Gwnaed hyn yn bosibl o ganlyniad i £86,500 a gafwyd fel rhoddion yn ystod y pandemig.
Bydd Ysgoloriaethau Ôl-radd Cronfa Cyn-fyfyrwyr Bangor yn ariannu dau fyfyriwr o bob un o dri choleg y brifysgol yn ogystal ag un ysgoloriaeth benodol drwy gyfrwng y Gymraeg.
Bwriad yr ysgoloriaethau yw dathlu llwyddiannau’r myfyrwyr sydd wedi cyrraedd lefel uchel o ragoriaeth academaidd yn eu hastudiaethau ac sydd hefyd wedi cyfoethogi profiad myfyrwyr Bangor yn ystod eu blwyddyn gyntaf a/neu eu hail flwyddyn fel ymchwilwyr ôl-radd cofrestredig.
I gael rhagor o wybodaeth am yr ysgoloriaethau a sut i wneud cais, cysylltwch â Penny Dowdney neu e-bostiwch pgr@bangor.ac.uk
Cyfarfu grŵp dyrannu Cronfa Bangor, sy’n cael ei gadeirio gan y Dirprwy i’r Is- ganghellor, yr Athro Oliver Turnbull, yn ddiweddar ac maent hefyd wedi dyfarnu grantiau i’r projectau canlynol:
Ysgol Cyfrifiadureg a Pheirianneg: Digwyddiad ar ffurf symposiwm a chynhadledd fydd ‘Talk Design Live @ Bangor’ a gynhelir ar 27 Mai. Caiff y digwyddiad ei drefnu gan y cwrs Dylunio Cynnyrch a bydd yn dod ag arweinwyr y sector, arloeswyr, ac ymarferwyr arbenigol y maes dylunio, gweithgynhyrchu, ac arloesi i rannu’r hyn y maent yn ei wneud a sut y maent yn ei wneud.
Ysgol Gwyddorau Amgylcheddol a Naturiol : Wyth bwrsariaeth teithio i fyfyrwyr yn ail flwyddyn cyrsiau BSc i ymweld â Hwngari i gymryd rhan mewn alldeithiau fel rhan o'u project traethawd ymchwil er mwyn ymchwilio i sut mae deiet a’r bygythiad gan ysglyfaethwyr yn dylanwadu ar esblygiad gwenwyn nadroedd!
Ysgol Gwyddorau Meddygol ac Iechyd: Grantiau teithio i fyfyrwyr israddedig Bydwreigiaeth i gael mynediad i leoliadau detholiadol dramor neu mewn rhan arall o’r Deyrnas Unedig.
Ysgol Gwyddorau Meddygol ac Iechyd: Creu a chynhyrchu deunydd fideo proffesiynol cyfrwng Cymraeg i gyfoethogi profiad dysgu ac addysgu myfyrwyr ar y rhaglen ôl-radd bydwreigiaeth
Ysgol Gwyddorau Amgylcheddol a Naturiol : 'Llyfrgell o ddillad ac esgidiau awyr agored' i fyfyrwyr eu benthyg er mwyn iddynt allu cymryd rhan mewn teithiau maes awyr agored
I gael rhagor o wybodaeth am Gronfa Bangor, cysylltwch ag Emma Marshall ar e.marshall@bangor.ac.uk