Voices from the Forest: Putting local people at the heart of decisions about tropical forests’ contribution to tackling climate change
Lansiad ffilm a thrafodaeth banel arbenigol
Lansiad ffilm a thrafodaeth banel arbenigol yn cynnwys:
Dr Baomiavotse Vahinala Raharinirina (Gweinidog yr Amgylchedd a Datblygiad Cynaliadwy, Madagascar)
Mrs Mary Robinson (cyn Arlywydd Iwerddon, comisiynydd y Cenhedloedd Unedig dros hawliau dynol a llysgennad arbennig y Cenhedloedd Unedig ar newid yn yr hinsawdd yn y cyfnod cyn cytundeb Paris)
Dr Musonda X. Mumba (xxxx)
Dr O. Sarobidy Rakotonarivo (Prifysgol Antananarivo)
Gyda chyfle i’r gynulleidfa ofyn cwestiynau i’r panel, dan gadeiryddiaeth yr Athro Julia P.G. Jones (Prifysgol Bangor)
Nid oes modd cyflawni sero net heb arafu datgoedwigo ac adfer coedwigoedd. Ond mae darparu cadwraeth ac adfer coedwigoedd mewn modd effeithiol a theg yn heriol. Gwnaed y ffilm "Voices from the forest" gan ymchwilwyr, pobl sy'n byw ar ffin y goedwig ym Madagascar, a gwneuthurwyr ffilmiau proffesiynol. Mae'n trafod profiad pobl leol o ymdrechion byd-eang i warchod coedwigoedd. Y nod yw mynd y tu hwnt i stori or-syml sy'n cymryd yn ganiataol bod cadwraeth ac adfer coedwigoedd hefyd yn lleihau tlodi. Bydd y drafodaeth banel yn canolbwyntio ar atebion i ddarparu cadwraeth ac adfer coedwigoedd mewn modd effeithiol a theg sy'n cyfrannu at y frwydr yn erbyn newid yn yr hinsawdd. Yn y flwyddyn dyngedfennol hon, nod y digwyddiad hwn yw helpu i bontio'r bwlch rhwng cymunedau lleol a pholisïau ac ymarfer hinsawdd rhyngwladol.