Darganfod Diwylliant Tsieina – Gweithdai Amser Cinio Am Ddim!
Cyflwyniad i Baentio Brwsh Tsieineaidd: Tegeirianau a Symbolaeth
Ymunwch â ni am gyfres o weithdai creadigol a hamddenol amser cinio sy’n dathlu harddwch celfyddydau a chrefftau Tsieineaidd. Bob wythnos, cewch gyfle i archwilio sgil draddodiadol wahanol, dan arweiniad tiwtoriaid o Sefydliad Confucius Prifysgol Bangor.
Mynediad: Am ddim – nid oes angen cofrestru
Mynediad i bawb: Ar sail y cyntaf i’r felin
Mae’r gweithdy hwn yn cynnig cyflwyniad i baentio brwsh Tsieineaidd traddodiadol, gyda ffocws ar degeirianau, symbol o geinder a gonestrwydd yn niwylliant Tsieina.
Yn y gweithdy hwn, byddwch yn:
- Dysgu am arwyddocâd diwylliannol tegeirianau mewn celf Tsieineaidd
- Cael eich cyflwyno i frwshys ac inc Tsieineaidd
- Ymarfer technegau rheoli brwsh a phaentio dail
- Creu eich paentiad tegeirian eich hun
Darperir yr holl ddeunyddiau.