GIG: 75 Mlynedd

Yr Athro Nichola Callow ar sut mae Prifysgol Bangor wedi bod yn rhan annatod o'r GIG.

"Mae’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol nodi ei ben-blwydd yn 75 ac mae ei werthoedd gwreiddiol yr un mor berthnasol heddiw ag yr oeddent ym 1948.

Y Gwasanaeth Iechyd Gwladol oedd y gwasanaeth iechyd cyffredinol cyntaf oedd ar gael i bawb, yn rhag ac am ddim i’r claf, ac mewn byd sy’n newid yn barhaus mae’n dal i addasu i anghenion gofal iechyd cyfnewidiol ein cymunedau.

Yr Athro Nichola Callow

Mae cysylltiad Prifysgol Bangor â'r sector gofal iechyd yn rhagddyddio'r Gwasanaeth Iechyd ac fe'i nodweddir gan ymrwymiad rhyng-gysylltiedig i iechyd ac addysg feddygol, ymchwil ac arloesedd. Ym 1926, penodwyd Edwin Owen, mab i chwarelwr lleol, yn Athro Ffiseg ym Mangor. Sefydlodd ysgol ymchwil a oedd yn adnabyddus yn rhyngwladol am uniondeb ei gwaith gyda phelydr-X.  

Ers dyddiau Edwin Owen, bu'r Brifysgol yn hyfforddi miloedd o raddedigion yn llwyddiannus ar gyfer gyrfaoedd yn y Gwasanaeth Iechyd Gwladol a systemau iechyd ledled y byd. Yn eu plith mae nyrsys, ffisiotherapyddion, radiograffwyr, bydwragedd, ymarferwyr brys, cydymdeithion meddygon, gwyddonwyr biofeddygol, seicolegwyr, a gwyddonwyr chwaraeon, pob un yn ceisio darparu'r gofal gorau posibl i’r cleifion ac ar gyfer iechyd ein cymunedau.

Heddiw, rydym yn gweithio'n agos gydag Addysg a Gwella Iechyd Cymru (HEIW) Llywodraeth Cymru a Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) i ddatblygu a darparu addysg newydd o ansawdd uchel a gynlluniwyd i sicrhau cynaliadwyedd yng ngweithlu'r Gwasanaeth Iechyd. Er enghraifft, mae rhaglen newydd ar gyfer hylenyddion deintyddol yn rhan o’n cyfraniad at wella’r darpariaeth ddeintyddol ledled Cymru, ac mae ein graddau nyrsio dysgu o bell a dysgu cyfunol yn cynnig opsiynau hyblyg i fyfyrwyr ar gyfer dysgu gan ddefnyddio dulliau digidol. Rydym hefyd yn cyflwyno cyrsiau a gynlluniwyd i leddfu'r baich ar wasanaethau dan bwysau. Er enghraifft, mae’r modiwlau presgripsiynu ôl-gofrestru a phresgripsiynu fferyllol wedi trawsnewid gwasanaethau lleol, trwy ganiatáu i gleifion gael mynediad at ymgynghoriadau mewn fferyllfeydd ar gyfer mân anhwylderau, a leihau’r pwysau ar feddygfeydd meddygon teulu. Mae ein AlffAcademi’n cyflwyno cyfres o fodiwlau microgredyd (dysgu mewn tameidiau bach) sy’n cynnig ffordd hyblyg i weithwyr iechyd a gofal cymdeithasol proffesiynol uwchsgilio o dan eu pwysau eu hunain, yn ogystal ag ennill credydau ôl-radd cydnabyddedig hefyd.

Ers dechrau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol bu dyhead i greu Ysgol Feddygol yn y gogledd. Daeth yr uchelgais honno’n nes yn ddiweddar. Mewn partneriaeth â Phrifysgol Caerdydd, BIPBC a Llywodraeth Cymru, dros y pedair blynedd diwethaf gallai myfyrwyr meddygol astudio’n gyfan gwbl yn y gogledd, ac ym mis Mehefin eleni bydd y garfan gyntaf o 17 o fyfyrwyr C21 Gogledd Cymru yn graddio gyda gradd feddygol Prifysgol Caerdydd.  Bydd mwy na hanner y garfan gyntaf hon o 17 o fyfyrwyr yn cymryd swyddi Sylfaen yn y Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru.

Yn sgil y bartneriaeth a’r llwyddiannau hynny, ac yn amodol ar gymeradwyaeth y Cyngor Meddygol Cyffredinol yn ddiweddarach y mis yma, byddwn yn croesawu’r garfan gyntaf o 80 o fyfyrwyr i Ysgol Feddygol Gogledd Cymru ym mis Medi 2024. Bydd yn tyfu dros amser ac o bosib y bydd gennym 140 o fyfyrwyr meddygol newydd y flwyddyn yn gofrestredig erbyn 2029.

Mae ein cysylltiad â'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol yn mynd y tu hwnt i addysgu’r  genhedlaeth nesaf o weithwyr gofal iechyd proffesiynol. Rydym wedi hyrwyddo’r agenda iechyd ataliol a’r rhan hollbwysig sydd i’r agenda honno i sicrhau Cymru iach. Mae ein cyfraniadau’n cynnwys rhaglenni fel Food Dudes, a ddyfeisiwyd i annog arferion bwyta iachach ymhlith plant ysgol, ymchwilio i weld a all Deallusrwydd Artiffisial gefnogi cleifion canser sy’n cael eu rhyddhau o’r ysbyty, a darparu ymyriadau ymarfer corff cyn-adsefydlu ac adsefydlu fel rhan o’r llwybrau clinigol. Rydym yn chwilio’n barhaus am ffyrdd arloesol o ddarparu cefnogaeth sy’n canolbwyntio ar y claf y gellir ei darparu mewn modd cost-effeithiol ledled Cymru a thu hwnt.

I nodi ei ben-blwydd yn 75 gofynnwyd i'n cyn-fyfyrwyr sy'n gweithio i'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol sut y byddent yn disgrifio'r sefydliad. Roedd amhrisiadwy, gofalgar a hanfodol ymhlith y geiriau a gafodd y sylw pennaf yn eu hymatebion. Roeddent yn unfrydol pan ofynnwyd iddynt beth oedd yn eu hysgogi i weithio i'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol, ac roeddent am helpu pobl pan oedd ei angen arnynt fwyaf. Mae eu gwaith wrth eu bodd o wybod eu bod wedi gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i fywydau pobl eraill.

Roedd y cymhelliad i wella bywydau pobl eraill hefyd yn perthyn i’r chwarelwyr a’r ffermwyr a ariannodd Brifysgol Bangor bron i 140 o flynyddoedd yn ôl. Ym Mhrifysgol Bangor rydym yn ymrwymo'n llwyr i gynnal yr gwaddol hwnnw, a gwneud gwahaniaeth, a byddwn yn parhau i weithio gyda'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol a'i gefnogi, trwy addysg, ymchwil ac arloesi er budd ein poblogaeth."
 

Nichola Callow,
Y Dirprwy Is-Ganghellor (Addysg),
Prifysgol Bangor

It looks like you’re visiting from outside the UK, would you like to be redirected to the international page?