Fy ngwlad:

Croeso i'ch Hyb Ymgeiswyr

Archwiliwch beth sy'n gwneud Prifysgol Bangor yn arbennig, o'n lleoliad godidog i'n cymuned gefnogol; mae dewis Cymdeithaseg ym Mangor yn ddechrau taith gyffrous. Mae astudio ym Mangor yn golygu dysgu gan arbenigwyr angerddol sy'n rhoi eich llwyddiant chi yn gyntaf. Yma, byddwch yn ennill y wybodaeth a'r sgiliau i lunio'ch gyrfa gyda hyder.

Eich Hyb Ymgeiswyr yw eich lle i fynd ar gyfer popeth sydd ei angen arnoch i baratoi ar gyfer y cam nesaf. Archwiliwch beth sy'n aros amdanoch chi a dechreuwch gynllunio'ch dyfodol heddiw.

Beth i'w ddisgwyl fel myfyriwr Cymdeithaseg

Mae ein cyrsiau yn cael eu haddysgu gan academyddion sydd gyda'r gorau yn y byd, ac yn angerddol am eu pynciau. Byddwch yn dysgu gan arbenigwyr sydd ar flaen y gad yn eu meysydd, a bydd gennych fynediad at gyfoeth o adnoddau i gefnogi eich astudiaethau. Mae ein tîm ymroddedig o academyddion nid yn unig yn wybodus ond hefyd yn angerdd.

Rydym wedi ymrwymo i ddarparu amgylchedd cefnogol a chynhwysol i'n holl fyfyrwyr. Mae gennym dîm ymroddedig o staff sydd yma i'ch helpu gyda'ch astudiaethau ac i sicrhau eich bod yn cael profiad cadarnhaol ym Mangor.

Gwyliwch ein fideo

a headshot of Dr cynog prys, Senior Lecturer in Finance
Fideo: Croeso gan Cynog Prys, uwch Darlithydd mewn Cymdeithaseg

Dr Cynog Prys ydw i a dwi'n Uwch Darlithydd mewn Cymdeithaseg a Pholisi Cymdeithasol.

Felly mae Cymdeithaseg yn faes hynod o ddiddorol i astudio ynddo yn y brifysgol. Yma da ni trio gwneud synnwyr o natur a threfn cymdeithas ac yn chwilio am atebion i heriau'r problemau mawr ein byd. Yma ym Mangor gewch chi ofal da gennym ni fel staff. Da ni'n cael cyfle gwych i ddod i nabod ein myfyrwyr yn ystod y tair blynedd maen nhw yn astudio yma.

Mae Bangor hefyd yn lle hynod braf i fyw ynddo. Mae yna gymuned iaith Gymraeg hynod o fywiog yma, lle mae pobl yn cael lot fawr iawn o hwyl a sbri ochr yn ochr efo'r gwaith academaidd maen nhw yn ei wneud. Felly ia da ni  gobeithio gweld chi ym Mangor yn y dyfodol.

Dyn yn ysgrifennu nodiadau wrth y gliniadur

Aeron Dafydd Dwi'n Caru Byw Bywyd Myfyriwr Trwy Gyfrwng y Gymraeg

Yn astudio: Cymdeithaseg a Throseddeg a Chyfiawnder Troseddol

Sut fyddech chi’n disgrifio’r arddull addysgu ar y cwrs?
"Mae’r arddull addysgu’n gefnogol iawn. Mae’r darlithwyr yn annog trafodaeth agored a meddwl yn feirniadol, nid jest dysgu ffeithiau. Mae hyn yn gwneud y sesiynau’n fwy bywiog ac yn helpu fi deimlo’n hyderus i ofyn cwestiynau ac ymuno yn y drafodaeth."

Beth fu eich hoff ran o’r cwrs hyd yn hyn?
"Fy hoff ran yw astudio drwy’r Gymraeg, gan fod y dosbarthiadau’n llai ac yn fwy personol. Mae’n hawdd cymryd rhan ac mae pawb yn adnabod ei gilydd. Rwyf hefyd wedi mwynhau'r ochr gymdeithasol drwy’r gymdeithas Gymraeg, sydd wedi gwneud fy amser ym Mangor yn llawer mwy pleserus."

lecture theatre

Tomos Llwyd Jones Mae Bangor yn rhoi hyder i mi o ran fy ngyrfa

Yn astudio: Cymdeithaseg a Pholisi Cymdeithasol

Pam wnaethoch chi ddewis astudio’r cwrs hwn ym Mangor?
"Dewisais astudio Cymdeithaseg a Pholisi Cymdeithasol oherwydd mae’r cwrs yn cwmpasu ystod eang o bynciau sy’n berthnasol i fywyd go iawn. Ar ôl gweithio am sawl blwyddyn, roedd dod yn ôl i addysg yn gam mawr ac roeddwn yn nerfus, ond cefais groeso anhygoel gan y staff a fy nhiwtor personol. Roedd gallu astudio drwy’r Gymraeg yn bwysig iawn i mi, ac mae’r profiad wedi gwneud i mi deimlo’n rhan o gymuned gefnogol."

Beth yw eich hoff ran o’r cwrs hyd yn hyn?
"Y profiadau ymarferol yw fy hoff ran - cael mynd ar daith dramor, cysylltu gyda’r cyngor lleol, a pharatoi ar gyfer profiad gwaith gyda HMP Berwyn. Mae’r cyfleoedd hyn wedi helpu fi weld sut mae’r theori’n berthnasol i fywyd go iawn, ac wedi rhoi hwb enfawr i’m hyder a’m nodau gyrfa."

Myfyriwr yn gwisgo sbectol haul yn edrych ar ei ffôn symudol, yn pwyso yn erbyn wal

Sut i wneud ffrindiau cyn cychwyn yn y Brifysgol?

Byddwch yn gallu ymuno ag ymgeiswyr eraill a dod yn rhan o gymuned Bangor cyn cyrraedd hyd yn oed! Byddwch yn gallu cofrestru i ymuno â 'Campus Connect' pan fydd yr ap yn mynd yn fyw ym mis Chwefror. Yn yr ap, bydd modd gofyn cwestiynau, sgwrsio gyda myfyrwyr presennol a gwneud ffrindiau ag ymgeiswyr eraill ar eich cwrs ac yn y llety o'ch dewis. Cewch wahoddiad i ymuno â'r ap dros e-bost, a chewch hefyd rif adnabod Prifysgol Bangor, y byddwch ei angen i gofrestru.

Myfyriwr PhD, Rosemary Nwimueyi

Rosemary Nwimueyi Neidiwch i mewn â chalon lawn

Astudiodd Rosemary, fyfyrwraig ôl-raddedig, gradd Troseddeg a Chyfiawnder Troseddol ym Mhrifysgol Bangor

Dyma ei chyngor i unrhyw un sy'n nerfus ynglŷn â dechrau prifysgol...

"Neidiwch i mewn â'ch holl galon. Trawsnewidiodd y brifysgol hon fi o fam sengl oedd yn ei chael hi'n anodd i rywun a raddiodd gydag Anrhydedd Dosbarth Cyntaf. Nid yw Bangor yn unig yn eich addysgu, mae'n eich meithrin, yn eich herio ac yn eich helpu i ailddarganfod hyder nad oeddech chi'n gwybod ei fod gennych chi."

Cwrdd â rhai o'ch darlithwyr

Dr Corinna Patterson

 

Dr Corinna Patterson

Mae cymdeithaseg yn llywio pob agwedd ar fy mywyd - mae'n fy ngalluogi i ddeall pobl fel unigolion, mae'n hysbysu beth rwy’n ei wneud, beth rwy’n ei fwyta, beth yw fy mlaenoriaethau, sut rwy’n pleidleisio, a sut rwy’n ymgysylltu â natur, diwylliant a phobl o bob cefndir.

Mae'n gyfredol ac yn gyffrous i ddeall y materion sy’n effeithio ar gymdeithas heddiw

Popeth - mae'n eich galluogi i archwilio unrhyw fater gyda lens chwilfrydig a beirniadol

Cymryd rhan mewn clybiau myfyrwyr a mynd allan i’r cefn gwlad hardd - cofleidiwch yr holl agweddau ar fywyd myfyriwr.

Dr Hefin Gwilym

 

Dr Hefin Gwilym

Nid yw fy maes pwnc erioed wedi bod yn fwy perthnasol. Mae sut rydym yn mynd i'r afael â materion megis yr argyfwng tai a'r heriau yn y GIG yn bryderon mawr, a gall Polisi Cymdeithasol gynnig atebion i'r problemau hynny a phroblemau eraill.

Rwyf erioed amser wedi bod â diddordeb mewn sut mae cymdeithas yn cael ei llywodraethu a pha bolisïau sy'n gwneud y gwahaniaethau mwyaf i bethau fel tlodi ac anghydraddoldeb. Mae Polisi Cymdeithasol yn archwilio'r meysydd hyn ac yn cynnig atebion i rai o brif broblemau cymdeithas mewn meysydd megis tai a lles.

Rydw i’n mwynhau addysgu am feysydd amserol a chyfoes wrth fynd i'r afael â thlodi ac anghydraddoldeb yng nghymdeithas y Deyrnas Unedig a thu hwnt. Rydw i’n ffodus iawn bod gen i fyfyrwyr o bedwar ban byd yn fy nosbarthiadau ac rydw i’n mwynhau clywed eu straeon a'u profiadau ynglŷn â pholisïau cymdeithasol mewn meysydd megis iechyd ac addysg.

Rydw i’n mwynhau rhyngweithio â'r myfyrwyr a dysgu o'u profiadau o wladwriaethau lles ledled y byd. Mae'n wych gweld myfyrwyr yn cymryd rhan mewn trafodaethau, yn enwedig ar ôl i mi roi cyflwyniad am faes amserol.

Pam Dewis Prifysgol Bangor?

Cwad mewnol Prif Adeilad y Brifysgol

Pam Dod i Ddiwrnod i Ymgeiswyr?

Hyd yn oed os rydych wedi bod i Ddiwrnod Agored ym Mhrifysgol Bangor, byddwch yn elwa o ddod i Ddiwrnod i Ymgeiswyr. Bydd yn rhoi profiad gwahanol sydd wedi ei deilwro i chi - cewch fynd i sesiwn blasu a chael mwy o fanylion am eich pwnc.

Darganfod Mwy

Cofrestru Nawr

Cipolwg ar ein hadeiladau a'n hadnoddau arbennig

A oes gennych unrhyw gwestiynnau am fywyd myfyriwr ym Mangor? Mae ein llysgenhadon yn barod i’ch helpu gael yr ateb.

Gall ein myfyrwyr ddweud mwy wrthoch am y profiad o astudio yma, am y Clybiau a Chymdeithasau gwych sydd yma, a sut bu iddynt hwy wneud ffrindiau ac ymgartrefu yn y Brifysgol.

SGWRSIWCH EFO'N MYFYRWYR 

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y cwrs, mae ein darlithwyr wrth law i helpu. Dyma rai cwestiynau a ofynnir yn aml. Oes gennych chi unrhyw gwestiwn arall i'n darlithwyr? 

  • Pa rinweddau sydd gan fyfyrwyr llwyddiannus y pwnc hwn ym Mangor? 
  • Beth allai wneud i baratoi at astudio'r pwnc hwn ym Mangor? 
  • Sut ydw i yn gwybod mai'r pwnc hwn ym Mangor yw’r dewis iawn i mi? 

Sgwrsiwch gyda darlithydd

Eich camau nesaf