MAE'R ARGRAFFIADAU CYNTAF YN BWYSIG
Mae Diwrnod Agored yn gyfle i gael profi sut mae lle yn teimlo. Mae llawer o'n myfyrwyr yn dewis astudio yma oherwydd natur gyfeillgar y lle. Rydyn ni'n gobeithio y byddi di'n gweld bod ein campws yn cynnig awyrgylch groesawgar yn ystod dy ymweliad.
Cwestiynau i'w gofyn:
- Sut mae bywyd myfyrwyr yma - a yw'n fywyd cymunedol neu annibynnol?
- Pa mor bell yw'r llety o'r darlithoedd, siopau, ac Undeb Myfyrwyr?
- Beth mae myfyrwyr yn ei wneud yn eu hamser hamdden?
- Beth yw'r naws gyffredinol ar y campws a'r ardal?


SIARAD Â'R STAFF ACADEMAIDD
Bydd siarad yn uniongyrchol â staff academaidd yn help i chdi ddeall beth fyddi di'n ei astudio mewn gwirionedd, sut fyddi di'n cael dy asesu, a pha fath o gefnogaeth fyddi di'n ei dderbyn.
Cwestiynau i'w gofyn:
- Pa fodiwlau sy'n ddewisol a pha rai sy’n orfodol?
- Alla i drosglwyddo i gwrs gradd arall ar ôl y flwyddyn gyntaf?
- A oes lleoliadau, teithiau maes neu gyfleoedd astudio dramor?
- Beth yw'r oriau cyswllt yr wythnos (a faint yw'r astudiaeth annibynnol)?
- Faint o fyfyrwyr eraill fydd yn debygol o fod mewn darlith / seminar?
- Sut mae'r cwrs yn cael ei asesu? Traethodau, arholiadau, neu waith grŵp?
- Beth mae'r rhan fwyaf o fyfyrwyr yn mynd ymlaen i'w wneud ar ôl graddio?
- A oes hyblygrwydd yn y gofynion mynediad?
SGWRSIO Â'R MYFYRWYR AR Y DIWRNOD AGORED
Mae myfyrwyr presennol yn drysorfa o wybodaeth. Maen nhw wedi bod lle rwyt ti ac eisiau rhannu eu profiadau a'u hargymhellion.
Cwestiynau i'w gofyn:
- Sut mae'r llety mewn gwirionedd? Lefelau sŵn? Mannau a rennir? Glendid?
- Beth oedd yn syndod i ti am ddechrau yn y brifysgol yma?
- A yw'n hawdd gwneud ffrindiau? Sut mae'r bywyd cymdeithasol?
- Pa Glybiau a Chymdeithasau wyt ti'n rhan ohonynt?
- Sut mae'r cyfleoedd gwaith rhan-amser?
- Sut mae'r llwyth gwaith ar dy gwrs?
- A yw'r darlithwyr yn hawdd siarad â hwy os wyt ti'n cael trafferth?


PAID AG ANGHOFIO'R MANYLION
Dyma'r pethau mae llawer o fyfyrwyr yn anghofio gofyn yn ystod eu hymweliad e.e. mae dyddiadau cau ar gyfer llety a chyllid yn aml yn dod yn gynharach nag y byddet ti'n disgwyl felly mae gwybod y manylion hyn yn gynnar yn gallu gwneud pethau'n llyfnach yn y dyfodol.
Cwestiynau i'w gofyn:
- Oes llety di-alcohol / tawel / merched yn unig / hygyrch)?
- A ydw i'n cael sicrwydd o ystafell mewn llety'r brifysgol?
- A oes dyddiadau cau ar gyfer ceisiadau llety?
- Faint yw'r llety a beth sydd wedi'i gynnwys?
- Pa fwrsarïau, ysgoloriaethau neu gefnogaeth ariannol alla i wneud cais amdanynt?
- Beth yw'r cyfleusterau chwaraeon?
- Pa gefnogaeth sydd ar gael ar gyfer anabledd, gwahaniaeth dysgu penodol neu iechyd meddwl.
GWNEUD Y GORAU O DY YMWELIAD
- Cymera nodiadau a ysgrifenna unrhyw gwestiynau sydd gennyt ti o hyd.
- Gad i eraill yn dy grŵp ofyn cwestiynau hefyd, efallai y bydd dy rieni neu ffrindiau yn meddwl am bethau nad wyt ti wedi'u gwneud.
- Cymera luniau (lle bo'n briodol) – bydd hyn yn helpu i gofio dy ymweliad pan fyddi di'n edrych yn ôl ac yn cymharu â Dyddiau Agored eraill.


AR ÔL Y DIWRNOD AGORED
Rwyt ti wedi ymweld â'r campws, wedi edrych o gwmpas y llety ac wedi sgwrsio â staff a myfyrwyr am y cwrs a bywyd myfyrwyr yma. Beth i'w wneud os oes gen ti gwestiynau o hyd?
- Tyrd i ymweld eto os gelli di. Naill ai i Ddiwrnod Agored arall, Diwrnod Ymweld i Ymgeiswyr neu os nad yw’r dyddiadau hynny yn gyfleus, cysyllta i drefnu ymweliad personol.
- Edrycha ar ein Taith Rithwir am olwg arall ar ein neuaddau darlithio, llyfrgelloedd, a llety.
- Defnyddia UniBuddy i sgwrsio ar-lein â myfyrwyr neu ddarlithwyr presennol.
- Dilyna y Brifysgol, ysgol academaidd a'r Undeb Myfyrwyr ar sianeli cymdeithasol i gael teimlad o fywyd bob dydd.