Sesiwn gyflwyniadol NVivo (sesiwn yn y cnawd)
Bydd y sesiwn hon yn rhoi cyflwyniad byr i NVivo, pecyn cyfrifiadurol sy'n cynorthwyo dadansoddi data ansoddol.
Mae'r pecyn cyfrifiadurol hwn yn cefnogi sawl dull dadansoddi data – megis dadansoddiad thematig neu ddamcaniaeth seiliedig.
Byddwn yn trafod yn fyr beth mae codau a chodio’n ei olygu, cyn symud ymlaen i ddefnyddio NVivo. Sylwer mai sesiwn YMARFEROL YN Y CNAWD yw hon. Nod y sesiwn yw rhoi trosolwg i chi ar yr hyn y gellir defnyddio NVivo ar ei gyfer, a thrafodaeth o'r prif nodweddion a swyddogaethau. Byddaf yn rhannu adnoddau a fydd hefyd ar gael ar Blackboard. Os na allwch ddod i'r sesiwn, bydd yr adnoddau hyn yn fan cychwyn da.