Projectau Cymunedol

Sefydlwyd y Ganolfan Ehangu Mynediad yn 2012 i hyrwyddo presenoldeb a gwaith y Brifysgol yn y gymuned, sydd yn rhan annatod o'r hyn ydyw. 

Nodau

  • Hyrwyddo a diogelu mynediad teg i addysg uwch, yn cynnwys adnabod unigolion o gefndiroedd difreintiedig sydd â photensial mawr.
  • Denu myfyrwyr a darpar fyfyrwyr o grwpiau a dangynrychiolir a dal gafael arnynt, gall hyn gynnwys myfyrwyr o gefndiroedd llai breintiedig, myfyrwyr gyda nodweddion gwarchodedig, gofalwyr a myfyrwyr sy'n gadael gofal.
  • Codi dyheadau addysgol a datblygu sgiliau sy'n paratoi myfyrwyr o grwpiau a dangynrychiolir at astudio mewn addysg uwch.
  • Cefnogi myfyrwyr o grwpiau a dangynrychiolir i symud ymlaen i gyflogaeth neu astudiaeth bellach.
  • Gweithio gyda Phartneriaeth Ymgeisio’n Ehangach Gogledd a Chanolbarth Cymru mewn ardaloedd lle mae nifer y cyfranogwyr yn isel
  • Gweithio gydag Awdurdodau Addysg Lleol i hyrwyddo gwerth/budd astudiaethau cyfrwng Cymraeg a/neu ddwyieithog
  • Gweithio gyda'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol i hyrwyddo astudio mewn Prifysgol trwy gyfrwng y Gymraeg
  • Gweithio mewn partneriaeth â'r sector Addysg Bellach i ddarparu cyfleoedd addysgol yn lleol i'r rhai hynny y mae rhwystrau daearyddol yn eu rhwystro rhag cael mynediad at Addysg Uwch.
  • Cynaliadwyedd: bydd angen i bob cais am gyllid oddi wrth y Ganolfan Ehangu Mynediad o 2016/17 ymlaen ddangos sut mae Amcanion Lles 2015 yn cael sylw.

Am fwy o wybodaeth ynglŷn â’r Ganolfan Ehangu Mynediad ewch i'r wefan ac i drafod cydweithio posib, cysylltwch â Phennaeth y Ganolfan, Delyth Murphy: delyth.murphy@bangor.ac.uk

Mae Prifysgol Bangor yn gartref i Bartneriaeth Ymestyn yn Ehangach Gogledd a Chanolbarth Cymru, rhan o gynllun cenedlaethol sydd â’r nod o gynyddu cyfranogiad pobl o ardaloedd cyfranogiad-isel mewn Addysg Uwch, yn enwedig yr ardaloedd hynny sydd wedi eu dynodi yn ardaloedd Cymunedau’n Gyntaf. Am fwy o wybodaeth, ewch i dudalen y Bartneriaeth: http://reachingwider.ac.uk/index.php.cy

Mae sawl un o’n hysgolion academaidd yn gysylltiedig ag ymchwil sy’n ymwneud â’r cyhoedd. Ewch i dudalennau’r ysgolion unigol am fwy o wybodaeth.

Mae Gardd Fotaneg Treborth ar lan y Fenai yn ddarn 18 hectar o dir ac wedi bod ym meddiant y Brifysgol ers 1960. Er ei bod yn cynnig cwbl agored i’r cyhoedd, mae hefyd yn cael ei defnyddio ar gyfer gweithgareddau dysgu ac ymchwil yr Ysgol Gwyddorau Biolegol a’r Ysgol Amgylchedd, Adnoddau Naturiol a Daearyddiaeth. Ceir mwy o wybodaeth yma.

Mae’r Ganolfan Ymwybyddiaeth Ofalgar Ymchwil ac Ymarfer yn uned hunan-gyllidol oddi mewn i’r Ysgol Seicoleg.

Mae’r Ganolfan yn hyrwyddo dulliau ymwybyddiaeth ofalgar fel modd o gynyddu lles. Maent yn gwneud hyn drwy hyfforddi ymarferwyr yn nulliau ymarfer ofalgar ac ymchwilio i ddefnyddiau posib o’r dulliau hynny.

Mwy am Ymwybyddiaeth Ofalgar ym Mangor

It looks like you’re visiting from outside the UK, would you like to be redirected to the international page?