Ynglŷn â Gwyddorau Chwaraeon ac Ymarfer
Wrth astudio am radd israddedig a agorwyd eich llygaid at fyd ymchwil cyffrous ac amrywiol? Mae'r diwydiannau chwaraeon, iechyd, ymarfer ac anturio ac ymchwil i'r meysydd hynny mewn cyfnod o dwf. Ydych chi eisiau bod yn rhan o hynny? Ydych chi'n breuddwydio am wneud gwaith cymhwysol gydag athletwyr elît yn eu helpu i wella eu perfformiad? Oes arnoch chi eisiau deall yn well sut y gellir defnyddio gwyddorau chwaraeon a gweithgarwch corfforol i wella eich gallu wrth hyfforddi a/neu addysgu? Oes arnoch chi eisiau datblygu eich dealltwriaeth am ymarfer corff fel meddyginiaeth i bobl â phroblemau iechyd neu eisiau hyrwyddo manteision gweithgarwch corfforol ac ymarfer corff? Ydych chi eisiau gweithio mewn gyrfa lle mae ymarfer corff yn cael ei ddefnyddio ar gyfer adferiad? Ydych chi'n ystyried dilyn gyrfa fel seicolegydd chwaraeon ac ymarfer? Hoffech chi ennill mwy o gyflog nag y byddech yn ei ennill o ymuno â'r gweithlu gyda gradd israddedig? Os mai'r 'oes' neu 'ydw' oedd eich ateb i unrhyw un o'r cwestiynau uchod, yna dylech astudio am radd meistr ym maes Gwyddorau Chwaraeon ac Ymarfer!
Y diddordeb, yr awydd, yr angen, a'r angerdd hwn, boed hynny wrth wylio neu gymryd rhan, yw'r rheswm fod gwyddorau chwaraeon, iechyd ac ymarfer yn ddiwydiant twf ac yn parhau i ddylanwadu ar bob agwedd o fywyd. Ym Mhrifysgol Bangor gallwch ddysgu am:
- beth mae seicolegwyr chwaraeon ac ymarfer, ymarferwyr ymarfer corff ac iechyd, gwyddonwyr chwaraeon, neu hyfforddwyr ac athrawon chwaraeon/gweithgarwch corfforol yn ei wneud, sut maen nhw'n gwneud hynny, a pham
- beth sy'n cymell perfformwyr chwaraeon a'r rhai sy'n gwneud ymarfer corff
- sut i wella perfformiad athletwyr a hyfforddwyr
- sut a pham fod ymarfer corff yn feddyginiaeth a'i rôl wrth atal problemau iechyd ac fel rhan o adferiad unigolion yn dilyn anafiadau a chlefydau
- y sgiliau y mae eu hangen i weithio yn farchnad antur ac awyr agored
Os ydych chi wrth eich bodd ag ymarfer corff, antur neu chwaraeon neu os oes gennych ddiddordeb mewn prosesau adferiad a sut mae ymarfer corff yn dylanwadu ar iechyd, byddwch wedi gwirioni â'n graddau Meistr mewn gwyddorau chwaraeon.
Y 5 uchaf
yn gyffredinol ar gyfer Ymchwil
REF 2021
3ydd
yn y DU am ansawdd ymchwil
Complete University Guide 2024

Pam Astudio Gwyddorau Chwaraeon ac Ymarfer?
Ym maes Gwyddorau Chwaraeon ac Ymarfer mae gennym dros 40 mlynedd o brofiad mewn cyflwyno rhaglenni gradd israddedig a ni oedd un o'r Ysgolion Gwyddorau Chwaraeon ac Ymarfer cyntaf i gynnig rhaglen meistr. Rydym yn ymfalchïo yn ein gallu i gynnig taith drawsnewidiol go iawn i chi yn ystod eich astudiaethau. Fe gewch lawer o brofiadau ymarferol a chyffrous yn y labordy neu mewn amgylchedd chwaraeon, iechyd, ymarfer corff a hyfforddi. Mae ein cwricwlwm yn cael ei lywio gan ymchwil ac mae'n ymdrin â phynciau craidd Gwyddorau Chwaraeon ac Ymarfer sef ffisioleg, seicoleg, ymarfer corff er lles iechyd ac fel meddyginiaeth, biomecaneg, a hyfforddi effeithiol, a bydd yn rhoi'r wybodaeth a'r sgiliau y bydd arnoch eu hangen i ddilyn gyrfa ymarferol neu yrfa ymchwil mewn marchnad twf ym maes chwaraeon, iechyd, ymarfer corff ac anturio.
5ed
yn y DU am ymchwil mewn Gwyddorau Chwaraeon
Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil (2021)
100%
o ymchwil naill ai gyda'r gorau yn y byd neu ar lefel ryngwladol
Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil (2021)
Cyrsiau o fewn Gwyddorau Chwaraeon ac Ymarfer
Darganfyddwch y cyrsiau sydd o fewn y maes pwnc.

Cyfeloedd Gyrfa o fewn Gwyddorau Chwaraeon, Iechyd ac Ymarfer
Nod ein rhaglenni gradd mewn gwyddorau chwaraeon yw gwella eich cyflogadwyedd trwy roi cyfle i chi wneud gwaith ymarferol ochr yn ochr â gwaith damcaniaethol, trwy sesiynau ymarferol yn y labordy, project ymchwil/traethawd hir a thrwy arddangosiadau, tiwtorialau ac ymchwil. Gallwch gael profiad bywyd go iawn yn gweithio dramor ynghyd â datblygu cymwysterau proffesiynol ychwanegol mewn amrywiaeth o feysydd. Trwy'r cysylltiadau helaeth sydd gennym gyda sefydliadau chwaraeon, y GIG, a'r Cynllun Cenedlaethol Atgyfeirio Cleifion i Wneud Ymarfer Corff, gallwn gynnig cyfnodau byr ar leoliad gwaith, lle cewch eich mentora, ochr yn ochr â'ch rhaglenni gradd.
Ein Staff
Gallwch fwynhau addysgu o safon uchel a ddarperir gan arbenigwyr yn eu maes. Darllenwch y proffiliau staff i ddysgu mwy.

Ein Hymchwil o fewn Gwyddorau Chwaraeon ac Ymarfer
Mae pob aelod o staff yn gwneud gwaith ymchwil a'r ymchwil blaenllaw hwnnw sy'n llywio'r addysgu. Ar ben hynny, rydym yn rhoi pwyslais cryf ar gymhwyso ymchwil i ymarfer ac mae pob myfyriwr, ni waeth beth fo'u cwrs, yn cael profiad o wneud gwaith ymchwil manwl dan oruchwyliaeth. I gael gyrfa lwyddiannus yn y proffesiwn Chwaraeon ac Ymarfer mae cyflogwyr yn rhoi gwerth mawr ar allu nodi cwestiynau ymchwil perthnasol a meddu ar y sgiliau i wneud ymchwil i ateb y cwestiynau hynny.
Efallai y bydd gennych ddiddordeb yn y meysydd pwnc yma hefyd.
Efallai y bydd gennych ddiddordeb yn y meysydd pwnc yma hefyd.