Grwp o nyrsus yn siarad

GIG 75 Alumni Bangor

Croeso cynnes i GIG 75 Alumni Bangor!

Cymysgedd o enwau sydd yn cynrychioli'r GIG

Ar 5 Gorffennaf 2023, bydd y GIG yng Nghymru yn nodi 75 mlynedd o wasanaeth - achlysur tyngedfennol yr ydym yn falch o’i goffáu. Rydym yn gobeithio cydnabod gwaith caled ac ymroddiad ein cyn-fyfyrwyr wrth helpu’r GIG i gyrraedd y garreg filltir hon.

O weithwyr gofal iechyd rheng flaen, i wyddonwyr ymchwil, i ddarlithwyr, mae graddedigion Prifysgol Bangor a’n cyd-weithwyr yn yr Ysgol Gwyddorau Meddygol ac Iechyd wedi gwneud cyfraniad amhrisiadwy i'r GIG trwy gydol ei hanes.
 
Rydym am anrhydeddu a dathlu’r GIG am ei wasanaeth ymroddedig a’i ymrwymiad i ddarparu gofal iechyd i’r cyhoedd.

Dewch inni ddod at ein gilydd i ddiolch a dathlu ein cyn-fyfyrwyr a’r GIG ar y pen-blwydd hanesyddol hwn.

I nodi ei ben-blwydd yn 75 gofynnwyd i'n cyn-fyfyrwyr sy'n gweithio i'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol sut y byddent yn disgrifio'r sefydliad. Roedd amhrisiadwy, gofalgar a hanfodol ymhlith y geiriau a gafodd y sylw pennaf yn eu hymatebion. Roeddent yn unfrydol pan ofynnwyd iddynt beth oedd yn eu hysgogi i weithio i'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol, ac roeddent am helpu pobl pan oedd ei angen arnynt fwyaf. Mae eu gwaith wrth eu bodd o wybod eu bod wedi gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i fywydau pobl eraill.

Charley Woollams mewn car, gyda sbectol haul ar ei phen

Ymarferydd Genomig Charley Woollams

"Mae'r Gwasanaeth Iechyd mor bwysig inni ac roeddwn i eisiau helpu a gwneud gwahaniaeth i ofal cleifion."

Jonathan Cliffe yn gwenu ac yn edrych ar y camra

Arweinydd y Tîm Bydwreigiaeth Jonathan Cliffe

"Mae pob diwrnod yn wahanol! Bob dydd yn y gwaith rwy'n dysgu rhywbeth newydd. Mae pob ddiwrnod, pob genedigaeth a phob dynes yn wahanol. Mae'n anrhydedd bod yn rhan o daith unigolyn i fod yn rhiant."

Jade Roberts yn agos i fyny yn edrych yn syth ar y camera

Uwch Wyddonydd Biofeddygol a Swyddog Hyfforddi Jade Roberts

 "Rwy'n mwynhau gweithio gyda thîm gwych o weithwyr proffesiynol medrus a gofalgar iawn mewn rôl sy’n werth chweil."

Llun agos Sophie Bebb a dynnwyd yn y car

Ymarferydd Cysylltiedig Sophie Bebb

"Rwyf wrth fy modd â'r boddhad sydd i’r swydd o fentio a staenio meithriniadau gwaed gram, gan ddefnyddio microsgopeg a llwyfannau moleciwlaidd i ganfod organebau penodol."

Elisha Hughes mewn labordy gyda thystysgrif BMS yn nodi eu bod yn gweithio fel gwyddonydd biofeddygol

Gwyddonydd Biofeddygol (Microbioleg) Elisha Hughes

"Rwy'n mwynhau edrych i lawr y microsgop a gweld byd arall a gwybod fy mod yn gwneud gwahaniaeth i ofal y cleifion."

Megan Phillips yn gwenu at gamera mewn cot oren gyda llen y tu ôl iddi

Nyrs Staff mewn Offthalmoleg Megan Phillips

"Ewch amdani, nid yw bob amser yn hawdd ond mae bob amser yn her a fyddwch chi byth ar eich pen eich hun, bydd rhywun i chi siarad â nhw bob amser."

Elena Thomas, yn gwenu ar y camera

Nyrs Practis Elena Mai Thomas

"Ewch amdani!"

Kayleigh Demain yn gwisgo sbectol wrth edrych yn syth i'r camera

Dirprwy Chwaer Kayleigh Demain

"Mae gan y Gwasanaeth Iechyd enw da’n fyd-eang ac yr wyf yn falch o fod yn rhan ohono. Mae sicrwydd swydd, buddion trosglwyddadwy o wahanol ymddiriedolaethau Gwasanaeth Iechyd a phensiwn da at y dyfodol."

Barry John Graham-Jones yn gwisgo sbectol gyda phlanhigion yn y cefndir.

Uwch Ymarferydd Nyrsio Barry Graham-Jones

"Rwy'n rhoi cefnogaeth glinigol i feddygon a nyrsys reoli gofal cleifion oedrannus."

Amy Maynard, yn gwisgo sbectol, yn edrych ar y camera

Therapydd Ymddygiad Gwybyddol Amy Maynard

"Mae'n fan lle gall pawb, o bob cefndir gael mynediad at ofal. Roedd gweithio yn y Gwasanaeth Iechyd yn teimlo fel y ffordd fwyaf priodol o helpu pobl."

Guy Blackburn looking at the camera

Uwch Ddadansoddwr Gwybodaeth Arbenigol Guy Blackburn

"Os ydych chi'n caru'r hyn rydych chi'n ei wneud mae'n amgylchedd gwych i chi allu gwneud gwahaniaeth go iawn."

Luke Hughes yn y labordy yn sefyll o flaen sgrin arddangos cyfrifiadur fawr

Pennaeth Patholeg Addysg a Datblygiad Luke Hughes

"Dwi'n mwynhau gweithio ar wahanol brojectau lleol a chenedlaethol amrywiol gyda llawer o gydweithwyr medrus."

Aaron Jones yn ei waith, yn gwisgo ei wisg GIG

Ymarferydd Ambiwlans Cysylltiedig / Myfyriwr Parafeddygol Aaron Jones

"Ewch amdani. Dyna'r penderfyniad gorau wnes i erioed."

Edward Roberts, yn gwisgo siwt dywyll a thei

Pennaeth Gwybodaeth Fusnes Ariannol a Chynlluniau Cyfalaf Edward Roberts

"Y cwestiwn y dylech bendroni yn ei gylch yw, ai gyrfa ynteu swydd yr ydych chi eisiau. Os mai'r ateb yw gyrfa, y Gwasanaeth Iechyd yw'r llwybr i chi."

Jean Ruddle, yn gwisgo sbectol, yn edrych ar y camera

Consultant Clinical Psychologist Jean Ruddle

"Research it - do volunteer work - know what your signing up for!"

Peidiwch â gwrando ar bopeth a welwch ac a glywch ar y newyddion. Mae gweithlu'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol yn LLU, yn llawn pobl anhygoel sy'n mynd y tu hwnt bob dydd er mwyn iechyd a lles y cleifion.

Rwy'n mwynhau'r rôl gan fy mod yn cael y cyfle i gyfathrebu â chleifion yn ddyddiol a gwella ansawdd eu bywydau. Rwyf hefyd yn ffodus bod MSc mewn Gwyddoniaeth Niwrosynhwyraidd wedi’i ariannu’n llawn yn rhan o’r rôl, sy’n caniatáu imi ddatblygu fy sgiliau ymchwil a chefnogi fy sgiliau clinigol.

Gall gweithio i’r Gwasanaeth Iechyd fod yn werth chweil, ond gall hefyd fod yn straen ar brydiau ac mae’n bwysig cydweithio ar bob adeg i helpu cleifion ac amddiffyn y Gwasanaeth Iechyd yn y dyfodol.

Gall y Gwasanaeth Iechyd Gwladol fod yn amgylchedd gwych i ddilyn gyrfa.  Cefais yrfa wych ac roeddwn yn falch o weithio yn y gwasanaeth iechyd, a byddwn wrth fy modd yn gweld mwy o bobl yn fy maes gwaith i’n ei ystyried.

It looks like you’re visiting from outside the UK, would you like to be redirected to the international page?