Cronfa Gymunedol Prifysgol Bangor

Prosiectau

Hanes a Diwylliant

Llun hanesyddol, du a gwyn, a dynnwyd o siop flaenorol Pollecoff ar Stryd Fawr Bangor gyda, yn ôl pob tebyg, Mr Pollecoff yn sefyll y tu allan i'r drws ffrynt

Yr Athro Nathan Abrams Dathlu Hanes Iddewig Gogledd Cymru a Theulu Pollecoff

Mewn partneriaeth â Varcity (datblygwyr Tŷ Pollecoff), Menter Fachwen a’r Project Darganfod, cynhaliwyd dadansoddiad manwl o’r teulu Pollecoff er mwyn codi ymwybyddiaeth o hanes Iddewig yng Nghymru ac i hybu a phwysleisio cyfraniad Iddewon i hanes y gymuned ehangach. Cafwyd arddangosfa yn Niwrnod Cymunedol y Brifysgol ym mis Hydref. 

“Rydym wedi dechrau codi ymwybyddiaeth o effaith y teulu Pollecoff ar Fangor a thu hwnt gan arwain at lawer o adborth cadarnhaol” (Yr Athro Nathan Abrams, Athro mewn Ffilm).

Hinsawdd

Grŵp o fyfyrwyr rhyngwladol, staff a phlant ar draeth wedi'i amgylchynu gyda bagiau sbwriel yn dilyn sesiwn glanhau'r traeth

Dr Marcel Ferrand Project GwaithGwyrdd Myfyrwyr Rhyngwladol

Trefnwyd y project gan y Swyddfa Cefnogi Myfyrwyr Rhyngwladol a daeth â thros 50 o fyfyrwyr, aelodau o’r gymuned leol ac Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru ynghyd trwy weithgareddau amgylcheddol yn cynnwys Glanhau Traeth ym Mhen Llŷn a Diwrnod Bywyd Gwyllt Morol ar Ynys Môn. 

“Roedd yn gyfle gwych i fyfyrwyr newid eu hamserlen ddyddiol a chychwyn ar anturiaethau cyffrous ym myd natur. Roedd yr un mor gyffrous i staff ac i wirfoddolwyr yr Ymddiriedolaeth, a dreuliodd y diwrnod gyda phobl o bob rhan o’r byd yn dysgu am eu diwylliannau, eu ffyrdd o fyw mewn modd cynaliadwy ac yn adeiladu pontydd cymunedol i ofalu’n am ein planed” (Dr Marcel Clusa Ferrand, Rheolwr Cefnogi Myfyrwyr).

Grŵp o bedair menyw yn garddio wedi'u hamgylchynu gydag offer garddio a berfâu olwyn

Natalie Chivers Ymarferydd Garddwriaethol Therapiwtig

Galluogodd y Gronfa Gymunedol staff i gomisiynu Ymarferydd Garddwriaethol Therapiwtig a oedd, mewn partneriaeth â Chyfeillion Gardd Fotaneg Treborth, yn gallu cefnogi’r grŵp cymunedol rheolaidd a chroesawu gwirfoddolwyr newydd o gefndiroedd amrywiol. Mae'r cyllid wedi cynyddu capasiti yn aruthrol ac wedi galluogi staff i ymgysylltu â mwy o aelodau o'r gymuned. 

“Trwy’r project hwn rydym hefyd wedi gallu croesawu rhai gwirfoddolwyr yn ôl a gafodd drafferthion trwy’r pandemig gyda heriau personol amrywiol. Yn ogystal, mae’r cyllid hwn wedi ein galluogi i ddefnyddio’r project i wneud cais am gefnogaeth bellach, a dyfarnwyd £2200 i ni gan HEFCW i barhau â’n sesiynau dydd Gwener hyd y gellir rhagweld” (Natalie Chivers, Curadur Gardd Fotaneg Treborth). 

Iechyd

Aelod o staff yn cyflwyno mewn cynhadledd yn Neuadd Reichel i grŵp o gynrychiolwyr (yn eistedd)

Dr Louise Prendergast Cynhadledd Gofal Lliniarol a Diwedd Oes

Mewn cydweithrediad â Compassionate Cymru Garedig, Mantell Gwynedd a’r Ysgol Gwyddorau Meddygol ac Iechyd, cynhaliwyd cynhadledd yn Neuadd Reichel i archwilio syniadau a safbwyntiau unigolion sydd â diddordeb mewn materion gofal lliniarol a diwedd oes, ac y mae hynny’n effeithio arnynt. 

“Rwy’n gwneud cais am gyllid ar gyfer cymrodoriaeth Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru yn dilyn y gweithdy hwn, ac rwy’n gobeithio cynnal digwyddiad ymgysylltu cymunedol arall yn fuan, gan fy mod wedi fy mhlesio’n fawr gan faint o ddiddordeb oedd yn y maes hwn” (Dr Louise Prendergast, Swyddog Ymchwil).

poster lliw porffor gyda logo PB yn hyrwyddo'r Podlediad 'Am Waith Cymdeithasol', llun o'r pedwar siaradwyr yn cymryd rhan yn y podlediad

Wendy Roberts Podlediad Gofal Cymdeithasol a Lles

Dan arweiniad Darlithydd mewn Gwaith Cymdeithasol, ariannodd y Gronfa Gymunedol y gwaith o gynhyrchu pedwar podlediad Cymraeg yn rhoi sylw i ofal cymdeithasol a lles yng Nghymru, pwysigrwydd gofal dwyieithog, a sut mae cwrs MA Gwaith Cymdeithasol y Brifysgol o fudd ac yn cefnogi elusennau lleol, cynghorau ac asiantaethau trydydd sector. 

“Mae’r podlediad wedi cynnig cyfle i ni greu a chryfhau cysylltiadau gydag asiantaethau partner, ac mae wedi cynnig cyfle nid yn unig i ni godi proffil y gwahanol asiantaethau, ond hefyd amlygu a thrafod rhai o’r heriau cymdeithasol yr ydym yn eu hwynebu mewn cymdeithas heddiw” (Wendy Roberts, Darlithydd mewn Gwaith Cymdeithasol) 

Sgiliau

grŵp o saith o blant ysgol yn ymuno mewn gweithdy cyfrifiadur o dan arweinydd

Ben Roberts Gweithdy adeiladu cyfrifiadur

Trefnodd a chynhaliodd tîm M-SParc #ArYLon Pwllheli weithdy diwrnod llawn ar gyfer 10 o fyfyrwyr TGAU lleol mewn cydweithrediad â North Wales Recycle I.T. ym mis Medi. Rhoddwyd cyfle i'r myfyrwyr ddatgymalu ac ailadeiladu cyfrifiadur personol a'u gwobrwyo drwy adael iddynt fynd â'r cyfrifiadur adref ar ddiwedd y dydd.  

“Does gen i ddim cyfrifiadur gartref, mae hyn wir yn mynd i fy helpu gyda fy ngwaith ysgol” (myfyriwr lleol)

“Yr hyn a’m trawodd fwyaf oedd pa mor ddiwyd yr oedd y bobl ifanc yn gweithio drwy’r dydd, yn gwrando ac yn dysgu, ac yn cymryd y cyfle o ddifrif” (Ben Roberts, Swyddog Project Digidol a Rheolwr Ar y Lôn) 

Chwaraeon

Pedair merch ifanc yn penlinio i lawr yn sgwrsio tactegau cyn gem rygbi

Dr Julian Owen Risg Anafiadau mewn Rygbi Merched Ieuenctid ar Lawr Gwlad

Fel rhan o’r project ymchwil a ariannwyd gan Rygbi’r Byd i archwilio risg anafiadau, ymgysylltodd staff yr Ysgol Seicoleg a Gwyddor Chwaraeon â thua 300 o chwaraewyr rygbi benywaidd ar draws naw canolfan merched Undeb Rygbi Cymru yng ngogledd Cymru a chomisiynu ffilm ddwyieithog i ddal ysbryd rygbi ieuenctid merched yn y rhanbarth. Y project dilynol sy’n deillio o’r cydweithio hwn fydd project Monitro Anafiadau mewn Rygbi Ieuenctid Merched Cymru (WISGYR) a ariennir gan Rygbi’r Byd.  =

“Mae’r mewnwelediadau a gafwyd o’r ymgysylltu hwn yn cynnwys pwysigrwydd dulliau unigol o ddatblygu cysylltiadau â chanolfannau a phwysigrwydd ymgysylltu parhaus trwy ein project ymchwil” (Dr Julian Owen, Darlithydd mewn Gwyddorau Chwaraeon ac Ymarfer). 

Grŵp o ddinasyddion wedi'u dadleoli yn ymgynnull ar gae pêl-droed yn mwynhau sgwrs gyda aelodau tîm peldroed lleol

Chris Roberts Project Rhyddid Pêl-droed 2023

Gan adeiladu ar y bartneriaeth rhwng Prifysgol Bangor a Dreigiau gogledd Cymru, ac fel rhan o Wythnos Ffoaduriaid 2023, croesawodd y tîm 35 o ddinasyddion wedi’u dadleoli o ardal Manceinion ym mis Mehefin, a hwyluso diwrnod o bêl-droed ar Faes Pêl-droed 4G y Brifysgol. Cyfle i rannu profiadau diwylliannol, hyfrydwch Gogledd Cymru i gyd trwy gyfrwng y pêl-droed; cafodd pawb ddiwrnod gwych! 

“Roedd y natur yn anhygoel, môr un ochr, caeau gwyrdd yr ochr arall gyda defaid a gwartheg. Roedd y brifysgol, y lletygarwch a’r meysydd pêl-droed yn gofiadwy a dysgais lawer am Brifysgol Bangor, ei diwylliant, ei hiaith a’i hanes. Mi wnes i ei fwynhau, a newidiodd fy hwyliau. Roeddwn i angen mynd ar daith fer” (Mahin - ymwelydd)

“Roedd digwyddiad dydd Gwener yn gyfle gwych i rannu addysg ac ymwybyddiaeth ddiwylliannol a chreu gofod ar gyfer trafod cyfleoedd addysgiadol a chyflogaeth. Roedd yn brofiad iachusol i lawer a ddaeth o hyd i gyfeillgarwch a phartneriaethau newydd” (Chris Roberts, Peiriannydd, Gwasanaethau Campws)  

Dwy fenyw yn ei wisg Pêl-droed Cymru yn chwifio fflag o Gymru yn dilyn cystadleuaeth pêl-droed

Sar Furlong & Cerys Gadd Gemau'r Ynysoedd 2023

Cefnogodd y Gronfa Gymunedol ddau aelod o staff y Gwasanaethau Proffesiynol pan aethant i Guernsey ym mis Gorffennaf a chynrychioli Ynys Môn yng Ngemau Rhyngwladol Pêl-droed Merched 2023 NatWest. Rhoddodd Cymdeithas Bêl-droed Cymru glod i’r tîm am chwarae yng nghit swyddogol Cymru a denodd y digwyddiad lawer o sylw ar y cyfryngau cymdeithasol. 

“Diolch am helpu i wneud hyn yn bosibl” (Cerys Gadd, Gweinyddu Myfyrwyr). 

Plant a Phobl Ifanc

Ystafell Brifysgol yn llawn o fyrddau crwn o blant ysgol yn mynychu Uwchgynhadledd Ieuenctid. Darlithydd yn sefyll o flaen y disgyblion wrth ymyl sgrin yn rhoi cyflwyniad

Nia Young & Dr Beth Edwards Presenoldeb ar y Stryd Fawr i Blant a Phobl Ifanc yng Nghanol Dinas Bangor

Nod ymarfer cwmpasu a oedd yn cynnwys ymgynghoriadau cymunedol, holiaduron ac Uwchgynhadledd Ieuenctid ar Iechyd Meddwl a Lles a gynhaliwyd yn y Brifysgol ym mis Tachwedd, oedd archwilio anghenion Plant a Phobl Ifanc yn yr ardal leol. Arweiniwyd y project gan gydweithwyr yn yr Ysgol Addysg a’r Gwasanaeth Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd a chyfrannodd dros 100 o bobl ifanc at wahanol ddigwyddiadau ymgysylltu yn ystod y project.

“Mae’r gwaith o gysylltu â Phrifysgol y Plant eisoes ar y gweill a gobeithiwn barhau â’r gweithgareddau hyn er mwyn cael tystiolaeth bellach i gefnogi cyllid ychwanegol i’r project." (Dr Beth Edwards, Cydlynydd Datblygu Addysg Fenter)

Plentyn ifanc yn sefyll wedi'i amgylchynu gan lythrennau a'r geiriau 'Llais Dyslecsia' wedi'u hysgrifennu mewn ffont mwy

Dr Ruth Elliott Adeiladu ar y cydweithio gyda Llenyddiaeth Cymru a Llais Dyslecsia

Dan arweiniad yr Ysgol Gwyddorau Dynol ac Ymddygiadol, helpodd y Gronfa Gymunedol i ariannu project a oedd yn adeiladu ar y cydweithio presennol gyda Llenyddiaeth Cymru a Llais Dyslecsia, a chasglu profiadau plant ac oedolion sy’n byw gyda dyslecsia yn y gymuned ehangach, yn enwedig yn y Gymraeg.

“Rydym yn aros am gadarnhad o gyllid pellach a fydd yn ein galluogi i weithio gyda disgyblion ysgol ag anawsterau niwroamrywiol a llythrennedd trwy gyfrwng y celfyddydau (Dr Ruth Elliott, Tiwtor Sgiliau Astudio Arbenigol)”. 

Projectau sydd i'w cwblhau yn 2024

  • Arweinir gan Dr Emily Holmes (Ysgol Feddygol Gogledd Cymru):Digwyddiad ymgysylltu â rhanddeiliaid i hyrwyddo, cynllunio a gweithredu Teithio Llesol yng ngogledd Cymru ar y cyd â Chonsortiwm Ymchwil Teithio Llesol Cymru.  
  • Arweinir gan Dr Rob Elias (Y Ganolfan Biogyfansoddion) Datblygu fideo hyrwyddo byr a chynnal digwyddiad ar y cyd â mudiad Hwylio Treftadaeth y Fenai sydd ar hyn o bryd yn cynnig cyfle i aelodau o'r gymuned leol â chyflyrau iechyd penodol fordwyo'r Fenai ar eu fflyd o gychod.  
  • Arweinir gan yr Athro Zoe Skoulding (Ysgol Iaith, Diwylliant a’r Celfyddydau): Ar y cyd â Llenyddiaeth Cymru, bydd cyllid yn caniatáu i grwpiau o fyfyrwyr chweched dosbarth lleol gymryd rhan mewn cyfres o ddosbarthiadau meistr Llenyddiaeth Saesneg a chreadigol a’u cyflwyno i ffyrdd y gall ysgrifennu creadigol gefnogi lles personol ac amgylcheddol.  
  • Arweinir gan yr Athro Raluca Radulescu (Ysgol Iaith, Diwylliant a’r Celfyddydau): Ar y cyd â Gwynedd Greadigol, storïwr lleol ac Artist Cain i wella mwynhad ac ansawdd bywyd trwy ymgysylltu diwylliannol i Grŵp Dementia lleol. 
  • Arweinir gan yr Athro John Parkinson (Ysgol Seicoleg a Gwyddor Chwaraeon): Ar y cyd â Pharc Cenedlaethol Eryri, bydd cyllid yn cefnogi plant ysgol lleol i ddatblygu caeau ar gyfer cynigion gweithredu ar y newid yn yr hinsawdd ac ymgyrch hyrwyddo i baratoi at Uwchgynhadledd Ieuenctid (COPA 1) i’w chynnal ar Yr Wyddfa yn ddiweddarach eleni.  
  • Arweinir gan Donna Dixon (Ysgol Addysg): Cyllid i ddatblygu a chynhyrchu ffilm fer a fydd yn amlygu’r heriau a’r cyfleoedd yn y dirwedd ddigidol a fydd yn ymddangos am y tro cyntaf yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd 2024 a’r Uwchgynhadledd Ieuenctid yn Pontio’n ddiweddarach eleni. 
  • Arweinir gan yr Athro Stephen Doughty (Ysgol Feddygol Gogledd Cymru): Cyfres o ddigwyddiadau i randdeiliaid cymunedol i'w cynnal ledled y rhanbarth ar y cyd â Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr. Bydd cyllid yn ymgysylltu â Chleifion, Fferyllwyr Ysbytai a'r Gymuned ac Ymarferwyr Gofal Cychwynnol i gyfrannu at ddatblygu darpariaeth Fferylliaeth newydd ym Mhrifysgol Bangor. 

It looks like you’re visiting from outside the UK, would you like to be redirected to the international page?