Lluniau o ymennydd ar sgrin

Cyfleusterau Seicoleg

Labordai Mynediad Agored

Yn ogystal â labordai unigol pwrpasol ar gyfer staff sy'n gwneud ymchwil, mae gan Seicoleg nifer o gyfleusterau a gwasanaethau ymchwil mynediad agored o'r radd flaenaf.

Uned Delweddu Bangor

Mae gan yr Ysgol Gwyddorau Dynol ac Ymddygiadol ei chyfleusterau ymchwil MRI/fMRI ei hun yn yr adeilad Seicoleg. Mae'r cyfleusterau yn Uned Ddelweddu Bangor yn cynnwys sganiwr Delweddu Cyseiniant Magnetig 3 Tesla pwrpasol ar gyfer ymchwil ac addysgu, EEG sy'n gydnaws ag MRI, ysgogi trawsgreuanol magnetig (TMS), systemau cyflwyno ysgogiad, a systemau tracio llygaid. Yn ogystal ag MRI anatomegol a swyddogaethol, mae gan y sganiwr hefyd gyfarpar delweddu cardiaidd 4D, cyfarpar delweddu trylediad tensor (DTI), a sbectrosgopeg cyseiniant magnetig (MRS).

Mae staff a myfyrwyr sydd â diddordeb mewn sganio yn cymryd rhan mewn cyfres o sgyrsiau wythnosol sy'n gysylltiedig â materion ac ymchwil yn ymwneud â delweddu'r ymennydd.

Uned Delweddu Bangor

Labordy Electroffisioleg Mynediad Agored

Mae arbenigedd mewn dulliau electroffisiolegol (EEG/ERP) yn gryfder arbennig yn academyddion Seicoleg yn ein Hysgol. Yn ogystal â phum labordy EEG annibynnol sy'n gysylltiedig â staff penodol, mae'r Ysgol yn cynnig Labordy Electroffisioleg Mynediad Agored. Mae labordy Electroffisioleg a Thopograffig Mynediad Agored Seicoleg (POET) yn darparu mynediad i gyfleusterau ymchwil EEG / ERP ar gyfer holl staff ymchwil yr Ysgol ac yn cefnogi myfyrwyr ac ymchwilwyr. Mae’r labordy yn cynnwys bwth profi gwanhäwr sain wedi'i gysgodi'n llawn, System BioSemi EEG 128 sianel, a'r holl offer sy'n angenrheidiol ar gyfer arbrofion EEG/ERP clywedol a gweledol  Mae labordy POET hefyd yn cynnwys labordy cyfrifiadurol sydd ar gael i ddadansoddi data. Mae amrywiaeth o becynnau meddalwedd dadansoddi data a chyflwyno ysgogiadau ar gael i ddarparu ar gyfer anghenion a dewisiadau defnyddwyr unigol.

Mae'r labordy hefyd yn cynnwys system tracio llygaid SR-Research Eyelink 1000. Cysylltwch â Dr Manon Jones am wybodaeth ychwanegol.

Labordy Ysgogi'r Ymennydd

Mae electroffisioleg a thechnegau delweddu'r ymennydd yn ddefnyddiol i fesur gweithgaredd yr ymennydd pan fydd yn gwneud tasg. Fodd bynnag, i brofi’n uniongyrchol a oes angen rhan benodol o’r ymennydd i gyflawni tasg, neu i archwilio sut mae rhan o ymennydd yn prosesu gwybodaeth, gellir defnyddio dulliau anfewnwthiol i ysgogi’r ymennydd.

Mae gan Labordy Ysgogi’r Ymennydd ddau fath gwahanol o offer ysgogi - offer ysgogi trawsgreuanol magnetig (TMS) ac offer ysgogiad cerrynt uniongyrchol trawsgreuanol (tDCS).

Cefnogaeth Ymchwil

Paneli'r Cyfranogwyr

Mae sawl panel cyfranogwyr ar gael i helpu ymchwilwyr ym maes Seicoleg i recriwtio cyfranogwyr o blith poblogaethau arbennig. Cefnogir y paneli cyfranogwyr gan grantiau a chronfeydd yr ysgol. Gellir codi tâl am ddefnyddio'r gwasanaethau hyn. Cedwir gwybodaeth am gyfranogwyr yn gyfrinachol yn unol â'r ddeddf diogelu data a chanllawiau moesegol y BPS. Dim ond ar gyfer cyfranogwyr posibl a gytunodd i ymchwilwyr yn yr Ysgol gysylltu â nhw y mae gwybodaeth gyswllt ar gael. Mae mynediad at wybodaeth cyfranogwyr hefyd yn amodol ar gymeradwyaeth gan grwpiau ymchwil penodol (e.e. y Grŵp Niwroleg), a'r Pwyllgor Moeseg Ymchwil. Os ydych yn staff neu'n ymchwilydd ôl-radd yn yr Ysgol ac yn dymuno defnyddio'r gwasanaethau hyn, cysylltwch â Becca Henderson yn y lle cyntaf. Oherwydd y galw, ni allwn gynnig y gwasanaethau hyn i ymchwilwyr y tu allan i'r Ysgol.

  • Panel Myfyrwyr (SONA)
  • Panel Cyfranogwyr Cymunedol: Mae’r Panel Cymunedol yn cynnwys is-grwpiau a gallai fod yn ddefnyddiol ar gyfer nodi: Pobl Ddwyieithog, Pobl â Dyslecsia, a'r Henoed
  • Cronfa Ddata Datblygiad Babanod/Plant
  • Cleifion Niwroleg

Offer Ymchwil Pwrpasol a Gwasanaethau Rhaglennu

Mae cefnogaeth rhyngwynebu caledwedd a meddalwedd technegol ymchwil ar gael ar gyfer labordai ymchwil gan gynnwys adeiladau arbrofol pwrpasol, systemau caledwedd sefydledig, argraffu 3D, torri â laser, arferion dadansoddi data, ac ati. Mae arbenigedd rhyngwynebu a throsglwyddo data ar gael yn Python, Matlab, PsychoPy, Presentation ac E-Prime, ac ati. I gael gwybodaeth am y gwasanaethau hyn cysylltwch â Shaun McKiernan.

Mae meddalwedd technegol ymchwil a chefnogaeth â rhaglennu ar gael ar gyfer ymchwil, gan gynnwys Visual Basic, LabView, E-Prime, C++, C#, National Instruments Data Acquisition, rhaglenni ar y we, systemau dadansoddi symudiadau e.e. Vicon ac Optotrak.

I gael gwybodaeth am y gwasanaethau hyn cysylltwch â David Mckiernan.

Taith Seicoleg Prifysgol Bangor

Trawsgrifiad Taith 360 Seicoleg

Mae Adeilad Brigantia ar Ffordd y Coleg yn gartref i swyddfeydd academaidd a gweinyddol ar gyfer Seicoleg. Bydd israddedigion Seicoleg yn ymweld â Brigantia pan fydd angen iddynt gwrdd â thiwtoriaid personol a goruchwylwyr prosiect, yn ogystal â phan fyddant yn tueddu i wahanol agweddau gweinyddol ar fywyd myfyriwr.

Mae gan yr Adran Seicoleg ei chyfleuster ymchwil MRI/fMRI ei hun yn adeilad Brigantia. Mae'r cyfleusterau yn Uned Ddelweddu Bangor yn cynnwys sganiwr Delweddu Cyseiniant Magnetig 3 Tesla pwrpasol ar gyfer ymchwil ac addysgu, EEG sy'n gydnaws â MRI, ysgogiad magnetig trawsgreuanol (TMS), systemau cyflwyno ysgogiad, a systemau olrhain llygaid. Yn ogystal â MRI anatomegol a swyddogaethol, mae'r sganiwr wedi'i gyfarparu ar gyfer delweddu cardiaidd, tensor tryledol (DTI) a sbectrosgopeg cyseiniant magnetig (MRS).

Mae Canolfan Dyslecsia Miles yn darparu cefnogaeth ac asesu addysgu iaith a llythrennedd i blant ac oedolion.  Mae’r Ganolfan hefyd yn gwneud ymchwil i sail niwrowybyddol ac ymddygiadol darllen ac ysgrifennu. Mae Canolfan Dyslecsia Miles yn cynnwys tîm o ymchwilwyr ac ymarferwyr addysgol sy’n datblygu arferion gorau o ran addysgu ac asesu, ynghyd ag ymchwil wyddonol flaengar.

Mae Adeilad Lloyd ar Ffordd y Coleg yn gartref i nifer o wahanol labordai ymchwil a ddefnyddir gan fyfyrwyr ac ymchwilwyr Adran Seicoleg Prifysgol Bangor.

Mae gan yr Adran Seicoleg gyfleusterau tracio llygaid mynediad agored yn adeilad Lloyd. Mae cyfleusterau yn y labordy Tracio Llygaid Mynediad Agored yn cynnwys traciwr llygaid o bell Eyelink 1000 plus, monitorau HD LCD, Microffon Lleisiol Cardioid Dynamig Ultravoice, cymysgydd sain, a chlustffonau dros y glust.

Mae tracwyr llygaid yn gweithio trwy ddefnyddio golau isgoch i dracio safle’r llygaid. Yn y labordy hwn, mae crud i orffwys gên hefyd ar gael i helpu i sefydlogi pen y cyfranogwr ac i sicrhau bod eu llygaid ar y pellter cywir o'r traciwr llygaid.
 

Mae gan yr Adran Seicoleg gyfleusterau electroffisioleg a thopograffeg mynediad agored yn adeilad Lloyd. Mae cyfleusterau yn y Labordy Electroffisioleg a Thopograffeg Mynediad Agored (POET) Seicoleg yn cynnwys system mesur biopotensial cydraniad uchel aml-sianel ActiveTwo gan BioSemi, electrodau gweithredol math pin, capiau pen EEG. Mae'r labordy hefyd yn cynnwys traciwr llygaid o bell Eyelink 1000 plus ar gyfer mesuriadau EEG gyda thracio llygaid ar yr un pryd.

Yn y labordy POET, mae cyfranogwyr yn cael eu profi y tu mewn i gaets Faraday a warchodir yn electronig lle caiff seiniau eu lleihau. Defnyddir caetsys Faraday i wella ansawdd data EEG trwy rwystro ymyrraeth signal electromagnetig o'r ystafell fesur. 

Yn y labordy hwn, mae yna hefyd gamerâu a system intercom ar gael i ymchwilwyr wirio'r cyfranogwyr yn rheolaidd yn ystod y sesiwn brofi. Mae hyn yn sicrhau nad yw'r cyfranogwyr yn teimlo'n rhy ynysig o'r byd tu allan tra byddant yn yr ystafell brofi.

Yn yr ystafell reoli, mae tri chyfrifiadur bwrdd gwaith wedi'u neilltuo i ddadansoddi data.
 

Mae gan yr Adran Seicoleg labordy golwg 3-D a swyddogaeth llaw sy'n cynnwys system dal symudiad Qualisys Miqus i fesur symudiadau llaw yn fanwl gywir, yn ogystal ag amrywiol ddarnau pwrpasol o offer, gan gynnwys arddangosfeydd gweledol ar gyfer cyflwyno ysgogiadau gweledol 3-D rhithiol, ac offer a phrosthesis ffug ar gyfer astudio'r defnydd o ddyfeisiau mecanyddol.

Mae'r lolfa yn Adeilad Wheldon yn cynnwys argraffydd, peiriant gwerthu, ac opsiynau eistedd cyfforddus, lle gall myfyrwyr eistedd a sgwrsio â'u cyfoedion cyn eu dosbarthiadau, neu astudio mewn awyrgylch hamddenol.

Mae labordy cyfrifiaduron Adeilad Wheldon yn gyfleuster amlbwrpas sy'n cynnwys 80 o gyfrifiaduron. Mae'r labordy hwn yn cefnogi ystod o sesiynau ymarferol, megis ystadegau ac ysgrifennu academaidd.

Pontio yw canolfan gelfyddydau ac arloesi Prifysgol Bangor. Mae rhai o’r modiwlau a gynigir gan yr Adran Seicoleg yn cael eu cyflwyno ar Lefel 5 Pontio, darlithfa fawr sydd â lle i hyd at 450 o fyfyrwyr.

Wrth ddefnyddio'r sganiwr MRI i dynnu delweddau o'r ymennydd, mae'n hollbwysig bod cyfranogwyr yn cadw eu pen (a'u corff) mor llonydd â phosibl. Mae adeilad Brigantia yn gartref i ffug-sganiwr o'r radd flaenaf sydd â system sain i chwarae synau sganiwr, a MoTrak, meddalwedd sy'n caniatáu tracio symudiadau pen manwl. Mae'r ffug-sganiwr wedi'i gynllunio i ymgyfarwyddo cyfranogwyr, yn enwedig plant, â bod yn amgylchedd y sganiwr.

Mae'r labordy hwn yn cynnwys arddangosfa stereosgopig 3-D prototeip unigryw a gynlluniwyd i ymchwilio i sut rydym yn gweld mewn 3-D ac yn arbennig i archwilio atebion i broblemau amrywiol a brofir wrth ddefnyddio cyfryngau megis systemau VR, ffilmiau 3-D ac ati. Yn ogystal â mesurau canfyddiadol o ganfyddiad dyfnder, gall y system fesur ble mae'r llygaid yn edrych, a'r pellter y mae lens y llygad yn canolbwyntio arno. Mae'r arbrofion yn ei gwneud yn ofynnol mai dim ond yr ysgogiadau arbrofol sy'n weladwy, ac felly mae'r ystafell yn cael ei duo pan fydd yn cael ei defnyddio.

Mae adeilad Brigantia yn gartref i labordy EEG o'r radd flaenaf sy'n cynnwys dau fwth profi, gan gynnwys systemau BioSemi ar gyfer mesur bio-botensial cydraniad uchel, a monitorau CRT ar gyfer arddangos ysgogiadau gweledol yn ystod sesiynau profi. Mae gan y labordy hefyd nifer o gapiau EEG. Mae'r bythau profi wedi'u cynllunio i ddarparu amgylchedd tawel a rheoledig ar gyfer casglu data. Gall ymchwilwyr hefyd fonitro cyfranogwyr yn ystod sesiynau profi gan ddefnyddio camerâu a system intercom i sicrhau eu diogelwch a'u cysur.

It looks like you’re visiting from outside the UK, would you like to be redirected to the international page?