Digwyddiad Cynefino Ysgol Ddoethurol ar gyfer Ymchwilwyr Ôl-raddedig Newydd (yn bersonol)
Mae croeso cynnes i bob Ymchwilydd Ôl-raddedig newydd i fynychu'r digwyddiad cynefino sydd i'w gynnal ar ddydd Llun 13 Hydref 2025. Bydd yn gyfle perffaith i ymchwilwyr newydd gwrdd â’i gilydd.
Mae'r rhaglen yn cynnwys gwybodaeth gan yr Ysgol Ddoethurol ac Undeb y Myfyrwyr. Cewch gyfle i gwrdd â’r wynebau y tu ôl i'r negeseuon e-bost.
Rydym yn gobeithio y gallwch chi ymuno â ni!
Os ydych yn bwriadu dod i'r digwyddiad cynefino, yna cofrestrwch ar-lein neu cysylltwch â pgr@bangor.ac.uk