Staff Bangor y Grŵp Cydweithredol Cymru ar gyfer Dylunio Dysgu
Panel Arbenigwyr Rhyngwladol y Grŵp Cydweithredol Cymru ar gyfer Dylunio Dysgu
Amcanion y Project
Datblygu Labordai Technoleg Dysgu i ganiatáu i syniadau a ddatblygir gan athrawon / darlithwyr gyfrannu at ganlyniadau’r uwch-dechnoleg.
Hwyluso Labordai Dysgu i sbarduno trafodaethau a hyrwyddo syniadau ynghylch technoleg fideo 360-gradd, a thechnoleg y sgrin werdd a thechnoleg Deallusrwydd Artiffisial
Recriwtio cynorthwywr ymchwil i gynnwys un ym mhob un o’r wyth Sefydliad Addysg Uwch i ganiatáu amser penodol i weithio gyda’r WCLD a chydweithwyr o’r ysgolion yn y Labordai Technoleg Dysgu.
Grŵp o Arbenigwyr Rhyngwladol, a datblygu partneriaeth â PXL (Gwlad Belg) i gefnogi datblygiadau mewn technolegau fideo 360 / technoleg y Sgrin Werdd / Rhithrealiti a Realiti Estynedig / Deallusrwydd Artiffisial.
Ymateb Deallusrwydd Artiffisial (AI) WCLD
- Fideos: Datblygu tri fideo sy’n canolbwyntio ar Ddeallusrwydd Artiffisial a sut mae ei ddefnyddio'n feirniadol mewn addysgu a dysgu.
How would you explain Artificial Intelligence to your learners?
How would you recommend using Artificial Intelligence within your teaching?
Examples of how learners are using Artificial Intelligence in lessons.
- Labordai: Hwyluso Labordai Dysgu i sbarduno trafodaethau a hyrwyddo syniadau ynghylch Deallusrwydd Artiffisial
- Blwch Offer: Cynhyrchu fideos byr ynglŷn ag offer Deallusrwydd Artiffisial perthnasol, sy’n ddefnyddiol ac yn hygyrch.
- Peilot: Hwyluso Labordy Dysgu Peilot i gynnig cefnogaeth benodol i ddiwallu anghenion a heriau ymarferwyr sy’n ymwneud â Deallusrwydd Artiffisial.
Labordai Technoleg Dysgu (LTL)
- Bydd gan athrawon / darlithwyr le â chymorth i 'chwarae' gyda'r technolegau hynny.
- Cânt eu hannog i gymryd 'risgiau', archwilio syniadau a llunio atebion posibl ar y cyd.
- Y nod yw dangos beth sy'n bosibl gyda'r dechnoleg ac annog ymarferwyr i ddechrau gweithredu hynny yn eu prosesau dylunio dysgu.
Cysylltu â Ni
Os ydych chi eisiau cysylltu, naill ai am ragor o wybodaeth neu i drafod syniad posibl, yna ebostiwch. Gallwch hefyd ddod i wybod mwy am ein gwaith ar LinkedIn.