Llongyfarchiadau ar eich cynnig o le ym Mhrifysgol Bangor
Llongyfarchiadau ar gael eich derbyn i'n rhaglen Bydwreigiaeth! Rydym yn falch o'ch croesawu i'n cymuned. I'ch helpu i ddod yn gyfarwydd â ni cyn i chi ddechrau ym mis Medi, rydym wedi llunio rhai adnoddau i fynd i'r afael â chwestiynau cyffredin a darparu gwybodaeth werthfawr.
Cadwch mewn cysylltiad â ni ar y cyfryngau cymdeithasol i gael y newyddion a'r digwyddiadau diweddaraf. Rydym yn edrych ymlaen at gwrdd â chi cyn bo hir ac yn dymuno'r gorau i chi wrth i chi baratoi ar gyfer eich astudiaethau.
Beth i'w ddisgwyl fel myfyriwr Bydwreigiaeth
Addysgir ein cwrs Bydwreigiaeth gan academyddion sydd gyda'r gorau yn y byd a sy'n angerddol am eu pynciau. Byddwch yn dysgu gan arbenigwyr sydd ar flaen y gad yn eu meysydd, a bydd gennych fynediad at gyfoeth o adnoddau i gefnogi eich astudiaethau.
Mae rhaglen Bydwreigiaeth Prifysgol Bangor yn cynnwys cyfleusterau o'r radd flaenaf, gan gynnwys labordai efelychu uwch, ystafelloedd geni o'r radd flaenaf, ac amgylcheddau hyfforddiant clinigol cynhwysfawr, gan roi profiad ymarferol eithriadol i fyfyrwyr a'u paratoi ar gyfer ymarfer proffesiynol.
Rydym wedi ymrwymo i ddarparu amgylchedd cefnogol a chynhwysol i'n holl fyfyrwyr. Mae gennym dîm ymroddedig o staff sydd yma i'ch helpu gyda'ch astudiaethau ac i sicrhau eich bod yn cael profiad cadarnhaol ym Mangor.
Peidiwch â Methu - Digwyddiadau Holi ac Ateb Byw
Llety - Sesiwn Holi ac Ateb Byw
Dydd Iau 4 Medi am 10am
Ymunwch â ni yn y digwyddiad arbennig hwn sy'n canolbwyntio ar Lety ym Mangor. Mae'r sesiwn Cwestiwn ac Ateb byw hwn yn gyfle i chi ofyn unrhyw gwestiynau sydd gennych i staff a myfyrwyr cyfredol am symud i mewn i a byw mewn Llety Prifysgol Bangor. Gwnewch yn siŵr eich bod yn mewngofnodi am 10yb ar ddydd Iau, 4 Medi i gymryd rhan.
Croeso, Cofrestru a Chefnogi Myfyrwyr – Sesiwn Holi ac Ateb Byw
Ddydd Llun 8 Medi am 2pm
Ymunwch â ni yn y digwyddiad arbennig hwn sy'n canolbwyntio ar Groeso, Cofrestru a Chefnogi Myfyrwyr ym Mangor. Mae'r sesiwn Cwestiwn ac Ateb byw hwn yn gyfle i chi ofyn unrhyw gwestiynau sydd gennych i staff a myfyrwyr cyfredol am ddechrau yn y brifysgol, y broses gofrestru a pha gefnogaeth sydd ar gael i chi fel myfyriwr ym Mhrifysgol Bangor. Gwnewch yn siŵr eich bod yn mewngofnodi am 2yp ddydd Iau, 28 Awst i gymryd rhan.
Gwyliwch ein fideo
Helo, Tom Graham ydw i a fi ydy'r Cyfarwyddwr Ymgysylltu â Myfyrwyr i'r Ysgol Gwyddorau Iechyd yma ym Mhrifysgol Bangor. Faswn i'n licio ymestyn llongyfarchiadau mawr i chi gyd am gael cynnig i astudio gyda ni yma ym Mhrifysgol Bangor.
Mae gennym gyfleusterau hynod o dda yn y Brifysgol. Rydw i'n sefyll rŵan yn un o'n cyfleusterau clinigol ni, i helpu chi yn eich siwrnai i fod yn broffesiynol tuag at y diwedd.
Rydyn ni'n edrych ymlaen at weithio gyda chi fel myfyrwyr. Mae gennym dîm academaidd yma sydd â llwyth o brofiad clinigol i helpu chi yn eich siwrnai fel myfyrwyr i fod yn broffesiynol.
Felly, llongyfarchiadau mawr eto i chi am gael cynnig i ddod i astudio gyda ni yn y Brifysgol. Rydym yn edrych ymlaen at weld chi ym mis Medi. Diolch yn fawr.