Ysgrifennydd y Brifysgol
Gwenan Hine

Ysgrifennydd y Brifysgol
Main Arts, Bangor University
Gwenan sydd â goruchwyliaeth strategol ar bob agwedd ar lywodraethu’r Brifysgol gan gynnwys y Cyngor, y Senedd, y Llys, y Bwrdd Gweithredol a holl Is-bwyllgorau’r Cyngor. Yn ogystal, mae’n arwain Swyddfa’r Bwrdd Gweithredol, darparu gwasanaethau cyfreithiol, cydymffurfio â chontractau a gwybodaeth, diogelu ac Atal, ymddygiad a chwynion myfyrwyr, Graddau er Anrhydedd, llywodraethu ymchwil, moeseg, ordinhadau, rheoliadau a pholisïau.
Lauren Roberts
Swyddog Llywodraethu ac Ysgrifenyddiaeth
Main Arts, Prifysgol Bangor
Mae Lauren yn cefnogi Gwenan ar amrywiaeth o faterion llywodraethu, gan gynnwys y Cyngor, y Senedd a’r Llys, tra hefyd yn darparu cymorth gweinyddol i Gadeirydd y Cyngor a holl aelodau eraill y Cyngor. Mae Lauren yn cydlynu'r amserlen o gyfarfodydd a busnes ar gyfer pwyllgorau ac is-bwyllgorau Cyngor y Brifysgol ac yn gweinyddu'r broses o lofnodi a selio dogfennau swyddogol.
Mae Lauren hefyd yn cynorthwyo Gwenan i gynnal gwybodaeth y Brifysgol ar wefan y Comisiwn Elusennau, trwy gyflwyno cyfrifon blynyddol, ffurflenni a Digwyddiadau Difrifol.
Mae Lauren hefyd yn Ysgrifennydd i Fwrdd Cymunedol y Brifysgol, dan gadeiryddiaeth yr Athro Andrew Edwards.
Sera Whitley
Cynorthwyydd Gweinyddol
Main Arts, Prifysgol Bangor
Mae Sera yn darparu cefnogaeth weinyddol ar draws yr adran Gwasanaethau Llywodraethu. Mae’n cefnogi amrywiaeth o brosesau ar draws sawl maes o’r Gwasanaeth, gan gynnwys gwasanaethau a chontractau cyfreithiol, llywodraethu ymchwil, uniondeb a moeseg, rheoli polisi a threfnu hyfforddiant staff ar gyfer tîm y Gwasanaethau Llywodraethu. Yn ogystal, mae Sera yn cefnogi’r Swyddog Llywodraethau ac Ysgrifenyddiaeth gyda phroses Penodiadau er Anrhydedd a chwifio baner y brifysgol mewn coffadwriaeth, yn ogystal â sicrhau bod tudalennau gwe’r Gwasanaethau Llywodraethu yn cael eu diweddaru’n llawn ac ar gael yn ddwyieithog.
Diogelu a Rheoli Argyfwng/ Cwynion, Disgyblaeth ac Apeliadau Myfyrwyr
Steven Barnard

Uwch Swyddog Diogelu, Ymddygiad a Chwynion
Reichel, Prifysgol Bangor
Mae gan Steve gyfrifoldeb penedol am reoli gweithdrefnau’r Brifysgol ar gyfer disgyblaeth myfyrwyr, cwynion myfyrwyr, addasrwydd / addasrwydd i ymarfer, terfynu astudiaethau ac apeliadau myfyrwyr. Steve yw arweinydd Prevent ac mae’n rheoli cyfrifoldebau’r Brifysgol o dan y Ddeddf Gwrthderfysgaeth a Diogelwch ac ef yw Swyddog Diogelu dynodedig y Brifysgol. Mae Steve yn darparu hyfforddiant i staff ym mhob maes cyfrifoldeb ac yn gweithredu fel Rheolwr Argyfwng y Brifysgol, ac mae’n gyfrifol am hyfforddiant a datblygiad rheoli brys. Mae Steve yn rhoi cyngor arbenigol i staff ar arfer gorau ar gyfer meysydd penedol o gyfrifoldeb ac yn ymgynghori ag Undeb y Myfyrwyr ar bob agwedd ar ei bortffolio.
Gwasanaethau Gyfreithiol, Cydymffurffiaeth, a Chontractau
Lynette Williams

Cynorthwywr Cyfreithiol a Cydymffurfio
Reichel, Prifysgol Bangor
Mae Lynette yn cefnogi’r Gwasanaethau Llywodraethu gyda phob agwedd ar weithgareddau sy’n ymwneud â chydymffurfio. Yn benodol, mae Lynette yn rheoli ymatebion y Brifysgol i geisiadau sy’n ymwneud â’r ddeddfwriaeth wybodaeth (gan gynnwys Rhyddid Gwybodaeth (FOI), Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol (EIR) a cheisiadau ynghylch diogelu data (SAR))) i sicrhau yr ymdrinnir â hwy’n effeithlon ac yn effeithiol yn unol â’r ddeddfwriaeth a’r canllawiau sy’n ymwneud â’r ymarfer gorau. Fel rhan o'r rôl, mae hi hefyd yn cynorthwyo'r Rheolwr Cyfreithiol a Chydymffurfio gydag achosion o dor-amodau Diogelu Data.
Mae Lynette yn goruchwylio'r gwaith o reoli a chadw cofnodion busnes priodol yn feunyddiol, gan gysylltu â staff y Brifysgol i lunio polisïau priodol i ddal gafael ar fyfyrwyr. Mae'n rhoi cyngor ac arweiniad i bob aelod o’r staff ar bob agwedd ar reoli cofnodion, eu creu a’u gwaredu, gan sicrhau bod sensitifrwydd parthed rheoli cofnodion craidd yn elfen hanfodol o’r gweithgareddau beunyddiol yn ogystal â gwarchod cof corfforaethol a threftadaeth y Brifysgol.
Mae Lynette hefyd yn rheoli gweithrediad gwasanaeth y Ganolfan Gofnodion ar gyfer cofnodion craidd y Brifysgol fel y gall y staff ddod o hyd i’r wybodaeth sydd ei hangen arnynt yn gyflym ac yn hawdd, a bod yr adran yn gwybod pa wybodaeth sydd ganddi a ble y mae, ei bod yn cadw’r wybodaeth sydd ei hangen arni yn unig, ac yn storio ei gwybodaeth yn effeithlon ac yn ddiogel.
Mae Lynette yn gweithio'n rhan-amser i'r Swyddfa ac mae ar gael ar foreau Llun, Mawrth a Mercher. Hi hefyd yw Uwch Archifydd y Brifysgol.
Marina Margulis

Rheolwr Contractau
Reichel, Prifysgol Bangor
Mae Marina yn cefnogi Sarah i gynnig gwasanaeth rheoli contract ymatebol a hyblyg, yn arbennig o ran contractau masnachol ac ymchwil. Yn benodol, mae Marina yn darparu cefnogaeth uniongyrchol i ymchwilwyr a staff eraill y Brifysgol sydd angen Cytundebau Cyfrinachedd, Cytundebau Ymgynghori, Cytundebau Efrydiaeth, Cytundebau Trosglwyddo Deunyddiau a/neu gontractau eraill sy'n ymwneud â gweithgareddau masnacheiddio, ymchwil, effaith ac arloesedd y Brifysgol.
Llywodraethu Ymchwil a Moeseg:
Colin Ridyard

Uwch Swyddog Polisi a Llywodraethu Ymchwil
Reichel, Prifysgol Bangor
Mae Colin yn arwain y Brifysgol o ran moderneiddio a diweddaru llywodraethu ymchwil a phrosesau moesegol, gan ddarparu cyngor a datblygu arweiniad i golegau ar foeseg, moeseg ymchwil, llywodraethu ymchwil a materion uniondeb. Gan reoli trwyddedau perthnasol i ymchwil y Brifysgol mewn perthynas â'r Ddeddf Meinweoedd Dynol a'r Ddeddf Anifeiliaid (Gweithdrefnau Gwyddonol), mae Colin hefyd yn gyfrifol am reoli fframwaith polisi corfforaethol y Brifysgol a sicrhau bod pob polisi'n cwrdd ag anghenion nodau ac amcanion strategol y Brifysgol a bod pob un yn cyd-fynd â Chynllun Strategol y Brifysgol. Mae Colin hefyd yn rheoli'r rheoliadau academaidd, codau ymarfer, a threfnau'r Brifysgol. Mae'n Ysgrifennydd Pwyllgor Rheoliadau ac Achosion Arbennig y Senedd.