Sesiynau Adolygu Ar-lein Astudiaethau Crefyddol Safon Uwch
Mae tîm Athroniaeth, Moeseg a Chrefydd Prifysgol Bangor yn falch o gynnig cyfres o sesiynau adolygu ar-lein, yn fyw ac yn rhad ac am ddim ar gyfer myfyrwyr UG a Safon Uwch sy’n paratoi ar gyfer arholiadau Haf 2026.
Bydd y sesiynau’n rhedeg rhwng 31 Mawrth a 9 Ebrill 2026, ac maent wedi’u cynllunio i ddarparu cefnogaeth dargededig, sy’n canolbwyntio ar ofynion yr arholiad, mewn meysydd allweddol o Athroniaeth Crefydd a Moeseg. Caiff pob darlith ei chyflwyno’n fyw ar-lein (dros Zoom), gyda chyfleoedd i ofyn cwestiynau a chymryd rhan mewn trafodaeth feirniadol.
Ar gyfer pwy?
- Myfyrwyr UG Astudiaethau Crefyddol.
- Myfyrwyr Safon Uwch Astudiaethau Crefyddol.
- Athrawon sy’n dymuno cefnogi adolygu eu dysgwyr.
Beth i'w ddisgwyl
- Eglurhad clir o gynnwys craidd y fanyleb.
- Gwerthusiad strwythuredig o ddadleuon a damcaniaethau allweddol.
- Arweiniad ar lunio atebion beirniadol cryf mewn arholiad.
- Trafodaeth ryngweithiol gyda darlithwyr arbenigol..
Rhaglen
31 March
- 1:00pm – A2 Athroniaeth: Wittgenstein a Gemau Iaith
- 2:30pm – A2 Moeseg: Sythwelediaeth
1 Ebrill
- 1:00pm – A2 Athroniaeth: Atheistiaeth
- 2:30pm – A2 Moeseg: Emosiyniaeth
2 Ebrill
- 1:00pm – A2 Athroniaeth: Iaith a Symbolaeth Grefyddol
- 2:30pm – A2 Moeseg: Naturiolaeth
7 Ebrill
- 1:00pm – UG Athroniaeth: Gwerthuso’r Ddadl Ontolegol
- 2:30pm – A2 Moeseg: Gwerthuso’r Gyfraith Naturiol
8 Ebrill
- 1:00pm – UG Athroniaeth: A all Profiad Crefyddol Brofi Bodolaeth Duw?
- 2:30pm – UG Moeseg: Gwerthuso Moeseg Sefyllfa
9 Ebrill
- 1:00pm – UG Athroniaeth: Gwerthuso Theodicaaeth Awstin
- 2:30pm – UG Moeseg: Gwerthuso Iwtilitariaeth
Mae’r sesiynau hyn yn hollol rad ac am ddim ac wedi’u hanelu at gryfhau gwybodaeth bynciol, sgiliau dadansoddol a hyder dysgwyr wrth iddynt baratoi ar gyfer yr arholiadau haf.