Ynglŷn â’r Cwrs Yma
Mae'r cwrs hwn yn canolbwyntio ar ffisioleg chwaraeon ac ymarfer. Cynlluniwyd y cwrs i fod yn hyblyg ac yn berthnasol i anghenion a diddordebau unigol y myfyriwr, gyda phwyslais cryf ar gymhwyso theori i ymarfer proffesiynol.
Cynnwys y Cwrs
Modiwlau ar gyfer y flwyddyn academaidd gyfredol
Mae’r rhestrau modiwlau ar gyfer eich arwain yn unig ac fe allant newid. Cymerwch olwg ar yr hyn y mae ein myfyrwyr yn ei astudio ar hyn o bryd ar tudalen Modwilau Ffisioleg Chwaraeon ac Ymarfer .
Mae cynnwys y cwrs wedi'i nodi i’ch arwain yn unig ac fe all newid.
Gofynion Mynediad
Gradd anrhydedd 2.ii o leiaf mewn pwnc perthnasol (neu gyfwerth). Gellir hefyd ystyried myfyrwyr sydd â gradd o faes academaidd gwahanol. Caiff gweithwyr proffesiynol sydd â chymwysterau ac eithrio gradd eu hasesu ar sail unigol. Cysylltwch â ni.
Mae'n ofynnol i fyfyrwyr yr UE a myfyrwyr tramor, nad yw'r Saesneg yn iaith gyntaf iddynt, sefyll y prawf Saesneg safonol (IELTS). Mae myfyrwyr sy'n cael sgôr o 6.0 neu uwch (dim sgôr unigol dan 5.5) yn gymwys i gael mynediad uniongyrchol i'r cwrs.