Ble y byddwch yn byw

Pentref Santes Fair

Ein Neuaddau Preswyl

Mae ein neuaddau o’r safon uchaf ac i gyd yn hunan-arlwy. Bydd y rhan fwyaf ohonoch hefyd yn cael ystafell ymolchi preifat gan fod y mwyafrif o’n neuaddau yn en-suite. Mae'r pris a dalwch am Neuaddau yn cynnwys eich holl filiau, heblaw am eich trwydded deledu, a hyd yn oed aelodaeth i'r gampfa. 

Mewn Neuaddau gydag ystafell ymolchi a rennir, fel arfer byddwch yn rhannu gydag hyd at 5 o bobl eraill.  

Mae ceginau yn cael eu rhannu rhwng myfyrwyr ac mae'r offer a gewch yn cynnwys popty, microdon, tostiwr, tegell, oergell a rhewgell. Mae angen i chi ddod â'ch llestri , a sosbenni eich hunain. Fel arfer, ceir golchdy ar y safle neu gerllaw lle gallwch olchi eich dillad. 

Byw adref

Os ydych yn byw yn agos i'ch prifysgol gallwch ddewis i fyw gartref a theithio i mewn i'r brifysgol bob dydd i fynychu eich darlithoedd a seminarau. Fodd bynnag, mae llawer o fyfyrwyr yn penderfynu symud i ffwrdd o gartref fel eu bod yn medru manteisio ar y cyfle i wneud y mwyaf o’r ochr gymdeithasol o fywyd myfyriwr.  

Llety Preifat

Os ydi’n well gennych chi edrych am rhywle eich hun yn y sector breifat, mi all ein Gwasanaethau Myfyrwyr eich helpu chi drwy’r broses. .  

Swyddfa Tai Myfyrwyr

It looks like you’re visiting from outside the UK, would you like to be redirected to the international page?