Mae Uned Delweddu Bangor yn hyrwyddo ymchwil ar drefniadaeth gymhleth yr ymennydd dynol, a sut y gall hyn effeithio ar ymddygiad, profiad ac afiechyd, a chael ei effeithio ganddynt.
Ynglŷn ag Uned Delweddu Bangor
Mae Uned Delweddu Bangor yn ganolbwynt blaengar i ddarganfod ac arloesi ym maes niwrowyddoniaeth a ffisioleg ddynol. Gyda labordai delweddu'r ymennydd ac ysgogi'r ymennydd pwrpasol i ymchwil a dysgu, mae wedi ei anelu at ddatgloi dirgelion bioleg ddynol. Mae’r uned yn agored i ymchwilwyr a myfyrwyr fel ei gilydd, ac mae'n hwyluso darganfyddiadau ym maes gwyddoniaeth a meddygaeth, ac yn hyfforddi'r genhedlaeth nesaf o arloeswyr gwybodaeth.
Sefydlwyd yr uned yn 2006 gyda chefnogaeth gan Lywodraeth Cymru a Sefydliad Wolfson, a chaiff ei chefnogi gan nifer o staff ac academyddion llawn-amser. Mae ein hacademyddion wedi cael cyllid o amrywiaeth eang o ffynonellau ac maent yn cyhoeddi’n rheolaidd mewn cyfnodolion rhyngwladol a adolygir gan gymheiriaid.
I gael y crynodeb diweddaraf o wybodaeth a newyddion, gallwch ddarllen ein hadroddiad blynyddol isod. (i ddod yn fuan)