Fy ngwlad:

Cefnogaeth

Mae Prifysgol Bangor yn ymfalchïo yn y ffaith ei bod yn cynnig amgylchedd croesawgar i gymuned amrywiol o bobl, boed hynny'n gydweithwyr, myfyrwyr neu ymwelwyr.

Mae'r brifysgol yn glir nad oes lle i hiliaeth o unrhyw fath, a bydd unrhyw honiadau o'r natur hon yn cael eu trin o ddifrif.

Dysgwch fwy am y camau y gallwch eu cymryd i ddod ag achosion o hiliaeth sydd wedi digwydd yng nghymuned y brifysgol i’n sylw, p’un a ydych wedi’i brofi’n bersonol, wedi bod yn dyst iddo neu wedi cael gwybod amdano. 

Os ydych wedi dioddef trosedd, yn teimlo'n anniogel neu mewn perygl uniongyrchol, dylech gysylltu â'r heddlu dros y ffôn ar 999.

Os ydych ar y campws ac angen cefnogaeth gyda digwyddiad, gallwch gysylltu â Thîm Diogelwch y Brifysgol ar 01248 382795

Mae ein Polisi a Gweithdrefn Urddas wrth Weithio ac Astudio yn nodi safiad Prifysgol Bangor ar fwlio, aflonyddu ac erledigaeth ac mae’n egluro sut i ddatgelu ac adrodd am unrhyw achosion o aflonyddu. Mae’n egluro sut yr ymdrinnir â chwynion am fwlio, aflonyddu ac erledigaeth, ac mae’n darparu gwybodaeth am y gefnogaeth sydd ar gael. 

Polisi Urddas wrth Weithio ac Astudio Chwefror 2025.pdf

Disgwylir i bawb sy'n rhan o'n prifysgol ddeall eu cyfrifoldebau o ran cefnogi cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant fel yr amlinellir yn ein polisi Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant

Polisi Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant 2024.pdf

Drwy ein ffurflen Adrodd a Chefnogi. Mae ein tudalen we staff Adrodd a Chefnogi yn esbonio sut y gall staff adrodd am achosion o aflonyddu, naill ai'n ddienw neu'n uniongyrchol i Adnoddau Dynol, er mwyn sicrhau bod cefnogaeth yn cael ei darparu.

Rhannu a Chefnogi | Adnoddau Dynol | Prifysgol Bangor

Gallwch roi gwybod am ddigwyddiadau’n ddienw neu drwy ddarparu manylion cyswllt. 

Os ydych yn adrodd ar ran rhywun arall, ni fydd cyfle gennych i adael manylion cyswllt y person yr effeithiwyd arno gan y digwyddiad.

Ni fyddwn yn gallu cymryd camau pellach gyda'ch achos penodol, ond bydd y wybodaeth hon yn ein helpu i nodi unrhyw dueddiadau o ran atal bwlio, aflonyddu a gwahaniaethu.

Mae gan Brifysgol Bangor Hyrwyddwyr Cydraddoldeb: 

HYRWYDDWYR CYDRADDOLDEB

 a Hyrwyddwyr Lles:

Hyrwyddwyr Lles | Prifysgol Bangor

Mae ein hyrwyddwyr yn cynrychioli ystod amrywiol o staff o wahanol adrannau, ysgolion a cholegau, ac maent wedi cymryd rhan mewn hyfforddiant penodol ar gefnogi datgeliadau hiliaeth. 

Gallwch hefyd gysylltu â Nia Blackwell , Uwch Swyddog Cydraddoldeb Adnoddau Dynol, neu Danielle Williams  Rheolwr Siarteri Cydraddoldeb Adnoddau Dynol.

Swyddogion Adnoddau Dynol: Catherine JonesJade WhiteheadMatt ColesNia Blackwell sydd hefyd wedi cymryd rhan mewn hyfforddiant penodol ar gefnogi datgeliadau hiliaeth. 

Iechyd Galwedigaethol: Os oes gennych bryderon am eich iechyd a'ch gallu i wneud eich gwaith, neu os ydych yn dychwelyd i'r gwaith ar ôl cyfnod o salwch, gallwch ofyn am gyngor ac ymgynghoriad. 

VIVUP - Rhaglen Cymorth i Weithwyr: Os oes gennych broblem gydag iechyd meddwl neu iechyd corfforol, neu broblem ariannol neu bersonol, gallwch gael cymorth a chefnogaeth arbenigol bob awr o’r dydd a’r nos bob diwrnod o’r flwyddyn drwy ffonio 08000 239 387.