Ymunwch â Dr Marcel Stoetzler, Uwch Ddarlithydd mewn Cymdeithaseg, ar gyfer Sesiwn Flasu ar-lein AM DDIM
Rydyn ni i gyd yn meddwl ein bod yn gwybod beth yw hiliaeth nes i rywun ofyn. Yna, nid yw’n glir o gwbl, yn sydyn: gallai rhywun ddweud ar fympwy fod hiliaeth rywsut yn cael ei chyfeirio yn erbyn ‘hiliau’, ond wrth fyfyrio ymhellach, mae’r rhan fwyaf o bobl yn cytuno nad yw ‘hiliau’ dynol mewn gwirionedd yn bodoli. Ac eithrio, byddai rhai yn ateb, fod hilwyr yn creu, gyda’r syniad o ‘hiliau’, ryw fath o realiti hefyd – os oes ganddynt y grym i wneud hynny. A ydyw wir? Ond sut? Sut mae’r broses o ‘ffurfio’ hiliau, neu o ‘hiliaethu’ grwpiau penodol o bobl, yn gweithio? A pha grwpiau sy’n cael eu ‘hiliaethu’, hynny yw, eu troi’n ‘hiliau’ a’u trin felly? Unrhyw un? Byddai llawer o bobl yn dweud bod hiliaeth yn targedu’r tlawd a’r rhai a ecsbloetir, y rhai a drefedigaethedd, mewnfudwyr a ffoaduriaid – efallai i ‘rannu’r dosbarth gweithiol’. Mae hyn yn wir am lawer o ffurfiau hiliaeth. Ond wedyn, mae hefyd ffurfiau ar hiliaeth sy’n cael eu cyfeirio at bobl gyfoethog a phwerus. A yw hynny’n ei gwneud hi’n dderbyniol? Ac wedyn, mae hefyd ffurfiau o hiliaeth sy’n dychmygu’n unig fod eu dioddefwyr yn gyfoethog a phwerus (fel gwrth-semitiaeth, sef hiliaeth yn erbyn Iddewon). Felly, beth fyddai ffordd dda o ddiffinio hiliaeth sy’n cynnwys hyn i gyd? A oes un?
Cewch weld ein Hysbysiadau Preifatrwydd yma. Trwy gyflwyno'r ffurflen gofrestru rydych yn cytuno â thelerau defnyddio a hysbysiad preifatrwydd y Brifysgol. Cewch gysylltu â ni ar unrhyw adeg i dynnu'ch cydsyniad yn ôl neu newid eich dewisiadau cydsyniad.
Caiff y sesiwn ei chyflwyno trwy gyfrwng y Saesneg.
Archwiliwch y gyfres Sesiynau Blasu: