Gweddarlleniad 'Cwrdd â'r Arbenigwr Gwybodaeth Ariannol’
Ymunwch ag Adran Addysg Weithredol Ysgol Busnes Bangor ar gyfer y gwe-ddarllediad 'Cwrdd â'r Arbenigwr Gwybodaeth Ariannol’
Dan arweiniad Stephen Jones, Cyfarwyddwr Rhaglen Addysg Weithredol Ysgol Busnes Bangor a Chyfarwyddwr Gwybodaeth Ariannol, ManchesterCF. Mae dynodiad Arbenigwr Gwybodaeth Ariannol yn gosod safon newydd ym myd gwybodaeth ariannol.
Bydd y gweddarllediad rhyngweithiol hwn o fudd i weithwyr proffesiynol sy'n gweithio ym maes Rheoleiddio Ariannol, Gwrth-wyngalchu Arian a Chydymffurfiaeth Ariannu Gwrthderfysgaeth neu'r rhai sydd â diddordeb mewn ymuno â'r maes hwn. Clywch yn uniongyrchol gan yr arbenigwyr ar sut y bydd y dynodiad hwn yn datblygu eich gyrfa.
Bydd sesiwn cwestiwn ac ateb yn dilyn ar ddiwedd y gweddarllediad ac mae’n gyfle gwych i ddysgu mwy am yr MBA Troseddau a Chydymffurfiaeth Ariannol a pham y dylech astudio’r rhaglen hon. Cofrestrwch am eich lle am ddim nawr.
Mae’r MBA Troseddau a Chydymffurfiaeth Ariannol yn gymhwyster Meistr o Brifysgol Bangor ynghyd â dynodiad proffesiynol Arbenigwr Gwybodaeth Ariannol a roddir gan ManchesterCF.