Mae'r seminar hwn gan Qixian Zhang yn canolbwyntio ar y model tai yn Singapore, gan olrhain ei ddatblygiad hanesyddol, y newidiadau diweddar, a'r rhesymau pam mae'r wlad wedi gallu cynnal fforddiadwyedd, cyflawni cwmpas eang o dai cyhoeddus, a chynnal ei system cyllid tai dros y tymor hir. Gan ddefnyddio dulliau cymysg, cyflwynir canfyddiadau ymchwil meintiol ac ansoddol trwy ddadansoddi data gwreiddiol ac eilaidd. Bydd y seminar yn defnyddio data a gasglwyd gan ysgolheigion lleol, gweithwyr proffesiynol ym maes tai, a thrigolion trwy gyfweliadau ymchwil, gan gynnig persbectif cynhwysfawr ar system dai Singapore.
Y tu hwnt i hynny, bydd y seminar yn cymharu Singapore a'r Deyrnas Unedig. Er bod gan y ddwy wlad rai nodweddion sy’n debyg yn ddiwylliannol a hanesyddol, maent yn wahanol iawn o ran strwythur a sut mae eu sectorau cyllid tai yn gweithredu. Rhoddir sylw arbennig i system ariannol Singapore, sy'n galluogi darparu grantiau wedi eu targedu i wahanol grwpiau cymwys. Mae'r mecanwaith hwn yn helpu i gynnal fforddiadwyedd mewn perchnogaeth tai cyhoeddus wrth gynhyrchu digon o refeniw yn annibynnol, yn hytrach na dibynnu'n helaeth ar gymorthdaliadau gan y llywodraeth. Trafodir grantiau ar gyfer perchnogaeth tai, rhent cymdeithasol fforddiadwy, a chymorth ffioedd cynhaliaeth i ddangos sut mae'r system yn gweithredu'n ymarferol.
Bydd y seminar hefyd yn tynnu sylw at rai o agweddau mwy dadleuol polisïau tai Singapore a sut y cânt eu gweithredu’n ymarferol. Drwy gyflwyno stori llwyddiant strategaeth tai cyhoeddus Singapore, nod y seminar yw codi cwestiynau ac awgrymiadau o ran polisi sy'n berthnasol i sector tai'r Deyrnas Unedig. Mae'r heriau allweddol i'w datrys yn cynnwys pwysau fforddiadwyedd y mae tenantiaid a phrynwyr tai yn eu hwynebu, rhestrau aros hir ar gyfer tai cymdeithasol, anghydbwysedd rhwng cyflenwad a galw, a phrofiadau bywyd preswylwyr. Yn y pen draw, mae'r seminar yn ceisio nodi gwersi ac atebion posibl a allai lywio polisi tai yn y Deyrnas Unedig.