A selection of graphics representing various landmarks in Bangor including the clock, mountains, the main arts building, the memorial arch and the pier. Also a selection of graphic doodles in various colours.

Diwrnod Cymunedol Prifysgol Bangor Sadwrn 14 Hydref 2023

Bydd Prifysgol Bangor yn cynnal eu Diwrnod Cymunedol cyntaf erioed yn yr hydref, ar ddydd Sadwrn 14 Hydref rhwng 11am a 3pm.

Bydd yn ddigwyddiad hwyliog i'r holl deulu gyda'r gweithgareddau am ddim, a gobeithio y bydd posib i chi ymuno â ni!

Dyma gyfle i’r Brifysgol agor ei drysau i’r gymuned leol, gan arddangos sut mae Prifysgol Bangor yn cyfrannu at fywyd cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol gogledd Cymru a thu hwnt trwy ystod o weithgareddau, o ymchwil ac addysgu i gyfleusterau hamddena a pherfformiadau byw.

Bydd y mwyafrif o’r gweithgareddau yn digwydd o gwmpas Neuadd Prichard-Jones a Neuadd Powis ym Mhrif Adeilad y Brifysgol, a Chanolfan Celfyddydau ac Arloesi Pontio.

Digwyddiad am ddim. Cofrestrwch ar Eventbrite er mwyn sicrhau eich tocyn a derbyn yr wybodaeth ddiweddaraf

Mwy o fanylion i ddilyn dros yr wythnosau nesaf!

[00:09]

Pwrpas y Diwrnod Cymunedol oedd croesawu pawb i'r Brifysgol

[00:14]

a rhannu efo nhw ystod y gwaith sydd yn mynd ymlaen yma.

[00:17]

Mae'n bosib bod pobl yn ymwybodol o'r adeilad, ond ddim wir yn gwybod be sydd yn digwydd tu ôl i'r drysau.

[00:25]

Felly mae'n gyfle iddyn new gael busnesu o gwmpas yr adeilad,

[00:28]

cyfarfod staff, staff gyfarfod bobl, a mwynhau diwrnod o weithgareddau amrywiol i'r teulu i gyd.

[00:41]

'Da ni'n gobeithio fydd pobl yn gweld ystod y gwaith sy'n mynd ymlaen yma,

[00:44]

a hefyd pa mor berthnasol ydi'r gwaith yma i fywydau pob dydd bobl.

[00:48]

Gobeithio fod pobl wedi cael cyfle i ddysgu pethau newydd,

[00:51]

ac i fwynhau dysgu,

[00:53]

A gweld bod y brifysgol yn gallu cyfoethogi bywyd pobl,

[00:56]

fel ydy'r bwriad wedi bod erioed ers ei sefydlu yng Ngogledd Cymru.

It looks like you’re visiting from outside the UK, would you like to be redirected to the international page?