol
- Defnyddio Corpora: Theori ac Ymarfer
- Theori Saesneg fel Iaith Dramor
- Caffael Ail Iaith ac Addysgu Iaith
- Dysgu Saesneg fel Iaith Dramor
- Technolegau Iaith
Efallai y gofynnir i rai nad ydynt yn siaradwyr Saesneg brodorol ddilyn cyrsiau di-gredyd gydag ELCOS i'w cynorthwyo gyda'u Saesneg, oni chânt eu heithrio gan eu tiwtor.
Syniad bras o gynnwys y cwrs yn unig a geir yma a gall newid
Modiwlau ar gyfer y flwyddyn academaidd gyfredol
Mae’r rhestrau modiwlau ar gyfer eich arwain yn unig ac fe allant newid. Cymerwch olwg ar yr hyn y mae ein myfyrwyr yn ei astudio ar hyn o bryd ar tudalen Modwilau Dwyieithrwydd .
Mae cynnwys y cwrs wedi'i nodi i’ch arwain yn unig ac fe all newid.
Gofynion Mynediad
Gradd israddedig 2.ii neu gyfwerth mewn pwnc perthnasol (e.e. Ieithyddiaeth, Ieithoedd Modern, Cyfieithu, Seicoleg, Iaith/Llenyddiaeth Saesneg, Addysg Saesneg/Addysg Iaith Saesneg).
Bydd ceisiadau gan weithwyr proffesiynol sydd â chymwysterau ac eithrio gradd yn cael eu hystyried ar sail unigol. Mae croeso i chi gysylltu â ni am fwy o wybodaeth.
Yn achos y myfyrwyr hynny nad yw Saesneg yn iaith gyntaf iddynt, bydd arnynt angen sgôr IELTS o 6.0 o leiaf (heb i unrhyw elfen fod yn is na 5.5).
Gyrfaoedd
Bydd ein MA mewn Dwyieithrwydd yn rhoi dealltwriaeth fanwl i chi o faterion sy'n ymwneud â dwyieithrwydd ac amlieithrwydd a'r gallu i wneud gwaith ymchwil yn y meysydd hyn. Byddwch hefyd yn ennill sgiliau deallusol allweddol fel archwilio a gwerthuso damcaniaethau a rhagdybiaethau a modelau empirig. Wrth gyfuno hyn gydag amrywiaeth o sgiliau trosglwyddadwy - fel llythrennedd cyfrifiadurol, gweithio gyda data, adalw gwybodaeth, dadansoddi beirniadol a datrys problemau.
Mae graddedigion yn cael cyfleoedd gyrfa mewn cyfathrebu, addysgu, therapi iaith a lleferydd, cyhoeddi, ymchwil, ac mae'r sgiliau trosglwyddadwy a geir trwy'r rhaglen hon yn fuddiol mewn amrywiaeth o yrfaoedd eraill, gan gynnwys hysbysebu, newyddiaduraeth, ymgynghori etc. Yn dilyn cwblhau'r MA mewn Dwyieithrwydd yn llwyddiannus efallai y byddwch yn penderfynu dilyn gyrfa academaidd, trwy wneud cais i astudio am PhD mewn Dwyieithrwydd.