Yn ystod y digwyddiad, perfformir nifer o’i weithiau gan unawdwyr, corau, offerynwyr ac ensemblau’r gymdogaeth – gan gynnwys rhai o’i gyn-fyfyrwyr, myfyrwyr presennol yr Adran a phlant a phobl ifanc sy’n ddisgyblion yng Nghanolfan Gerdd William Mathias (Caernarfon) a’r Gwasanaeth Cerdd Ysgolion Gwynedd a Môn. Penllanw’r noson fydd perfformiad o Culhwch ac Olwen (geiriau gan Yr Athro Gwyn Thomas, Bangor)– sef gwaith i gôr plant a seindorf offerynnol (dau biano ac offerynnau taro) dan arweiniad Tudur Eames. Cyfeiriodd William Mathias at Culhwch ac Olwen fel ‘diddanwch’ (yn Saesneg, ei ddisgrifiad o’r darn yw ‘Culhwch & Olwen – an entertainment’). Hynny yw, nid opera, na chantata, nid oratorio ychwaith – ond cyfuniad o sawl elfen gerddorol sy’n darlunio’r chwedl (un o chwedlau cynharaf Cymru ac un sy’n dwyn cyswllt agos iawn â’r Brenin Arthur) – gan gynnwys storïwraig (Mali Elwy), offerynnau, cyfeiliant dau biano, lleisiau plant a.y.b., Yn hanner cyntaf y cyngerdd, fe fydd darnau o waith unawdol a chorawl Mathias yn cael eu perfformio – darnau ar gyfer unawd organ, ffliwt a phiano, telyn, piano a.y.b., Ymhlith yr artistiaid (unawdol) bydd: Angharad Wyn Jones (telyn), Elis Massarelli-Hughes (organ), Teleri Siân (piano), Gwenno Wyn (ffliwt) a Christina Hutchinson-Rogers (ffliwt). Perfformir eitemau corawl gan ‘Côr Dre’ (Caernarfon) dan arweiniad Sian Wheway.
Bu Mathias yn Athro a Phennaeth yr Adran Gerdd yng Ngholeg Prifysgol Gogledd Cymru, Bangor o 1970-1988, cyn ei farwolaeth yn 1992. Ef hefyd, oedd sylfaenydd a Chyfarwyddwr Artistig ‘Gŵyl Gerdd Ryngwladol Gogledd Cymru’, Llanelwy sy’n parhau hyd at heddiw. Roedd yn gyfansoddwr toreithiog ac yn gerddor aml0chrog. Cynhyrchodd ddarnau ar gyfer cyfuniadau cerddorol gwahanol (offerynnau unawdol a phiano, organ, ensemblau chwyth, consierti, darnau cerddorfaol a.y.b.,) ond cerddoriaeth gorawl/leisiol oedd ei ddiddordeb pennaf – fe gofir yn bennaf am ei anthem ar gyfer priodas Y Tywysog Siarl a’r diweddar Fonesig Diana Spencer (a gyfansoddwyd yn 1981) Let the people praise Thee – fel un o’i ddarnau corawl mwyaf cyfarwydd a phoblogaidd. Cyfeirir ato’n aml fel ‘Cyfansoddwr y ddawns’ gan fod elfennau dawns (dawnsfeydd traddodiadol o Gymru, yn bennaf) yn ymddangos hwnt ac yma yn ei gerddoriaeth. Yn yr un modd, y mae rhythm (ac amlygrwydd adrannau sy’n ferw o rhythmau cyferbyniol) yn rhan arwyddocaol o’i gerddoriaeth.
Ee ellir prynu tocynnau o safle we Canolfan Gerdd William Mathias neu drwy ffonio (01286) 685230.