Ynglŷn â’r Cwrs Yma
Mae'r cwrs MSc Rheolaeth Amgylcheddol a Busnes blwyddyn o hyd hwn ym Mhrifysgol Bangor wedi'i anelu at fyfyrwyr sydd â diddordeb cryf mewn integreiddio cynaliadwyedd amgylcheddol ag arferion rheoli busnes. Mae wedi'i gymeradwyo gan Sefydliad y Gweithwyr Proffesiynol Amgylcheddol a Chynaliadwyedd (ISEP).
Mae cynaliadwyedd yn brif nod ac yn nodwedd bolisi allweddol i lawer o brif sefydliadau a llywodraethau'r byd. Elfen allweddol o gyflawni hyn yw cydbwysedd ysgogwyr datblygiad amgylcheddol, economaidd a chymdeithasol. Bydd y cwrs hwn yn cymryd golwg integredig ar gynaliadwyedd a rheolaeth amgylcheddol o fewn cyd-destun busnes. Bydd yn darparu'r hyfforddiant arbenigol sy'n ofynnol i integreiddio cynaliadwyedd yn llawn i reoli busnesau a sefydliadau ac ysgogi newid ac arloesedd.
Rydym yn wirioneddol ryngddisgyblaethol, gan gyfuno modiwlau o’r Ysgol Gwyddorau Amgylcheddol a Naturiol ac Ysgol Busnes Bangor. Bydd cwblhau'r MSc Rheolaeth Amgylcheddol a Busnes yn eich helpu i ddatblygu’r offer a’r wybodaeth i ddylunio a gweithredu atebion effeithiol, arloesol, sy'n seiliedig ar dystiolaeth, er mwyn mynd i’r afael â heriau ein hoes. Byddwch yn archwilio atebion deinamig i fynd i'r afael â newid hinsawdd, colled bioamrywiaeth a rheoli gwastraff yn gynaliadwy, ac yn dysgu sut y gall busnesau fod yn rym er daioni wrth wneud gwahaniaeth mewn ffyrdd sydd hefyd yn ysgogi effeithlonrwydd ac yn rheoli risg.
Mae'r cyfuniad unigryw hwn o bynciau wedi'i gyfuno â ffocws cryf ar gymhwyso ymarferol. Mae gan Brifysgol Bangor lawer o'i chyfleusterau gwych ei hun, megis Gardd Fotaneg Treborth a fferm ymchwil ragorol, Henfaes. Gwneir defnydd da ohonynt ar gyfer gweithdai a sesiynau ymarferol, ac yn ogystal â hynny ceir llawer o deithiau maes diddorol i fusnesau a sefydliadau mawr a bach yn yr ardal gyfagos.
Rydym yn mwynhau cysylltiadau agos â sefydliadau lleol, cenedlaethol a rhyngwladol ac mae gennym raglen fywiog o siaradwyr gwadd o gyrff anllywodraethol a diwydiant yn ein darlithoedd, megis Cyfoeth Naturiol Cymru, cwmnïau Ymgynghoriaeth Amgylcheddol a mentrau cymdeithasol ynni cymunedol. Rydym yn gweithio'n agos gyda grŵp rhanbarthol Sefydliad y Gweithwyr Proffesiynol Amgylcheddol a Chynaliadwyedd, lle gall myfyrwyr wneud cysylltiadau parhaol â gweithwyr proffesiynol amgylcheddol a chynaliadwyedd, yn ogystal â chael cyfleoedd cyflogaeth a mewnwelediadau i'w proffesiynau dewisol.
Mae angen y sgiliau hyn yn fwy nag erioed ac mae graddedigion wedi dod o hyd i swyddi gwerth chweil ym meysydd cynaliadwyedd a'r amgylchedd mewn amrywiaeth eang o sefydliadau, gan gynnwys llywodraeth leol, y byd academaidd, cyrff anllywodraethol a chwmnïau amlwladol. Mae ein partneriaeth sefydledig gyda Sefydliad y Gweithwyr Proffesiynol Amgylcheddol a Chynaliadwyedd yn sicrhau bod graddedigion sy'n dechrau yn y proffesiwn cynaliadwyedd yn barod am y gweithle, a bod ganddynt yr arbenigedd a'r ddealltwriaeth sydd arnynt eu hangen i sicrhau swydd ac ysgogi newid.
Rydym yn croesawu ceisiadau gan fyfyrwyr rhan amser, y mae llawer ohonynt yn ymuno â ni o'r sector cyhoeddus a’r sector breifat, gan ychwanegu at y cymysgedd amrywiol o fyfyrwyr ar y cwrs.
Fel sy’n wir am yr holl addysgu yn y Brifysgol, mae'r rhaglen hon yn cyd-fynd â'r galwadau cyffredinol i weithredu a nodir yn Nodau Datblygu Cynaliadwy’r Cenhedloedd Unedig. Bydd y Nodau Datblygu Cynaliadwy penodol sy'n berthnasol i gynnwys y rhaglen hon yn cael eu hamlygu, lle bo'n briodol, i fyfyrwyr a bydd bathodynnau dwyieithog y Brifysgol ar gyfer Nodau Datblygu Cynaliadwy’r Cenhedloedd Unedig yn cael eu cynnwys mewn deunyddiau addysgu.
Mae'r cwrs hwn yn rhoi hawl i fyfyrwyr gael aelodaeth myfyrwyr rhad ac am ddim i Sefydliad y Gweithwyr Proffesiynol Amgylcheddol a Chynaliadwyedd am hyd y cwrs, ac ar ôl ei gwblhau'n llwyddiannus, bydd graddedigion yn gymwys ar gyfer GradISEP. Mae aelodaeth i raddedigion yn fan cychwyn i arweinwyr y dyfodol ym meysydd yr amgylchedd a chynaliadwyedd ac mae'n cynnig amrywiaeth o fuddion i gefnogi myfyrwyr drwy gydol eu gyrfaoedd. Yna gall myfyrwyr ddilyn llwybr cyflym i Aelodaeth Ymarferydd.
Cynnwys y Cwrs
Beth fyddwch chi’n ei astudio ar y cwrs yma?
Mae 2 ran i’r cwrs. Mae rhan 1 yn rhedeg o fis Hydref i fis Mai ac mae'n cynnwys saith elfen hyfforddedig y mae'n rhaid eu cwblhau'n llwyddiannus cyn symud ymlaen i ran 2. Rhan 2 yw elfen ymchwil y cwrs, lle byddwch yn cwblhau eich traethawd hir rhwng mis Mehefin a mis Medi. Byddwch yn defnyddio’r wybodaeth a’r sgiliau y gwnaethoch eu datblygu yn rhan 1 i ddatblygu eich syniadau ymchwil eich hun ac archwilio'ch pwnc dewisol yn fanwl.
Pynciau rhan un:
Rheolaeth Amgylcheddol Strategol (DXX4524): Modiwl cymhwysol iawn yw hwn sy'n eich uwchsgilio mewn ymateb systematig i gynaliadwyedd. Bydd yn archwilio'r agweddau niferus ar sut mae busnesau a sefydliadau'n effeithio ar yr amgylchedd a sut i fynd i'r afael â'r heriau hynny’n gadarnhaol ac yn bragmataidd. Ymdrinnir â rhai neu bob un o'r offer monitro canlynol - Adolygiadau Amgylcheddol Cychwynnol, Systemau Rheoli Amgylcheddol, Archwiliadau Ynni, Asesiadau Cylchred Bywyd ac Asesiadau Effaith Amgylcheddol.
Rheoli a Dadansoddi Data (ENS-4403): Mae'r modiwl hwn yn tywys myfyrwyr drwy egwyddorion sylfaenol dylunio cwestiynau ymchwil a chasglu samplau o ddata, hyd at sgiliau uwch wrth reoli, delweddu ac ymchwilio data gan ddefnyddio profion ystadegol. Addysgir y cwrs gan ddefnyddio Microsoft Excel, R, sef yr iaith raglennu ystadegol rhad ac am ddim, ac amgylchedd datblygu integredig RStudio. Fe’u defnyddir ar gyfer gwyddor data mewn nifer o sectorau a diwydiannau, gan alluogi llifoedd gwaith trin data, delweddu a phrofi ystadegol hyblyg ac ailadroddadwy.
Sefydliadau a Phobl (ASB-4431): Mae’r modiwl hwn yn darparu dadansoddiad integredig o reolaeth, sefydliadau a phobl, gan ddatblygu’r sgiliau cysyniadol, strategol ac ymarferol sy’n angenrheidiol i reolwyr mewn cyd-destunau sefydliadol, byd-eang a chymhleth, gan gyfeirio at faterion allweddol sy’n codi, o ymchwil gyfoes i ymddygiad sefydliadol a rheoli adnoddau dynol. Bydd y ddealltwriaeth o'r modiwl hwn yn helpu i gefnogi rhai o heriau cymhleth agweddau cymdeithasol-ddiwylliannol y sefydliad, gan gynnwys (ond heb fod yn gyfyngedig i) cymhelliant unigol, ymddygiad grŵp a newid diwylliannol.
Rheolaeth Strategol (ASB-4413): Mae’r modiwl hwn yn cyflwyno iaith rheolaeth strategol ac yn ymdrin â’r cysylltiad rhwng rheolaeth strategol a rheolaeth weithredol. Byddwch yn datblygu dealltwriaeth feirniadol o'r prosesau strategol sydd wrth wraidd prosesau rheoli busnes a sut i osod y broses o wneud penderfyniadau strategol o fewn amgylchedd busnes deinamig.
Technolegau Gwyrdd (DXX-4525): Mae'r modiwl hwn yn cynnig dull sy'n canolbwyntio ar atebion i heriau amgylcheddol byd-eang. Mae'n fodiwl hynod gymhwysol a bydd yn archwilio cynhyrchu ynni, arloesi a’r defnydd o dechnolegau gwyrdd a pholisi ynni byd-eang. Byddwch yn dysgu sut y gall Systemau Gwybodaeth Ddaearyddol olrhain newid amgylcheddol a chefnogi’r broses o wneud penderfyniadau cadarn ynghylch gweithredu technolegau gwyrdd, yn ogystal â'r rôl hanfodol y mae newid ymddygiad yn ei chwarae mewn cynaliadwyedd.
Cynllunio Busnes ar gyfer Economïau Gwyrdd (DXX-4518): Mae'r modiwl hwn yn archwilio'r broses o sefydlu menter, o ffurfio'r syniad gwreiddiol i gwblhau cynllun busnes, sy'n ymgorffori cynllunio a rheoli amgylcheddol. Mae'n tywys y myfyriwr drwy'r broses wirioneddol o ddatblygu cynllun busnes a'i wahanol elfennau, y farchnad a chynaliadwyedd. Archwilir sut y gall busnesau (rhai newydd a rhai sy'n bodoli eisoes) gofleidio'r economi werdd wrth weithredu fel rhan o economi sydd wedi rhoi ychydig iawn o sylw i unrhyw beth ‘gwyrdd’ yn hanesyddol.
Modiwlau Dewisol - mae myfyrwyr yn cymryd naill ai Cyllid i Reolwyr ASB-4007 neu Rheoli Adnoddau Naturiol ENS-4309
Cyllid i Reolwyr (ASB-4407): Mae'r modiwl hwn wedi'i gynllunio i fyfyrwyr sydd eisiau dealltwriaeth sylfaenol o reolaeth ariannol, ac sydd angen deall cyllid er mwyn rheoli sefydliad yn effeithiol. Mae cynllunio a rheolaeth ariannol yn themâu canolog, yn ogystal â thechnegau gwerthuso projectau buddsoddi.
Rheoli Adnoddau Naturiol (ENS-4309) Mae rheoli adnoddau naturiol yn cyfeirio at y maes gwyddonol sy'n astudio'r defnydd cynaliadwy o adnoddau naturiol megis dŵr, llystyfiant a thir. Gyda'i gilydd, mae'r adnoddau hyn yn darparu'r gwasanaethau ecosystem sy'n sail i fywyd dynol ac yn ei alluogi. Nod y modiwl hwn yw rhoi dealltwriaeth ddamcaniaethol i chi o'r dull systemau, yn ogystal â rhoi sylfaen ymarferol i chi yn y ffyrdd y gall rheolwyr adnoddau naturiol dynnu ar amrywiaeth o ffynonellau i hysbysu eu hunain ac eraill am effeithiau penderfyniadau ar draws amrywiaeth o raddfeydd.
Asesiad a Thraethawd Hir
Caiff y cwrs ei asesu drwy gyfuniad o waith cwrs, cyflwyniadau, arholiadau a'r traethawd hir. Bydd y pwnc a ddewiswch ar gyfer y traethawd hir yn cael ei gytuno gyda'ch goruchwyliwr project enwebedig a gallai ymwneud â bron unrhyw agwedd ar yr amgylchedd a rheolaeth busnes yn unol â'ch arbenigedd dymunol.
Modiwlau ar gyfer y flwyddyn academaidd gyfredol
Mae’r rhestrau modiwlau ar gyfer eich arwain yn unig ac fe allant newid. Cymerwch olwg ar yr hyn y mae ein myfyrwyr yn ei astudio ar hyn o bryd ar tudalen Modiwlau Rheolaeth Amgylcheddol a Busnes MSc.
Mae cynnwys y cwrs wedi’i nodi i’ch arwain yn unig ac fe all newid.
Gofynion Mynediad
Er mwyn cael mynediad mae angen gradd anrhydedd dda mewn maes pwnc perthnasol, neu gymhwyster tebyg gan unrhyw sefydliad arall fel rheol. Fel arall, gellir eich derbyn os ydych yn meddu ar gymhwyster proffesiynol addas a phrofiad ymarferol perthnasol.
Gyrfaoedd
Mae graddedigion wedi cael gwaith mewn sefydliadau sector preifat a chyhoeddus, cyrff anllywodraethol a sefydliadau academaidd yn yr UE a thramor, yn ogystal â dod yn ymgynghorwyr hunangyflogedig ym maes Rheoli'r Amgylchedd a Busnes.