Ynglŷn â’r Cwrs Yma
Bydd y cwrs hwn yn eich galluogi i gymhwyso dealltwriaeth seicolegol i anawsterau sy'n gysylltiedig â phroblemau iechyd meddwl neu gorfforol. Cewch eich cyflwyno i'r theori a'r wybodaeth sy'n sail i ymarfer effeithiol ym maes seicoleg glinigol ac iechyd, byddwch yn ystyried hyn mewn perthynas ag amrywiaeth o gyflyrau, yn ennill dealltwriaeth o'r amrywiaeth o ddulliau ymchwil a ddefnyddir gan seicolegwyr clinigol, ac yn gwneud eich project ymchwil eich hun mewn maes perthnasol.
Bydd cysylltiadau agos yng Ngholeg y Gwyddorau Dynol a gwasanaethau lleol y GIG yn rhoi cyfle i chi ymchwilio i seicoleg glinigol gydweithredol. Mae ymchwilwyr yn yr ysgol yn defnyddio amrywiaeth eang o'r technegau diweddaraf i ddeall cysylltiadau ymddygiad yr ymennydd, gan gynnwys mapio gweithredoedd swyddogaethol yn yr ymennydd gyda photensialau cysylltiedig â digwyddiadau (ERP), ysgogiad magnetig trawsgreuanol (TMS) a delweddu cyseiniant magnetig swyddogaethol (fMRI). Mae hyn yn rhoi cyfle i chi ddefnyddio'r offer a'r technegau diweddaraf.
Cynnwys y Cwrs
Modiwlau ar gyfer y flwyddyn academaidd gyfredol
Mae’r rhestrau modiwlau ar gyfer eich arwain yn unig ac fe allant newid. Cymerwch olwg ar yr hyn y mae ein myfyrwyr yn ei astudio ar hyn o bryd ar tudalen Modwilau Seicoleg Glinigol ac Iechyd .
Mae cynnwys y cwrs wedi'i nodi i’ch arwain yn unig ac fe all newid.
Gofynion Mynediad
Rhaid meddu ar radd anrhydedd sengl neu radd gydanrhydedd dda mewn Seicoleg neu ddisgyblaeth berthnasol arall, gyda dosbarth gradd o 2.ii o leiaf. Rhoddir ystyriaeth unigol i fyfyrwyr rhyngwladol, ond rhaid dangos hyfedredd yn y Saesneg sy'n cyfateb i sgôr IELTS o 6.0 (heb unrhyw elfen yn is na 5.5) a bydd disgwyl i chi ddangos bod gennych gefndir academaidd addas ar gyfer y rhaglen. Bydd ymgeiswyr sydd â graddau o safon gyfatebol mewn disgyblaeth gysylltiedig, gan gynnwys gweithwyr iechyd proffesiynol cymwys (e.e. seicolegwyr clinigol, seiciatryddion, therapyddion galwedigaethol) ac sydd â phrofiad clinigol perthnasol, hefyd yn cael eu hystyried.
Gyrfaoedd
Mae'r cwrs hwn yn addas i'r rhai sy'n anelu at ddoethuriaeth broffesiynol mewn seicoleg glinigol neu swyddi cysylltiedig eraill ym maes iechyd a gofal cymdeithasol. Mae'r MSc yn rhoi sylfaen yn y wybodaeth a'r sgiliau allweddol sydd eu hangen ar y rhai sy'n bwriadu chwilio am swydd fel y rhai sydd eisoes wedi eu cyflogi fel seicolegwyr cynorthwyol (neu swyddi tebyg). Mae'r MSc hefyd yn baratoad rhagorol os ydych yn awyddus i ddilyn gyrfa ym maes ymchwil, gyda'r cyfle i astudio dulliau ac ystadegau ymchwil ac i ysgrifennu traethawd ymchwil mewn maes sy'n berthnasol yn glinigol. Mae ehangder ac amrywiaeth y dulliau asesu yn cefnogi'r sgiliau datblygu sy'n ddeniadol i gyflogwyr, megis ymgymryd â gwaith grŵp/gweithgareddau arwain, arddangos sgiliau astudio annibynnol, dadansoddi beirniadol a gwerthuso a'r gallu i ddatrys problemau. Mae gan fyfyrwyr fynediad at wasanaeth gyrfaoedd a chyflogadwyedd canolog ac aelod staff penodol yn yr Ysgol Seicoleg a all gynnig cefnogaeth a chyngor yn ymwneud â materion gyrfa neu gyflogadwyedd.
Ymchwil / Cysylltiadau â Diwydiant
Mae gan yr academyddion sy'n ymwneud â'r rhaglen hon gysylltiadau ymchwil helaeth gyda chyrff a chwmnïau allanol, a gânt eu defnyddio'n llawn i sicrhau bod y modiwlau yn berthnasol i'r gwaith a'r amgylchedd ymchwil bydd y graddedigion yn rhan ohono.