Cyngerdd lansio Gŵyl Delynau Ryngwladol Cymru, Ebrill 5-11 2023
Elinor Bennett a'i Chyfeillion
Cyngerdd amrywiol yng nghwmni Elinor Bennett i ddathlu gyrfa dros hanner canrif o ganu a dysgu'r delyn, yn ogystal â phenblwydd yr Adran Gerdd, Prifysgol Bangor, yn 100 oed.
Bu Elinor Bennett yn Athrawes y Delyn ym Mhrifysgol Bangor am gyfnod hir, a gwahoddir ei chyn-ddisgyblion a'i chyd-weithwyr i ymuno â hi mewn cyngerdd ar lwyfan Neuadd Pritchard-Jones i lansio Gwyl Delynau Rhyngwladol Cymru V, a gynhelir ym mis Ebrill 2023. Mae'r cyngerdd yn rhan o ddathliadau 100 mlynedd sefydlu'r Ysgol Gerdd ym Mhrifysgol Bangor yn 1923, mewn cydweithrediad â Gwyn L. Williams, Cyfarwyddwr y prosiect dathlu.
Bydd perfformiadau gan Elinor a'i chyn-ddisgbyblion o weithiau cerddorol sy'n bwysig yn ei gyrfa, a bydd y rhaglen yn cynnwys Danse Sacree et Profane gan Debussy; Consierto i'r Delyn gan Handel; Tri Darn Byrfyfyr gan William Mathias a llawer mwy.
Ymhlith yr artistiaid fydd rhai o delynorion amlycaf Cymru, ynghŷd â Chôr Seiriol, Côr Telyn Gogledd Cymru ac Ensemble Linynnol Prifysgol Bangor o dan arweiniad Gwyn L Williams.