Fy ngwlad:

Darganfod Ein Llety Myfyrwyr Yn Ystod Y Diwrnod Agored

Meddwl ble fyddi di’n byw pan yn ymuno â ni? Mae ein Diwrnod Agored yn gyfle perffaith i ddysgu mwy am dy opsiynau llety a chael blas go iawn ar fywyd myfyrwyr yma ym Mangor.

Dy Opsiynau Llety

Yn ystod y Diwrnod Agored, bydd digon o gyfleoedd i ddarganfod sut beth yw byw yn ein neuaddau. Mae’n bosib:

  • Ymuno â’n Teithiau Llety - Er fod pob llety o fewn pellter cerdded, rydym yn argymell eich bod yn neidio ar fws sy’n rhedeg am ddim trwy’r dydd i ymweld â’n neuaddau. Fe gewch daith o amgylch Bangor a’r llety wedi ei arwain gan fyfyrwyr – cyfle gwych i’w holi am y profiad o fyw mewn llety prifysgol.
  • Sgwrsio â’n Tîm Llety - Eisiau dysgu mwy am brisiau, lleoliad neu bellter i’r darlithoedd? Bydd ein staff llety cyfeillgar yn y Neuadd Arddangos (yn Neuadd PJ, drws nesaf i’r man cofrestru) drwy’r dydd, yn barod i ateb unrhyw gwestiynau ac i rannu gwybodaeth am dy opsiynau.
  • Mynychu’r Sgwrs Llety - Cei wybod yr wybodaeth ddiweddaraf am gostau, gwneud cais am lety a beth i’w ddisgwyl pan yn cyrraedd. Manylion llawn ar gael ar yr amserlen (dolen).

 

Pethau eraill i’w hystyried:

  • Archebwch yn Gynnar Lle’n Bosib - Mae ein neuaddau’n brysur ac yn llenwi’n gyflym, yn enwedig yr ystafelloedd mwyaf poblogaidd. Mae archebu’n gynnar yn sicrhau’r dewis gorau ac yn un peth llai i’w drefnu.
  • Dim Angen Blaendal - Unwaith yr wyt wedi derbyn cynnig gennym, mae’n bosib archebu dy ystafell heb dalu blaendal.
  • Ystafell wedi’i Gwarantu i Fyfyrwyr Blwyddyn Gyntaf - Hyd yn oed os yr wyt yn ymuno drwy’r system Glirio, rydym yn gwarantu lle mewn neuadd i bob myfyriwr blwyddyn gyntaf.

Cynllunio Ymlaen Llaw Er Mwyn Tawelwch Meddwl

Mae gennym ddau bentref llety unigryw, Ffriddoedd a’r Santes Fair, pob un â’i gymeriad, cyfleusterau a theimlad cymunedol ei hun. Os wyt yn chwilio am ystafell en-suite, lle tawelach, neu awyrgylch mwy cymdeithasol, mae yma lety at ddant pawb.

Mae’n bosibl ymweld â’r ddau bentref llety ar y diwrnod os ydych yn cynllunio’n ofalus, ond gan fod pob ymweliad yn gallu cymryd hyd at awr, gall fod yn anodd. Felly, rydym yn argymell gwneud ychydig o ymchwil ymlaen llaw er mwyn cymharu a phenderfynu pa un sy’n addas. Meddylia am beth sy’n bwysig i ti, ystafell en-suite neu ystafell gyda chawod a thŷ bach ar y cyd? Tawel neu gymdeithasol?

Grŵp o dri myfyriwr yn cerdded ar safle Ffriddoedd, mae dau fyfyriwr arall yn sgwrsio

Pentref Ffriddoedd

Wedi’i leoli ym Mangor Uchaf, pellter cerdded o tua 10 munud o Brif Adeilad y Brifysgol, gyda thua 1,960 o ystafelloedd.

Grŵp o fyfyrwyr yn cerdded y tu allan ym mhentref y Santes Fair

Pentref Y Santes Fair

Wedi’i leoli’n agos at ganol y ddinas, mewn safle uchel, mae oddeutu 650 o ystafelloedd ar y safle ac mae yma gymysgedd o fathau o lety.

Students socialising in Halls

Pam Aros Mewn Llety’r Brifysgol?

Mewn llety a reolir gan y brifysgol fe gei lawer mwy na lle i gysgu, fe gei gymuned, cyfleustra, a thawelwch meddwl. Dyma pam mae ein neuaddau’n ddewis gwych:

  • Pob Dim Wedi Gynnwys - Mae cyfleusterau, Wi-Fi, ac yswiriant i gyd wedi’u cynnwys. Does dim costau cudd.
  • Agos At Y Campws - Byw o fewn cyrraedd i ddarlithoedd, llyfrgelloedd, a mannau cymdeithasol.
  • Diogel A Chefnogol - Mae staff ar y safle ac mae’r neuaddau’n ddiogel, gyda chymorth ar gael 24/7.
  • Cymuned - Mae byw gyda myfyrwyr eraill yn dy alluogi i ymgartrefu’n gyflym a gwneud ffrindiau o’r diwrnod cyntaf.